12. Gwybodaeth Cymorth Busnes
Twf Busnes
Mae Busnes Cymru yn darparu canllawiau cyffredinol ac arbenigol am ddim i gefnogi pobl sy'n rhedeg ac yn tyfu busnes yng Nghymru. Mae Ymgynghorwyr Twf a Rheolwr Perthynas Busnes Cymru ar gael i gynghori unrhyw fusnesau sydd wedi cofrestru gyda gwasanaeth Busnes Cymru a'u cefnogi gyda'u cynlluniau twf. Cysylltwch â'ch Ymgynghorydd Twf neu Reolwr Perthynas am gymorth, neu e-bostiwch trading@businesswales.org neu ffoniwch 03000 603000 i ofyn am gymorth.
Cyn-gychwyn a Chychwyn Busnes
Mae Tîm Cychwyn Busnes Cymru yn darparu canllawiau wedi'u teilwra am ddim a chymorth ymarferol i helpu busnesau newydd i sefydlu a thyfu'n hyderus. Mae ymgynghorwyr cychwyn Busnes Cymru yn gallu cynnig cymorth un-i-un, sydd fel arfer yn canolbwyntio ar ddatblygu eich achos busnes, cynorthwyo gyda cheisiadau am gyllid neu grantiau, a pharatoi dogfennau allweddol fel eich cynllun busnes a'ch rhagolygon ariannol. I gael mynediad at gymorth, e-bostiwch StartUp@BusinessWales.org neu ffoniwch 03000 603000 i ofyn am gymorth.
Am ragor o wybodaeth am y ddau bwnc hyn ewch i wefan Busnes Cymru.
Tudalen flaenorol: Cyhoeddusrwydd