Cynnal y Cardi - Cronfa Twf Lleol 2026-2027
Mae'r gronfa hon ar agor.
“Rydym bellach yn derbyn Mynegiadau o Ddiddordeb ar gyfer grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi.”
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau, mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu Grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi. Mae'r grant hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru, a'i ddarparu drwy Gronfa Twf Lleol.
Bwriad y gefnogaeth hon yw cryfhau gwydnwch busnesau, ysgogi twf economaidd, a chyfrannu at ffyniant hirdymor Ceredigion.
Rydym yn lansio cynllun grant busnes sy’n darparu cyllid ar gyfer prosiectau buddsoddi cyfalaf yn unig. Bydd y ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb ar agor o 1af Gorffennaf 2026 tan 3ydd Awst a bydd yn cael ei hasesu am gymhwysedd. Yna gellir gwahodd ymgeiswyr cymwys i gyflwyno cais llawn.
Grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi – isafswm cefnogaeth o £2,500 hyd at £50,000
Nod Grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi yw:
- Cynyddu buddsoddiad cyfalaf mewn busnesau sydd â photensial twf uchel, gan alluogi gwelliannau mewn cynhyrchiant, arloesedd a chystadleurwydd
- Cefnogi uchelgeisiau twf ac ehangu busnesau newydd a busnesau presennol
- Hwyluso datblygiad y sector mentrau cymdeithasol, gan helpu sefydliadau i wireddu cyfleoedd newydd a chyflawni twf cynaliadwy
- Hyrwyddo creu swyddi, datblygu'r gweithlu a lefelau cyflog uwch ar draws yr economi leol
Mae'r rhaglen yn arbennig o awyddus i gefnogi prosiectau sy'n dangos arloesedd, mynediad at farchnadoedd gwerth uwch, a mabwysiadu dulliau newydd neu greadigol sy'n gwella twf busnes, cystadleurwydd a chynaliadwyedd hirdymor.
Bydd y Gronfa yn gynllun grant busnes, a fydd yn cynnwys cefnogaeth tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (e.e. costau hyfforddi sy'n gysylltiedig â phrynu offer cyfalaf - heb gynnwys costau rhedeg parhaus na chostau staff).
Sylwch fod yn rhaid i chi lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb yn gyntaf, sy'n gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich prosiect. Yna bydd eich cyflwyniad yn cael ei asesu am gymhwysedd. Os yw eich prosiect yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, cewch eich gwahodd i lenwi ffurflen gais lawn.
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Bydd y gronfa'n croesawu ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin rhwng 1af Gorffennaf 2026 a 14eg Awst 2026 (ceisiadau llawn drwy wahoddiad yn unig), neu nes bod y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein Canllawiau.