2. Dogfennau sydd eu hangen i brofi Meini Prawf Preswyliad Lleol/Gweithiwr Allweddol/Gofalwr
Os oes mwy nag un ymgeisydd, dim ond un person sydd angen cymhwyso. Dim ond tystiolaeth ar gyfer un o'r meini prawf cymhwysedd isod sydd angen i chi ei darparu.
Dogfennau sydd eu hangen i brofi Meini Prawf Preswyliad Lleol
- Gwybodaeth ar y Gofrestr Etholwyr. Fe gewch chi’r wybodaeth drwy gysylltu â Gwasanaeth Cofrestru Etholiadol Cyngor Sir Ceredigion (Ffôn: 01545 572035). Codir tâl am hyn
- Llythyr oddi wrth eich Meddyg. Yn nodi pryd cofrestrwyd chi yn y feddygfa a’ch cyfeiriad/au ers ichi gofrestru
- Os oeddech chi yn yr ysgol/coleg ar unrhyw adeg yn ystod y deng mlynedd dan sylw, cysylltwch â’r ysgol/coleg a gofynnwch am lythyr yn datgan y cyfnod pan fuoch chi’n fyfyriwr a’ch cyfeiriad ar y pryd
Neu:
Dogfennau sydd eu hangen i brofi Meini Prawf Gweithiwr Allweddol
- Darparwch dystiolaeth o'ch cyflogaeth e.e. contract a disgrifiad swydd
Neu:
Dogfennau sydd eu hangen i brofi Meini Prawf Gofalwr
Bydd arnoch angen meddwl am yr wybodaeth sydd ar gael i gadarnhau i) hyd iv) isod.
- pam fod angen gofal arnoch chi/eich perthynas agos;
- pam fod tŷ eich perthynas agos yn anaddas i bawb ohonoch fyw ynddo, a pham nad oes modd ei addasu neu’i ymestyn i ateb y diben;
-
Sut mae eich perthynas agos yn bodloni rhan gyntaf y meini prawf preswylio hyn?
- sut ydych chi’n perthyn i’ch perthynas agos (brawd, chwaer, mab, merch, rhiant, taid, nain, nai, nith, gŵr neu wraig, gan gynnwys perthnasau rhiant-plentyn yn sgil mabwysiadu, a pherthnasau rhwng pobl sy’n byw fel petasent yn ŵr a gwraig, gan gynnwys cyplau o’r un rhyw);
O ran i) er enghraifft, mae’n debygol y bydd y person sydd angen gofal (chi neu’ch perthynas) yn cael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a/neu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Byddai llythyr gan un o’r rhain yn gallu helpu i ddangos fod angen gofal sylweddol arnoch chi/eich perthynas agos.
O ran ii), byddai llythyr oddi wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd yn gallu helpu i esbonio pam fod cartref presennol eich perthynas yn anaddas a pham nad oes modd ei addasu na’i ymestyn.
O ran iii), bydd arnoch angen ystyried sut allwch chi ddangos bod eich perthynas yn bodloni’r maen prawf Person Lleol.
O ran iv), gan ddibynnu ar eich perthynas, byddai darparu copi o’ch Tystysgrif Geni ac un eich perthynas (er enghraifft, rhiant) yn dangos sut yr ydych chi’n perthyn.