Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Er mwyn sicrhau'r gwerth gorau am arian, mae angen i bob nwydd a gwasanaeth a hawlir fel rhan o'r prosiect gael eu caffael yn agored ac yn deg. Mae angen i ymgeiswyr ddarparu dyfynbrisiau ysgrifenedig, cyfeiriadau at restrau catalog neu dendrau ffurfiol fel rhan o'u cais.

Dylid dilyn y canllawiau canlynol yn dibynnu ar werth eitem unigol:

Tabl gyda chanllawiau i'w dilyn yn dibynnu ar werth eitem unigol
Gwerth Amcangyfrifedig Nwyddau, Gwasanaethau neu Waith Dros Gyfnod Llawn y Contract* Heb gynnwys TAW Nifer y Dyfynbrisiau/Tendrau sydd yn angenrheidiol** Dull o Gael Dyfynbrisiau/Tendrau
£0 - £12,499 Digon o nifer i ddangos y gwerth gorau a chywirdeb y broses. Rhaid ystyried cyflenwyr lleol yn rhan o'r broses. Rhaid ystyried o leiaf 1 cyflenwr lleol os oes un ar gael. Ymholiad llafar neu e-bost wedi'i gadarnhau trwy chwiliadau rhyngrwyd e-bost gan gynnwys Gwerthwch2cymru, papurau masnach, catalogau electronig ac ati.
£12,500 - £24,999 Rhaid ceisio o leiaf 3 dyfynbris ac o leiaf 2 wedi'u derbyn neu dendr agored. Rhaid ystyried cyflenwyr lleol fel rhan o broses dyfynnu os oes cyflenwyr lleol ar gael. Rhaid ceisio o leiaf 1 dyfynbris gan gyflenwr lleol os yw ar gael. Ystyrir dyfynbris neu dendr ffurfiol i Sell2wales Dyfynbrisiau Cyflym yn unol â chyngor tîm Caffael a Chomisiynu'r Cyngor.

Rhaid darparu tystiolaeth o wariant drwy gyflwyno anfonebau/derbynebau wedi'u talu a datganiadau banc sy'n dangos taliadau.

Tudalen nesaf: Rheolau Cymorthdal

Tudalen flaenorol: Y Broses Asesu