Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

1. Dogfennau Sy’n Ofynnol i Brofi Cymhwystra Ariannol

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch cymhwystra am forgais, eich incwm ac unrhyw drefniadau cyllido eraill. 

Tystiolaeth Morgais 

Mae’r dystiolaeth ofynnol yn cynnwys:

  • Tystysgrif Morgais, Addewid Morgais neu Benderfyniad mewn Egwyddor sy’n cynnwys enwau POB Ymgeisydd. 

Mae’n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am forgais hyd yn oed os nad oes angen morgais arnoch, os na allwch gael morgais, neu os gwrthodwyd eich cais am forgais.

  • Llythyr neu e-bost gan eich darparwr morgais yn cadarnhau’r uchafswm morgais sydd ar gael i chi ac unrhyw gyd-ymgeisydd, os nad yw’r geiriau “uchafswm” neu “hyd at” wedi’u nodi ar eich Tystysgrif Morgais, Addewid Morgais neu Benderfyniad mewn Egwyddor. 

Mae hyn yn ein helpu i asesu’r uchafswm y gallech ei fenthyca, a all fod yn wahanol i’r swm yr oeddech wedi gwneud cais amdano’n wreiddiol.

  • Os yw eich morgais yn 65% neu lai o’r pris prynu, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol yn dangos sut y caiff gweddill y pryniant ei ariannu.

Gall enghreifftiau gynnwys:

  • Datganiadau cynilion
  • Datganiadau buddsoddi
  • Cadarnhad o flaendal rhoddedig
  • Elw o werthu ased arall
  • Cronfeydd eraill sydd ar gael

Tystiolaeth Incwm 

Mae tystiolaeth incwm yn ofynnol ar gyfer pob ymgeisydd. 

Tystiolaeth o Incwm Cyflogaeth 

Mae’r dystiolaeth ofynnol yn cynnwys:

  • Eich slipiau cyflog 3 mis diwethaf 
  • Slipiau cyflog 3 mis diwethaf y cyd-ymgeisydd (os yn berthnasol)
  • Eich P60 mwyaf diweddar 
  • P60 mwyaf diweddar y cyd-ymgeisydd (os yn berthnasol) Tystiolaeth o Incwm Hunangyflogaeth 
  • Cyfrifon busnes sy’n cwmpasu’r 3 blynedd diwethaf 
  • Cyfrifon busnes y cyd-ymgeisydd sy’n cwmpasu’r 3 blynedd diwethaf (os yn berthnasol) Tystiolaeth o Incwm o Fudd-daliadau 
  • Tystiolaeth o unrhyw fudd-daliadau a dderbynnir gan unrhyw ymgeisydd, megis llythyrau dyfarnu neu ddatganiadau o’r 3 mis diwethaf sy’n dangos y taliadau a dderbyniwyd

Gall enghreifftiau gynnwys:

  • Credyd Cynhwysol
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Pensiwn

Tystiolaeth o Incwm Ymddeol 

Gall y dystiolaeth gynnwys:

  • Datganiadau taliadau pensiwn ar gyfer y 3 mis diwethaf 
  • Eich datganiad pensiwn blynyddol mwyaf diweddar
  • Manylion unrhyw lwfansau neu incwm ychwanegol 

Mathau Eraill o Incwm

Tystiolaeth sy’n egluro’r incwm a ffynhonnell y swm. 

Cyn Cyflwyno Eich Cais 

Gwnewch yn siŵr bod pob dogfen yn glir, yn gyflawn ac yn gyfredol. Ni ellir asesu ceisiadau’n llawn hyd nes y bydd yr holl dystiolaeth ariannol ofynnol wedi’i derbyn.