7. Y Broses Asesu
Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar yr allbynnau a chanlyniadau disgwyliedig o’r prosiect, ynghyd â’r meini prawf canlynol.
Allbynnau a Chanlyniadau
- Ymgysylltu â marchnadoedd newydd
- Mabwysiadu technolegau neu brosesau sy'n newydd i'r cwmni
- Swm yr arwynebedd llawr a gwblhawyd / a wellwyd
- Cyfleusterau / amwynderau newydd / a wellwyd
- Gwelliannau amlwg mewn cynhyrchiant o fewn chwe mis (cynnydd yn y gwerth ychwanegol gros fesul awr a weithir)
- Datblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd i'r farchnad
- Nifer y mentrau sy'n llwyddo i drawsnewid i fandiau maint uwch (Nifer y mentrau sy'n tyfu o un band maint gweithiwr i fand uwch o fewn 12 mis i gefnogaeth
- Nifer yr unedau gwag a lenwyd
- Swyddi newydd a grëwyd o ganlyniad i gefnogaeth
Meini Prawf Asesu
- Cryfder ac ansawdd cynnig y prosiect, gan gynnwys ei lefel o arloesedd
- Gwerth am arian a chadernid costau'r prosiect
- Cyflawnadwyedd o fewn yr amserlen arfaethedig
- Cyd-fynd â Strategaeth Economaidd Ceredigion
- Cynllun busnes clir a chredadwy sy'n dangos y cyfle twf arfaethedig - (Rhaid i ymgeiswyr ddarparu cynllun busnes sy'n dangos yn glir sefyllfa bresennol y busnes, ei uchelgeisiau twf, a sut y bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cyfrannu at gyflawni twf cynaliadwy, cynhyrchiant cynyddol, arloesedd a chreu swyddi. Dylai cynlluniau fod yn glir, gan ddarparu tystiolaeth gryno i gefnogi'r buddsoddiad a geisir)
**Bydd creu swyddi yn cael ei asesu fesul achos, gan ystyried natur a chynlluniau twf pob busnes. Rydym yn cydnabod efallai na fydd twf cyflogaeth yn digwydd ar unwaith ac, er enghraifft, y gellir creu tair swydd newydd dros gyfnod o dair blynedd fel rhan o strategaeth ehangu tymor hwy. Fodd bynnag, bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth sy'n dangos nifer disgwyliedig y swyddi a fydd yn cael eu creu o fewn cyfnod y grant (erbyn 31 Ionawr 2027) a dangos bod y rhagamcanion hyn yn realistig ac yn gyraeddadwy.
Tudalen nesaf: Caffael
Tudalen flaenorol: Y Broses Ymgeisio