6. Y Broses Ymgeisio
Anogir ymgeiswyr yn gryf i geisio cymorth gan ddarparwr cymorth busnes neu ymgynghorydd cydnabyddedig wrth baratoi eu cais.
Fel rhan o'r cais, rhaid cyflwyno'r canlynol:
- Ffurflen Gais wedi'i chwblhau'n llawn a thaenlen Excel Atodiad A
- Cynllun Busnes, gan gynnwys rhagolygon rhagamcanol o leiaf ddwy flynedd (llif arian a/neu elw a cholled)
- O leiaf dwy flynedd o gyfrifon hanesyddol a chyfrifon rheoli diweddar, lle bo modd. Os yw'r busnes wedi bod yn masnachu am lai na dwy flynedd, rhaid darparu cyfrifon rheoli a/neu grynodeb incwm a gwariant o ddechrau masnachu hyd at ddyddiad y cais
- Dyfynbrisiau ysgrifenedig ffurfiol ar gyfer pob eitem sydd wedi'i chynnwys yn y cais (gweler y canllawiau caffael isod)
- Tystiolaeth o gyllid cyfatebol
Noder: Yr ymgeisydd yn unig sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â holl ofynion y cynllun. Gall methu â gwneud hynny arwain at beidio â thalu neu adennill arian grant.
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg a chânt eu trin yn gyfartal.
Ni ddylai gwariant ddechrau cyn cael ei gymeradwyo, gan na chaniateir cyllido ôl-weithredol.
Tudalen nesaf: Y Broses Asesu
Tudalen flaenorol: Gwariant Anghymwys