Rhentu Eich Tŷ Tai Fforddiadwy
A allaf rentu fy Nhŷ Disgownt ar Werth?
Na, nid yn awtomatig.
Bwriedir i Dai Disgownt ar Werth gael eu meddiannu gan y perchennog cymwys fel ei unig gartref neu ei brif gartref. Ni chewch:
- Rhentu'r tŷ
- Defnyddio'r tŷ fel cartref gwyliau
- Caniatáu i rywun feddiannu'r tŷ nad yw'n bodloni'r gofynion tai fforddiadwy
heb gael y cymeradwyaethau angenrheidiol yn gyntaf.
Mae'r tŷ yn parhau i fod yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau tai fforddiadwy a gynhwysir yn y Cytundeb Adran 106 drwy gydol oes y tŷ.
Tai â Chytundebau Hŷn (CDU)
Cafodd llawer o dai fforddiadwy hŷn eu cymeradwyo o dan bolisïau cynllunio blaenorol ac maent yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106 y CDU. Fel arfer, ni ellir rhentu'r tai hyn. Os hoffech rentu tŷ sydd â chytundeb CDU, bydd angen i chi:
- Ddiweddaru'r cytundeb i gytundeb CDLl cyfredol sy'n caniatáu i'r tŷ weithredu fel annedd Rhent Canolradd.
Tai â Chytundebau Cyfredol (CDLl) Gellir newid tai a gymeradwywyd o dan y CDLl o:
Disgownt ar Werth (DFS) i Rhent Canolradd (IR)
Cyn y gellir rhentu'r tŷ:
- Rhaid cyflwyno cais i addasu neu ddiddymu'r rhwymedigaeth gynllunio.
- Rhaid diweddaru'r cytundeb cyfreithiol.
Os Cymeradwyir Eich Tŷ ar gyfer Rhent Canolradd
Unwaith y bydd wedi'i gymeradwyo fel tŷ Rhent Canolradd:
- Rhaid i'r landlord fod yn aelod o Achrediad Landlordiaid Cymru.
- Rhaid pennu'r rhent yn unol â Thabl Lefelau Rhent Canolradd a Bandiau Incwm y CyngorRhaid i'r tenant fodloni'r gofynion cymhwysedd Rhent Canolradd.
- Rhaid gwirio'r dystiolaeth ategol cyn i'r denantiaeth ddechrau.
➡Gweler y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy (CCA) a'r Taflenni Cymorth Tai Fforddiadwy am y lefelau rhent a'r bandiau incwm cymwys cyfredol.
Costau
Mae newid cytundeb tai fforddiadwy yn gofyn am broses ymgeisio ffurfiol a gwaith cyfreithiol.
Diweddaru Cytundeb CDU i Gytundeb CDLl
Fel arfer, bydd hyn yn gofyn am:
- Cais i addasu neu ddiddymu'r rhwymedigaeth gynllunio. Nid oes ffi.
- Tâl cyfreithiol Adran 106. Gweler Ffioedd a Thaliadau'r Cyngor.
Trosi o Ddisgownt ar Werth i Rent Canolradd
Fel arfer, bydd hyn yn gofyn am:
- Cais i addasu neu ddiddymu'r rhwymedigaeth gynllunio. Nid oes ffi.
- Amrywiad cyfreithiol i'r Cytundeb Adran 106 presennol. Gweler Ffioedd a Thaliadau'r Cyngor.
Ffioedd a Thaliadau Cyfredol
I weld y ffioedd a'r taliadau diweddaraf, gweler: ➡ Cyllidebau a Chyllid - Cyngor Sir Ceredigion 📧GBG-DFS@ceredigion.gov.uk