Cyllid Cefnogi Mynd i'r Afael â Thlodi
Gwahoddir ymgeiswyr i gwblhau cais am Gyllid Cefnogi Mynd i'r Afael â Thlodi 2026–27.
Mae rhaglen Cefnogi Mynd i'r Afael â Thlodi yn darparu cyllid refeniw o hyd at £5,000 i gefnogi prosiectau lleol sy'n helpu i atal tlodi, cryfhau gwydnwch cymunedol, a gwella mynediad at ddarpariaeth bwyd brys. Nod y gronfa yw cefnogi mentrau ymarferol sy'n seiliedig yn y gymuned ac sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl sy'n profi caledi ariannol.
Gwybodaeth allweddol:
- Uchafswm grant: £5,000
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9:00yb, dydd Llun 2 Tachwedd 2026
- Hysbysu'r canlyniad: Ein nod yw hysbysu ymgeiswyr o’r canlyniad erbyn dydd Llun 9 Tachwedd 2026
- Dyddiad cau ar gyfer gwario'r grant: Rhaid gwario'r holl gyllid erbyn 31 Mawrth 2027
Anogir sefydliadau i gyflwyno ceisiadau am brosiectau sy'n darparu effaith leol ystyrlon ac sy'n helpu unigolion, teuluoedd a chymunedau sy'n wynebu effeithiau tlodi a'r argyfwng costau byw.
Darllenwch y canllawiau isod cyn gwneud cais.
1. Canllawiau cyllido
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd ceisiadau am gyllid refeniw sy’n cefnogi gweithredu lleol i atal tlodi, yn cryfhau gwydnwch cymunedol ac yn darparu cymorth bwyd mewn argyfwng. Rhaid i geisiadau gefnogi o leiaf un o’r ddwy flaenoriaeth wedi’u rhestri yn Adran 2.
Gwybodaeth allweddol
- Uchafswm y grant: £5,000.
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9yb ddydd Llun 2 Tachwedd 2026.
- Ein nod yw hysbysu ymgeiswyr o’r canlyniad erbyn dydd Llun 9 Tachwedd 2026.
- Rhaid cwblhau’r holl weithgarwch a gwariant a ariennir erbyn 31 Mawrth 2027.
- Mae’r cyllid hwn ar gyfer cyllid refeniw yn unig.
Ceisiadau dros £5,000: Os hoffech wneud cais am fwy na £5,000 a’ch bod yn hyderus y gellir gwario’r cyllid yn llawn erbyn 31 Mawrth 2027, cysylltwch â Teleri Davies (manylion uchod) cyn gwneud cais. Caiff ceisiadau dros £5,000 eu hystyried yn unigol ac nid oes sicrwydd y cânt eu cymeradwyo.
Beth yw cyllid refeniw?
Mae cyllid refeniw yn talu costau o ddydd i ddydd darparu gweithgarwch neu wasanaeth. Mae enghreifftiau’n cynnwys staffio, treuliau gwirfoddolwyr, bwyd, cyflenwadau traul, llogi lleoliad, hyfforddiant, allgymorth, cludiant a chyhoeddusrwydd.
Nid ydynt yn gymwys drwy’r cyllid hwn: eitemau cyfalaf, er enghraifft offer mawr, cerbydau, gwaith adeiladu neu asedau eraill y disgwylir iddynt bara am fwy na blwyddyn.
Pwy all wneud cais?
Croesewir ceisiadau gan sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, cynghorau dref a chymuned, elusennau cofrestredig, mentrau cymdeithasol, cymdeithasau tai, ysgolion a sefydliadau eraill ‘nad ydynt er elw’ sy’n cyflawni gweithgarwch sydd o fudd i bobl a chymunedau yng Ngheredigion.
Pwy na all wneud cais?
Yn anffodus, nid yw’r cyllid hwn ar gael i sefydliadau neu fusnesau yn y sector preifat, grwpiau nad oes ganddynt strwythur llywodraethu ffurfiol (er enghraifft, cyfansoddiad neu ddogfen lywodraethu) neu grwpiau nad oes ganddynt gyfrif banc yn enw'r grŵp neu'r sefydliad sy'n gofyn am lofnodion dau lofnodwr awdurdodedig.
2. Blaenoriaethau cyllido
Gallwch wneud cais o dan un flaenoriaeth neu’r ddwy. Os yw’ch cynnig yn cwmpasu’r ddwy flaenoriaeth, gwahanwch yn glir rhwng y gweithgareddau a’r costau ar gyfer pob blaenoriaeth yn eich cais.
Blaenoriaeth 1: Atal Tlodi Ehangach
Y nod yw atal tlodi, cryfhau gwydnwch ariannol a lleihau dibyniaeth dro ar ôl tro ar gymorth mewn argyfwng. Gellir defnyddio’r cyllid i:
- datblygu neu wella mannau cymunedol cynhwysol;
- darparu neu wella mynediad at gyngor ariannol, dyled, lles, tai neu gyflogaeth;
- gwella cymorth sy’n ymwneud â thlodi tanwydd, tlodi bwyd, iechyd a lles neu gynhwysiant digidol;
- datblygu dulliau ‘arian yn gyntaf’, cynlluniau talebau neu gynlluniau cardiau arian parod;
- cryfhau gwydnwch cymunedol a lleihau’r angen dro ar ôl tro am gymorth bwyd mewn argyfwng;
- cefnogi mentrau tyfu bwyd lleol;
- hyfforddi gwirfoddolwyr, er enghraifft mewn hylendid bwyd, ymwybyddiaeth o fudd-daliadau lles, ymwybyddiaeth iechyd meddwl, sgiliau digidol neu gyfeirio at gynhwysiant ariannol; a
- chefnogi profi, dysgu, meithrin gallu neu gostau cychwynnol lle mae cynllun clir ar gyfer cynaliadwyedd tymor hwy.
Blaenoriaeth 2: Cymorth Bwyd mewn Argyfwng
Y nod yw cryfhau darpariaeth fwyd frys leol a chynyddu’r gallu i gefnogi pobl sy’n profi tlodi bwyd. Gall y cyllid gefnogi:
- banciau bwyd a phantrïau bwyd;
- archfarchnadoedd cymdeithasol;
- caffis cymunedol a chlybiau cinio;
- gweithgareddau coginio cymunedol;
- hybiau bwyd cymunedol cynaliadwy;
- bwyd ychwanegol o ansawdd da a nwyddau hanfodol;
- allgymorth wedi’i dargedu;
- hyfforddiant i wirfoddolwyr; a
- chysylltiadau rhwng cymorth bwyd a gwasanaethau cyngor ehangach ar les, arian, tai neu faterion eraill.
Dull ataliol: Dylai cynigion bwyd mewn argyfwng gynnwys cyngor, atgyfeirio, cyfeirio neu elfen ataliol arall lle bynnag y bo modd, gan helpu pobl i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd.
Pwysig: Dylai’r cyllid ategu’r ddarpariaeth bresennol. Ni ddylai ddod yn brif ffynhonnell cyllid ar gyfer gwasanaeth presennol nac yn brif ffynhonnell bwyd i’w ailddosbarthu.
Cymunedau gwledig
Rydym yn croesawu’n arbennig gynigion sy’n gwella mynediad at gymorth mewn cymunedau gwledig. Lle bo’n berthnasol, eglurwch:
- yr angen neu’r rhwystr gwledig y bydd y cynnig yn mynd i’r afael ag ef;
- sut y bydd pobl yn cael mynediad at y gweithgarwch;
- a yw cludiant, pellter, allgáu digidol neu ynysigrwydd gwledig yn broblem;
- sut y bydd y cynnig yn cryfhau gwydnwch cymunedol; a
- beth y gellid ei ddysgu am ddarparu cymorth effeithiol mewn ardaloedd gwledig.
Sut y caiff ceisiadau eu hasesu
- cyd-fynd ag un neu’r ddwy flaenoriaeth gyllido;
- tystiolaeth o angen lleol a’r budd disgwyliedig i bobl yng Ngheredigion;
- i ba raddau y mae’r gweithgarwch yn atal tlodi neu’n lleihau dibyniaeth dro ar ôl tro ar gymorth mewn argyfwng;
- gwerth am arian a chyllideb glir a rhesymol;
- y gallu i gyflawni a gwario’r cyllid erbyn 31 Mawrth 2027;
- gweithio mewn partneriaeth ac osgoi dyblygu;
- ystyriaethau hygyrchedd, cydraddoldeb a’r Gymraeg;
- cynaliadwyedd neu fudd tymor hwy; a
- y gallu i fonitro gweithgarwch a dangos effaith.
Mae’r cyllid yn gyfyngedig. Nid yw bodloni’r gofynion cymhwysedd yn gwarantu dyfarniad.
3. Monitro a thystiolaeth
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gadw cofnodion ariannol priodol a darparu gwybodaeth fonitro gryno. Gall hyn gynnwys:
- beth a gyflawnwyd a sut y gwariwyd y cyllid;
- nifer y bobl a’r sefydliadau a gefnogwyd neu a oedd yn rhan o’r gwaith;
- tystiolaeth o effaith, adborth neu ddysgu;
- manylion gweithio mewn partneriaeth;
- un enghraifft fer ddienw neu astudiaeth achos; a
- ar gyfer gweithgarwch gwledig, y rhwystr gwledig yr aethpwyd i’r afael ag ef ac unrhyw ddysgu o’r gwaith cyflawni.
Dylech gasglu a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond pan fo hynny’n angenrheidiol ac yn gyfreithlon. Gellir gwneud astudiaethau achos yn ddienw.
Y Gymraeg, cydraddoldeb a hygyrchedd
Dylai gweithgareddau fod yn hygyrch ac yn gynhwysol. Dylai ymgeiswyr egluro sut y byddant yn nodi ac yn dileu rhwystrau i gyfranogi, yn diwallu anghenion gwahanol gymunedau, yn darparu neu’n hwyluso cyfranogiad drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn sicrhau bod cyhoeddusrwydd a gwybodaeth yn glir ac yn hygyrch.
Rheoliadau Hylendid Bwyd
Pan fyddwch yn dechrau menter fwyd newydd neu’n cymryd drosodd menter bresennol, rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol. Dylech wneud hyn o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau masnachu neu cyn i weithrediadau bwyd ddechrau. Cofrestrir drwy borth y Llywodraeth: Cofrestru Busnes Bwyd. Os ydych eisoes wedi cofrestru, mae dyletswydd ar Weithredwr y Busnes Bwyd i hysbysu’r Awdurdod Lleol am unrhyw newidiadau sylweddol i weithgareddau 28 diwrnod cyn eu rhoi ar waith.
Y gweithredwr yw’r person, yr elusen neu’r cwmni sy’n gwneud y penderfyniadau am y busnes bwyd. Maent yn penderfynu beth y mae’n ei weini a sut y mae’n gweithredu.
Diolch am gymryd yr amser i ddarllen y canllawiau hyn ac am eich diddordeb mewn gwneud cais am grant Cefnogi Mynd i'r Afael â Thlodi 2026–27.
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein drwy Microsoft Forms: Cronfa Cymorth Tlodi - Ffurflen Gais 2026–2027 (Llenwi'r ffurflen).
Os byddai'n well gennych gyflwyno cais papur, mae fersiwn Word y gellir ei lawrlwytho o'r ffurflen gais ar gael yma: Canllawiau a Ffurflen Gais Cronfa Cymorth Tlodi.
Gellir cyflwyno ffurflenni cais papur wedi'u cwblhau drwy:
Eu sganio a'u hanfon drwy e-bost at Emily.Evans2@ceredigion.gov.uk neu teleri.davies@cavo.org.uk;
Eu dychwelyd i'ch llyfrgell leol; neu eu postio at:
Tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Cyngor Sir Ceredigion
Neuadd y Sir Ceredigion
Penmorfa
Aberaeron
SA46 0PA
Dyddiadau allweddol:
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9:00yb, dydd Llun 2 Tachwedd 2026
- Hysbysu'r canlyniad: Ein nod yw hysbysu ymgeiswyr erbyn dydd Llun 9 Tachwedd 2026
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich cais, cysylltwch ag:
Emily Evans
E-bost: Emily.Evans2@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 570881
neu
Teleri Davies
E-bost: teleri.davies@cavo.org.uk
Ffôn: 01570 423232
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais a chefnogi prosiectau sy'n helpu i fynd i'r afael â thlodi ac i gryfhau cymunedau ledled Ceredigion.