
Pencampwriaethau Seiclo yng Ngheredigion
Ceredigion fydd cartref Pencampwriaethau Rasio Ffordd Genedlaethol Lloyds gan British Cycling eleni, a Phencampwriaethau Beicio Cymru.
Cynhelir y digwyddiadau rhwng 26 a 29 Mehefin. Mae rhagor o wybodaeth am y llwybrau a’r gweithgareddau ar gael ar dudalen Pencampwriaethau Seiclo.
Dechreuodd Cyfyngiadau Gwastraff Gweddilliol ar 23 Mehefin 2025
Mae cartrefi yng Ngheredigion bellach wedi'u cyfyngu i 3 bag o wastraff gweddilliol (bagiau du) bob 3 wythnos. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Cymorth Ariannol a Chymorth Aelwydydd
Rhagor o wybodaeth ar y dudalen Cymorth Costau Byw.
Ein Gwasanaethau
Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion

Darganfyddwch beth sy'n digwydd ar draws Canolbarth Cymru yn Sioe Frenhinol!
Mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys yn gwahodd ymwelwyr i'r Sioe Frenhinol i alw heibio drwy gydol wythnos y sioe (21-24 Gorffennaf) i archwilio ystod gyffrous o arddangosfeydd a gweithgareddau sy'n rhyngweithiol ac yn addysgiadol i'r cyhoedd.
30/06/2025

Llwyddiant yng Nghynadledd Gwaith Ieuenctid Ceredigion 2025
Ar 24 Mehefin 2025, daeth dros 100 o bobl ifanc, Gweithwyr Ieuenctid, addysgwyr a phartneriaid ynghyd yng Nghanolfan Gynadledda Medrus, Prifysgol Aberystwyth, ar gyfer Cynhadledd Gwaith Ieuenctid 2025, a gynhaliwyd fel rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
27/06/2025

Hwb i arloesi ym maes Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd yng nghanolbarth a gogledd Cymru wrth i fusnesau lleol gael cymorth
Mae ton newydd o arloesi'n digwydd ar draws y canolbarth a'r gogledd wrth i fusnesau blaengar gael cymorth yn rhan o gynllun gan Innovate UK, sef Meithrin Arloesi yn y Clwstwr Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru.
26/06/2025

Buddsoddiad Cam 1 wedi'i ddatgloi ar gyfer prosiect trawsnewidiol yn CyDA
Mae Cytundeb Twf Canolbarth Cymru wedi cymryd cam mawr arall ymlaen gyda chymeradwyo cyllid ar gyfer cam cyntaf prosiect Cynefin, dan arweiniad y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CyDA) ger Machynlleth.
25/06/2025