Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

2. Faint o gyllid sydd ar gael?

Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys. Bydd y cymorth grant lleiaf yn £2,500 a hyd at £50,000.

Rhaid i'r cyllid cyfatebol fod yn arian parod (yn hytrach nag 'mewn nwyddau') a dod o ffynonellau'r sector preifat.

Lle cymeradwyir cais, rhaid i'r busnes ariannu 100% o'r gwariant cyn derbyn y grant y cytunwyd arno fel ad-daliad.

Mae gwneud cais yn broses gystadleuol, a bydd gwerth am arian/effaith yn ffactor allweddol wrth asesu a dewis prosiectau.

Mae grantiau ar gael ar gyfer ceisiadau sy'n cyd-fynd yn glir â chyflawni Strategaeth Economaidd Ceredigion a Chynllun Cyflogaeth - Rhoi Hwb i Economi Ceredigion - Strategaeth ar gyfer Gweithredu 2020-2035.

Tudalen nesaf: Pwy sy'n gallu ymgeisio?

Tudalen flaenorol: Cyflwyniad i Cronfa Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi