Cwestiynau Cyffredin
Rwyf eisoes yn berchen ar gartref. A allaf wneud cais i brynu cartref fforddiadwy?
Os ydych yn berchen ar gartref ar hyn o bryd, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i brynu cartref fforddiadwy. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi werthu eich eiddo presennol cyn cwblhau'r broses o brynu'r cartref fforddiadwy.
Gallwch wneud cais am dystysgrif cymhwystra tra byddwch yn dal i fod yn berchen ar eich cartref presennol. Os byddwch yn bodloni'r holl ofynion cymhwystra, byddwn yn anfon llythyr dros dro atoch chi ac at werthwr neu asiant y cartref fforddiadwy, yn cadarnhau eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwystra mewn egwyddor.
Ni fydd tystysgrif cymhwystra yn cael ei chyhoeddi nes byddwn wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan eich cyfreithiwr fod gwerthiant eich eiddo presennol wedi'i gwblhau.
Mae fy nhystysgrif cymhwystra ar fin dod i ben ac nid wyf wedi cwblhau'r broses o brynu fy nghartref fforddiadwy eto. Beth ddylwn i ei wneud?
Dim ond ar ôl i dystysgrif ddod i ben y gallwn ei hailgyhoeddi. I wneud cais am dystysgrif cymhwystra newydd, cysylltwch â ni a darparu'r canlynol:
- Eich slipiau cyflog diweddaraf ar gyfer y 3 mis diwethaf, neu wybodaeth am eich incwm.
- Cadarnhad o'ch cynnig morgais presennol neu forgais mewn egwyddor.
Mae angen y wybodaeth hon arnom er mwyn gwirio eich bod yn dal i fodloni gofynion cymhwystra'r cynllun.