Sut i Wneud Cais
Cam 1 – Dewiswch y Ffurflen Gais Gywir
Tai a Gymeradwywyd o dan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofyniad safonol person lleol o 5 mlynedd neu fodloni'r maen prawf gweithiwr allweddol, gofalwr neu dderbynnydd gofal.
➡ Lawrlwytho Ffurflen Gais y CDLl
Tai a Gymeradwywyd o dan y Cynllun Datblygu Unedol (CDU)
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi byw yng Ngheredigion am 10 mlynedd ddi-dor yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf neu fodloni'r maen prawf gweithiwr allweddol, gofalwr neu dderbynnydd gofal.
➡ Lawrlwytho Ffurflen Gais y CDU
Ddim yn siŵr pa ffurflen sy'n berthnasol? Cysylltwch â'r Tîm Polisi Cynllunio: GBG-DFS@ceredigion.gov.uk
01545 572881
Cam 2 – Casglwch Eich Tystiolaeth
Darparwch y dystiolaeth ariannol ofynnol, tystiolaeth o'ch statws fel person lleol, gweithiwr allweddol, gofalwr neu dderbynnydd gofal, a thystiolaeth mai'r tŷ fydd eich unig gartref neu'ch prif gartref.
Cam 3 – Cyflwyno Eich Cais
Cyflwynwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau a'r dogfennau ategol drwy e-bost lle bynnag y bo modd i: GBG-DFS@ceredigion.gov.uk
Os nad ydych yn gallu anfon eich cais drwy e-bost, gallwch ei bostio i'r cyfeiriad isod. Os hoffech i unrhyw ddogfennau gwreiddiol gael eu dychwelyd, rhowch wybod i ni mewn llythyr eglurhaol.
Polisi Cynllunio, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA
Peidiwch ag oedi cyn cyflwyno eich cais os ydych yn dal i aros am rai dogfennau.
Ticiwch "Yn aros amdano" ar y ffurflen gais lle bo'n briodol a chyflwynwch y dogfennau pan fyddant ar gael.
Beth Sy'n Digwydd Nesaf?
Unwaith y byddwn wedi asesu eich cais ac wedi cadarnhau eich bod yn bodloni'r holl ofynion cymhwysedd, byddwn yn:
- Anfon llythyr at y gwerthwr (neu ei asiant) yn cadarnhau bod prynwr cymwys wedi'i nodi
- Anfon llythyr eglurhaol a Thystysgrif Cymhwysedd atoch
- Ar ôl i chi dderbyn eich Tystysgrif Cymhwysedd, gall y broses brynu fel arfer barhau yn yr un modd ag unrhyw bryniant tŷ arall
Am Ba Hyd Mae'r Dystysgrif yn Ddilys?
Mae eich Tystysgrif Cymhwysedd yn ddilys am 18 wythnos o'r dyddiad y caiff ei chyhoeddi.
Angen Tystysgrif Newydd?
Os daw eich Tystysgrif Cymhwysedd i ben cyn i chi gwblhau'r pryniant, gallwch wneud cais am dystysgrif newydd.
Er mwyn ailgyhoeddi Tystysgrif Cymhwysedd, bydd angen y canlynol arnom fel arfer:
- Eich slipiau cyflog neu wybodaeth incwm diweddaraf am y 3 mis diwethaf
- Cadarnhad o'ch cynnig morgais presennol neu forgais mewn egwyddor
Mae hyn yn ein galluogi i gadarnhau eich bod yn parhau i fodloni'r gofynion cymhwysedd ariannol cyn cyhoeddi Tystysgrif Cymhwysedd newydd.
Angen Cymorth?
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys, pa ffurflen gais sydd ei hangen arnoch, neu pa dystiolaeth ategol sydd ei hangen, cysylltwch â'r Tîm Polisi Cynllunio.
01545 572881
Ar Ôl Prynu'r Tŷ
Gweithred Drosglwyddo (TR1)
Ar ôl cwblhau'r pryniant, rhaid i chi ddarparu copi o'r Weithred Drosglwyddo (TR1) wedi'i llofnodi a'i dyddio i'r Cyngor.
Mae hyn yn cadarnhau:
· Trosglwyddiad y tŷ i'ch perchnogaeth
- Y pris prynu
- Dyddiad cwblhau'r gwerthiant
- Cydymffurfiaeth â gofynion tai fforddiadwy
Anfonwch gopi drwy e-bost i: GBG-DFS@ceredigion.gov.uk
cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl cwblhau'r pryniant.
Datganiad Statudol Blynyddol
Rhaid i berchnogion Tai Disgownt ar Werth gwblhau Datganiad Statudol Blynyddol sy'n cadarnhau:
- Bod y tŷ yn parhau'n unig gartref neu'n brif gartref iddynt
- Eu bod yn parhau i feddiannu'r tŷ yn unol â'r gofynion tai fforddiadw
- Nad ydynt yn berchen ar dŷ preswyl arall oni bai bod hynny'n cael ei ganiatáu gan y cytundeb cynllunio
Rhaid cwblhau a dychwelyd y datganiad bob blwyddyn.
Gall methu â darparu'r datganiad arwain at y Cyngor yn ymchwilio i weld a yw'r gofynion preswylio yn parhau i gael eu bodloni.