1. Cyflwyniad i Cronfa Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau, mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy'r Gronfa Twf Lleol.
Bwriad y gefnogaeth hon yw cryfhau gwydnwch busnesau, ysgogi twf economaidd, a chyfrannu at ffyniant hirdymor Ceredigion.
Nod Grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi yw:
- Cynyddu buddsoddiad cyfalaf mewn busnesau sydd â photensial twf uchel, gan alluogi gwelliannau mewn cynhyrchiant, arloesedd a chystadleurwydd
- Cefnogi uchelgeisiau twf ac ehangu busnesau newydd a busnesau presennol
- Hwyluso datblygiad y sector mentrau cymdeithasol, gan helpu sefydliadau i wireddu cyfleoedd newydd a chyflawni twf cynaliadwy
- Hyrwyddo creu swyddi, datblygu'r gweithlu a lefelau cyflog uwch ar draws yr economi leol
Derbynnir ceisiadau gan fusnesau ar draws pob sector; fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i brosiectau o fewn y sectorau canlynol, fel sectorau blaenoriaeth ar gyfer yr economi leol:
- Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch
- Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth
- Adeiladau
- Digidol
- Ynni
- Bwyd a Diod
- Manwerthu
- Twristiaeth a Hamdden
Mae’r rhaglen yn arbennig o awyddus i gefnogi prosiectau sy’n dangos arloesedd, mynediad at farchnadoedd gwerth uwch, a mabwysiadu dulliau newydd neu greadigol sy’n gwella twf busnes, cystadleurwydd a chynaliadwyedd hirdymor.
Rhaid cwblhau’r holl weithgareddau, a hawlio’r cyllid erbyn 31ain o Ionawr 2027.
Bydd y Gronfa yn gynllun grant busnes, a fydd yn cynnwys cefnogaeth tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (e.e. costau hyfforddi sy'n gysylltiedig â phrynu offer cyfalaf - heb gynnwys costau rhedeg parhaus na chostau staff).
Noder bod yn rhaid i chi lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb yn gyntaf, sy'n gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich prosiect. Yna bydd eich cynnig yn cael ei asesu am gymhwysedd. Os yw eich prosiect yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, byddwch yn cael eich gwahodd i lenwi ffurflen gais lawn.
Cronfa Busnes Cyfalaf Cynnal y Cardi - Ffurflen Mynegi Diddordeb
Bydd y grant ar agor i geisiadau ar sail y cyntaf i'r felin o 1af Gorffennaf 2026.
Gweler y dyddiadau cau yn y tabl isod:
| Dyddiadau | |
|---|---|
| Agor y ffurflen Mynegi Diddordeb | 1af o Orffennaf 2026 |
| Dyddiad cau ffurflen Mynegi Diddordeb | 3ydd o Awst 2026 |
| Dyddiad cau ceisiadau llawn gyda’r holl dystiolaeth ategol (ar wahoddiad gan dîm CYC) | 14eg o Awst 2026 |
Tudalen nesaf: Faint o gyllid sydd ar gael?