Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

3. Pwy sy'n gallu ymgeisio?

Mae'r Grant ar agor i fusnesau newydd, microfusnesau a mentrau bach a chanolig (busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr a chyda throsiant neu gyfanswm mantolen islaw'r trothwy perthnasol). Dim ond i fusnesau sydd â chyfeiriad cofrestredig yng Ngheredigion y mae'r grant ar gael a rhaid defnyddio'r buddsoddiad i gefnogi eu gweithrediad busnes o fewn y sir. Bydd angen tystiolaeth fel cofrestru gyda CThEM, datganiadau banc, ac ati i brofi dyddiadau masnachu.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu cynlluniau twf (a darparu tystiolaeth lle bo'n berthnasol) o fewn y broses ymgeisio. Diffinnir twf busnes fel busnes sy'n ceisio cynyddu cyflogaeth, trosiant, cynhyrchiant, arloesedd neu sy'n gallu dangos ehangu'r farchnad. Rhoddir blaenoriaeth i fusnesau sydd â'r uchelgais a'r nodwedd i ehangu.

Argymhellir yn gryf bod ymgeiswyr yn ceisio cymorth gan ddarparwr cymorth busnes neu ymgynghorydd cydnabyddedig cyn cwblhau eu ffurflen gais.

(Mae cyngor a chymorth busnes ar gael gan sefydliadau fel Busnes Cymru Gwasanaethau arbenigol).

Rhaid cyflawni a chwblhau gwariant sy’n gysylltiedig â’r grant erbyn 31ain o Ionawr 2027.

Tudalen nesaf: Gwariant Cymwys

Tudalen flaenorol: Faint o gyllid sydd ar gael?