Newyddion
Rhannwch eich barn ar gynlluniau’r dyfodol ar gyfer dau safle allweddol yn Llandysul
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd trigolion i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol defnydd dau safle pwysig yn Llandysul – cyn gartref gofal Awel Deg a chaeau chwarae’r hen ysgol.27/01/2026
Cofrestrwch i bleidleisio ar gyfer yr Etholiad i Senedd Cymru
Bydd Etholiad i Senedd Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau, 07 Mai 2026, lle gall pleidleiswyr ledled Cymru ddewis 96 o Aelodau a fydd yn eu cynrychioli yn Senedd Cymru.27/01/2026
Cynllun Llyfrau Iechyd Mislif Ceredigion ar gyfer ysgolion a llyfrgelloedd tref
Mae Cynllun Urddas Mislif Ceredigion wedi gallu cynnig 'pecynnau llyfrau' cynhwysfawr i bob Ysgol Uwchradd a Gydol Oes a llyfrgelloedd tref yn y Sir, yn dilyn cyllid gan Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion.27/01/2026
Cyllid o £2.95m Innovate UK wedi’i ddyfarnu i naw prosiect technoleg amaeth a thechnoleg bwyd
Mae naw prosiect arloesol ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru wedi sicrhau cyfanswm o £2.95 miliwn mewn cyllid Ymchwil a Datblygu Cydweithredol gan Innovate UK, gan gryfhau ecosystem arloesi technoleg amaeth a thechnoleg bwyd y rhanbarth.26/01/2026
Gweinidog yn gweld potensial twf Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd newydd
Mae Gweinidog o Swyddfa Cymru wedi clywed am gynlluniau i ddatblygu Parc Arloesi Dyfodol Gwyrdd newydd ar ymweliad i Brifysgol Aberystwyth.23/01/2026
23/01/2026
Gwyddoniaeth gymunedol a monitro arfordirol yn cymryd y llwyfan yng nghynhadledd forol Ceredigion
Mae trigolion, gwirfoddolwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelu arfordir Ceredigion yn cael eu gwahodd i fynychu Cynhadledd Monitro Morol ar 18 Chwefror yng Nghastell Aberteifi. Bydd y digwyddiad yn arddangos sut mae arfordir Ceredigion yn cael ei ddeall yn well a’i ddiogelu drwy brosiect dan arweiniad y gymuned sy’n dod â phobl leol ac arbenigwyr ynghyd i fonitro ansawdd dŵr — a bydd hefyd yn egluro sut y gall eraill gymryd rhan.20/01/2026
Awdurdod Lleol Ceredigion yn Cefnogi Mudiad Cenedlaethol Plentyndod Heb Ffonau Clyfar
Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn partneriaeth ag ysgolion a theuluoedd ledled y sir, yn falch o gyhoeddi ei gefnogaeth i’r mudiad cenedlaethol Plentyndod Heb Ffonau Clyfar. Mae’r menter yn hyrwyddo plentyndod sy’n llawn rhyddid, chwarae ac ymddygiad cymdeithasol cadarnhaol.19/01/2026
Dathlu doniau cerddorol Ceredigion
Roedd Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn llawn dop ddiwedd mis Rhagfyr wrth i gynulleidfa frwd ymgynnull i fwynhau cyngerdd Gwasanaeth Cerdd a Drama Ceredigion, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Rotari Ardal Aberystwyth.16/01/2026
Gwaith adeiladu ar y gweill ar gyfer llwybr Teithio Llesol rhwng Waunfawr ac IBERS
Mae gwaith adeiladu pellach wedi'i gynllunio ar gyfer 2026 i ddarparu'r llwybr beicio a cherdded newydd rhwng Waunfawr ac IBERS.13/01/2026
Cynnydd cyson ym mhresenoldeb disgyblion y sir
Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn cyfrif wrth feithrin arferion dysgu cryf, cefnogi lles a pharatoi plant a phobl ifanc ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.12/01/2026
Eira: Ysgolion ar gau yng Ngheredigion
Bydd nifer o ysgolion ar gau heddiw (09/01/2026) yng Ngheredigion oherwydd yr tywydd:09/01/2026
Diweddariad Storm Goretti – cymerwch ofal wrth deithio
Disgwylir tywydd garw ac amodau gyrru heriol dros yr oriau nesaf (dydd Iau 08 Ionawr) ac yfory (dydd Gwener 09 Ionawr) wrth i Storm Goretti daro Ceredigion.08/01/2026
Llysiau lleol yn cymryd lle blaenllaw ar fwydlenni Ysgolion Ceredigion
Mae Ceredigion yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Ers Ionawr 2025, mae pob ysgol yng Ngheredigion wedi bod yng nghymryd rhan yn y prosiect, gan weini llysiau organig wedi’u tyfu yng Nghymru fel rhan o’u cinio ysgol.07/01/2026
Bwrw golwg yn ôl ar gyflawniadau 2024-2025
Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cyhoeddi adroddiad hunanasesu blynyddol. Mae’r adroddiad diweddaraf, sy’n adolygu blwyddyn 2024-2025, bellach ar gael i'w ddarllen ar wefan y Cyngor.07/01/2026
Storm Goretti: rhybudd am ragor o eira i Geredigion
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd Ambr a rhybudd Melyn am eira a fydd yn effeithio ar rannau o Geredigion dros y dyddiau nesaf.07/01/2026
Rhannwch eich barn ar gynlluniau pont troed Plascrug
Bydd digwyddiad ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar 14 Ionawr i archwilio opsiynau a chynigion ar gyfer Pont Teithio Lesol ym Mhlascrug, Aberystwyth, a gynigir gan Gyngor Sir Ceredigion.06/01/2026
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn lansio ymgysylltiad i lunio strategaeth newydd
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gwahodd pobl ifanc, partneriaid a chymunedau i gyfrannu at lunio dyfodol gwaith ieuenctid ar draws y sir.06/01/2026
Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn sgwrsio gydag Elin Jones AS
Ar 15 Rhagfyr 2025, ymwelodd aelodau o Gyngor Ieuenctid Ceredigion â Senedd Cymru yng Nghaerdydd, a chyfarfod ag Elin Jones AS i drafod materion allweddol sy’n bwysig i bobl ifanc.29/12/2025
Helpwch i lunio dyfodol Ceredigion Oed Gyfeillgar
Gwahoddir trigolion lleol i gymryd rhan yn y gwaith o lunio blaenoriaethau Cynllun Gweithredu Oed Gyfeillgar y sir ar gyfer y tair blynedd nesaf.24/12/2025
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Dosbarthu Pecynnau Lles i Gefnogi Pobl Ifanc dros y Nadolig
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi paratoi 108 o Becynnau Llesiant i ddod â chysur a llawenydd i blant a phobl ifanc sy'n cael cymorth yn y sir ar hyn o bryd.23/12/2025
Buddsoddiad sylweddol yn trawsnewid cyfleusterau hamdden a llyfrgell Aberaeron
Cafwyd cyfle i ddathlu gwelliannau sylweddol i gyfleusterau hamdden a llyfrgell Aberaeron yn ystod ymweliad gan Jack Sargeant AS, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, ar 18 Rhagfyr 2025.19/12/2025
Amgueddfa Ceredigion yn ymuno â menter genedlaethol i ysbrydoli gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd
Mae Amgueddfa Ceredigion wedi cael ei dewis fel un o 12 o bartneriaid amgueddfeydd, treftadaeth a diwylliannol ledled y DU i gyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau gyda'r nod o greu eiriolwyr dros y blaned.19/12/2025
Blas ar y cyrsiau galwedigaethol sydd i ddod yn Llanbedr Pont Steffan
Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill i ddarparu cyrsiau galwedigaethol ar Fferm Llettytwppa yn Llanbedr Pont Steffan.18/12/2025
Trefniadau casglu gwastraff dros gyfnod yr ŵyl
Bydd rhywfaint o newid i’r trefniadau casglu gwastraff yng Ngheredigion dros gyfnod yr ŵyl.16/12/2025
Dathlu doniau eithriadol yng Ngheredigion – cyhoeddi enillwyr Gwobrau Caru Ceredigion 2025
Cynhaliwyd Gwobrau Caru Ceredigion 2025 neithiwr, 11 Rhagfyr, ar gampws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a dathlwyd cyfraniadau a chyflawniadau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol ac unigolion ledled y sir.12/12/2025
Galwad ar agor yn awr am brosiectau cyfalaf newydd yn y canolbarth
Caiff sefydliadau ar draws y canolbarth eu gwahodd yn awr i gyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau cyfalaf newydd er mwyn helpu i lunio rhestr ranbarthol gryfach o brosiectau arfaethedig ar gyfer buddsoddi. Mae’r alwad agored yn fyw erbyn hyn.10/12/2025
Rhybuddion Llifogydd: Afon Teifi yng Nghenarth, Llechryd a Chastellnewydd Emlyn
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi sawl rhybudd llifogydd yn ne Ceredigion.09/12/2025
Dweud eich dweud: llunio Polisi Gorfodi Corfforaethol Ceredigion
Mae ymgynghoriad wedi agor i gasglu barn y cyhoedd am Bolisi Gorfodi Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion.08/12/2025
Rhannwch eich barn ar y polisi diwygiedig ar gyfer Ymgysylltu a Chyfranogi
Hoffem glywed barn trigolion, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid ar Bolisi Diwygiedig Ymgysylltu a Chyfranogi Cyngor Sir Ceredigion.05/12/2025
Hud Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi yn dychwelyd
Mae Theatr Byd Bach yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad Parêd Llusernau Mawr Aberteifi ddydd Gwener 5 Rhagfyr, gan ddod â golau, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol i’r dref.04/12/2025
Gweithdai i annog pobl ifanc a chymunedau i gofrestru i bleidleisio
Cynhaliwyd ‘Taith fy Mhleidlais Gyntaf’ yn ystod mis Tachwedd eleni ar y cyd rhwng Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion a Chomisiwn y Senedd i godi ymwybyddiaeth disgyblion a chymunedau am eu hawl i bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd yn 2026.03/12/2025
Gwahoddwyd trigolion i helpu i lunio defnydd cyfrifol o dronau gan Gyngor Sir Ceredigion
Gofynnir i drigolion ledled Ceredigion rannu eu barn ar sut y dylid defnyddio technoleg drôn i gefnogi diogelwch cymunedol.03/12/2025
Dweud eich dweud cyn cyllideb nesaf y Cyngor
Mae'r amser wedi dod eto i ddechrau paratoi ar gyfer gosod Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026-27.02/12/2025
Dathlu’r ‘dolig yn Theatr Felinfach!
Mae Nadolig ar y gorwel ac mae Theatr Felinfach yn edrych ymlaen at eich croesawu i ddathlu’r Ŵyl.02/12/2025
Angen cymorth parhaus i deuluoedd Wcráin sy’n ffoi rhag rhyfel
Ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin yn 2022, mae Ceredigion wedi croesawu 90 o deuluoedd drwy'r rhaglen Cartrefi i Wcráin.02/12/2025
Grantiau Gwaith Ieuenctid i roi hwb ariannol i flaenoriaethau pobl ifanc
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi cyhoeddi dyraniad o £50,000 mewn Grantiau Gwaith Ieuenctid i sefydliadau ieuenctid gwirfoddol ledled y sir, gan gefnogi prosiectau sy’n adlewyrchu’r blaenoriaethau a nodwyd gan bobl ifanc eu hunain.28/11/2025
Ymweliad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol â safleoedd arloesi allweddol yng Nghanolbarth Cymru
Ymwelodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, â Chanolbarth Cymru ar 25 Tachwedd i archwilio cyfleoedd hirdymor ar gyfer economi ranbarthol ffyniannus a chynaliadwy.26/11/2025
Eira: Ysgolion ar gau yn ne Ceredigion
Mae nifer o ysgolion ar gau heddiw (21/11/2025) yn ne Ceredigion oherwydd yr tywydd:21/11/2025
Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025
Mae rhestr fer Gwobrau Caru Ceredigion 2025 wedi’i gyhoeddi yn swyddogol, gyda ystod drawiadol o gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cynrychioli 12 categori.19/11/2025
19/11/2025
13/11/2025
Llwyddiant i Dîm Arlwyo Cyngor Sir Ceredigion yng Ngwobrau Dathlu 10 Mlynedd Bwyd a Hwyl Cymru
Cymerodd 231 o ddisgyblion Ceredigion, ar draws chwe ysgol, ran yng Nghynllun Bwyd a Hwyl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn ystod y gwyliau haf yn 2025.12/11/2025
Ceisiadau Grantiau Cymunedol Ceredigion ar agor ar gyfer 2026/2027
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog grwpiau cymunedol, eglwysi a chapeli, mudiadau gwirfoddol a dielw sy’n dymuno gwella ac ehangu’r ystod o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleoedd ar draws y sir i wneud cais i Gronfa Grant Cymunedol Ceredigion.12/11/2025
Adroddiad Bywyd Ar-lein yn Amlygu Bywydau Digidol Pobl Ifanc ar draws Dyfed-Powys
Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn taflu goleuni ar sut mae bywyd ar-lein yn siapio profiadau, llesiant ac ymddygiad pobl ifanc ar draws Dyfed-Powys.12/11/2025
Ceredigion yn ymrwymo i weledigaeth Ymarfer Perthynol ar gyfer pob ysgol
Mae menter newydd wedi'i lansio yng Ngheredigion i gefnogi pob ysgol a lleoliad addysg i ddatblygu a defnyddio ymarfer perthynol yn rhan o'u gwaith o ddydd i ddydd.11/11/2025
Mynd i'r afael â gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yng Ngheredigion
Mae cynllun yn cael ei ddatblygu i osod Camerâu Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) mewn lleoliadau strategol ledled ucheldir ucheldiroedd Ceredigion i atal y gweithgaredd peryglus ac anghyfrifol hwn.07/11/2025
Beth mae diwylliant yn ei olygu i chi yng Ngheredigion?
Mae prosiect newydd yn lansio i archwilio’r holl agweddau sy’n gysylltiedig â diwylliant yng Ngheredigion, ac rydym eisiau clywed gennych chi.06/11/2025
Rhybuddion Llifogydd: Afon Teifi yng Nghenarth, Llechryd a Chastellnewydd Emlyn
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi sawl rhybudd llifogydd yn ne Ceredigion yn dilyn y glaw uchel dros nos.05/11/2025
Dynodi Dinas Llên UNESCO cyntaf Cymru
Aberystwyth Ceredigion yn ymuno â rhwydwaith byd-eang o Ddinasoedd Creadigol31/10/2025
Stori gadwyn gan ddisgyblion Ceredigion, wedi’i hysbrydoli gan T. Llew Jones
I ddathlu Diwrnod T. Llew Jones ar 11 Hydref 2025, daeth pedwar ar ddeg o ysgolion cynradd ledled Ceredigion ynghyd i gymryd rhan mewn prosiect ysgrifennu cydweithredol unigryw wedi’i ysbrydoli gan y gerdd Yr Hen Dŷ Gwag gan y bardd a’r awdur T. Llew Jones.30/10/2025
Dweud eich dweud ar y Polisi Trwyddedu nesaf
Mae Polisi Trwyddedu Cyngor Sir Ceredigion yn cwmpasu llefydd fel tafarndai a bariau, a'r rhan fwyaf o leoliadau sy'n gwerthu alcohol, yn gweini bwyd poeth yn hwyr yn y nos, neu'n cynnal adloniant fel cerddoriaeth fyw, dawnsio, ffilmiau, neu rai digwyddiadau chwaraeon.29/10/2025
Ceredigion yn ehangu ar y cymorth ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty a gofal cymunedol
Mae Tîm Porth Gofal Cyngor Sir Ceredigion yn cael ei ehangu i leihau oedi i breswylwyr sy'n barod i adael yr ysbyty ond sydd angen cymorth gofal.28/10/2025
Cwblhau gwelliannau i lwybr teithiol llesol mewn pryd ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd
Yn sgil cwblhau'r gwaith adeiladu, bydd y llwybr rhwng Llanbadarn Fawr a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gael i'w defnyddio unwaith eto, a hynny mewn pryd ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd (27 Hydref – 02 Tachwedd).24/10/2025
Cerddwyr Aberystwyth Ramblers yn rhoi clwydi i gefnogi gwelliannau i lwybrau cyhoeddus
Efallai y bydd cerddwyr sydd wedi bod yn crwydro llwybrau ardal Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf wedi sylwi ar gatiau newydd a phlaciau’n nodi gwelliannau ar hyd y llwybrau. Mae’r gwelliannau hyn yn rhan o ymdrech ehangach i wneud cefn gwlad yn fwy hygyrch, ac mae stori am ymroddiad cymunedol yn perthyn i lawer ohonynt.15/10/2025
Pennod newydd i Lyfrgell Aberaeron
Mae gwaith yn ei gamau olaf i gynnig cyfleusterau gwell mewn gofod croesawgar newydd i Lyfrgell Aberaeron.13/10/2025
Cynhadledd Gofal Plant a Chwarae Ceredigion 2025 yn Dathlu Rhagoriaeth ac Arloesedd Sector
Cynhaliodd yr Uned Gofal Plant yng Nghyngor Sir Ceredigion Gynhadledd Gofal Plant a Chwarae bywiog ac ysbrydoledig 2025 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ar ddydd Sadwrn, 27 Medi 2025. Wedi'i ariannu gan Grant Plant a Chymunedau – Hyfforddiant a Chymorth Llywodraeth Cymru, daeth y digwyddiad â gweithwyr gofal plant proffesiynol o bob cwr o'r sir ynghyd ar gyfer diwrnod o ddysgu, myfyrio a chydweithio.13/10/2025
Gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn dod i ben ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron
Mae carreg filltir arall wedi’i chyrraedd yn y gwaith adeiladu ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron, a fydd yn darparu amddiffyniad rhag llifogydd ac erydiad arfordirol yn y dyfodol.07/10/2025
Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2025
Yn dilyn llwyddiant Gwobrau Caru Ceredigion a gynhaliwyd am y tro cyntaf y llynedd, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal eto eleni yn 2025 gyda chategorïau newydd sbon.03/10/2025
Rhybudd y tafod glas: annog ffermwyr yng Ngheredigion i fod yn wyliadwrus
Mae'r achosion cyntaf a gadarnhawyd o feirws y Tafod Glas (BTV) bellach wedi'u canfod yng Nghymru, ac anogir ffermwyr ac unrhyw un sy’n cadw da byw i fod yn ymwybodol o unrhyw symptomau posibl.01/10/2025
Llwyddiant i raglenni haf Bwyd a Hwyl Ysgolion Ceredigion eto eleni
Cymerodd 231 o ddisgyblion Ceredigion ran yng Nghynllun Bwyd a Hwyl y Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yr haf hwn.30/09/2025
Cynllun Llunio Lleoedd yng Ngheredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn cymunedau a lleoedd. Maeʼn canolbwyntio ar alluogi lleoedd i fuddsoddi ac adfer eu mannau cymunedol a chreuʼr sylfeini priodol ar gyfer cymunedau lleol llewyrchus.29/09/2025
Bwrsari Ieuenctid Ceredigion 2025 wedi’i wobrwyo
Mae person ifanc o Geredigion wedi elwa o fwrsariaeth a ddarparwyd unwaith eto eleni gan West Wales Holiday Cottages. Derbyniodd Ffion Marston, 20 oed y fwrsariaeth i’w chefnogi i gyrraedd eu nod personol i ddatblygu busnes harddwch symudol newydd.25/09/2025
Llwyddiant Rhaglen Gwyliau’r Haf
Bu Rhaglen Gwyliau’r Haf 2025 Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer plant, pobl ifanc, teuluoedd a phobl hŷn yn llwyddiant ysgubol.24/09/2025
Gorchymyn Gwahardd Brys gan y Llys ar gyfer busnes yn Llanbedr Pont Steffan
Mae Llys Ynadon Aberystwyth wedi rhoi Gorchymyn Gwahardd Brys (EPO) ar The Royal Oak Hotel, Llanbedr Pont Steffan, gan wahardd defnyddio’r bar a’r seler.19/09/2025
Gwelliannau i ddwy ysgol yn Aberteifi a Chylch Meithrin yng Nghenarth
Mae dwy ysgol ac un Cylch Meithrin yng Ngheredigion wedi elwa'n ddiweddar o fuddsoddiad gwerth £9 miliwn gan gyllid Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, y Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod, Rhaglen gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar ac Awdurdod Lleol Ceredigion.18/09/2025
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Ennill Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi ennill Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ar Lefel Efydd, gydnabyddiaeth bwysig a ddyfarnwyd am yr ail dro gan Lywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae’r wobr hon yn dathlu ymrwymiad y Gwasanaeth i ddarparu gwaith ieuenctid o ansawdd uchel, cynhwysol ac effeithiol ar draws y sir.17/09/2025
£4m ar gael ar gyfer prosiectau adfywio canol trefi ledled y Canolbarth
Mae cyfanswm o £4 miliwn wedi'i ddyrannu tuag at brosiectau adfywio canol trefi ledled y Canolbarth (Powys a Cheredigion) dros y ddwy flynedd nesaf (2025-2027).12/09/2025
12/09/2025
Arlwy hydref a gaeaf 2025 Theatr Felinfach
Mae’r flwyddyn newydd ddiwylliannol ar fin cychwyn yn Theatr Felinfach ac mae yna wledd yn eich disgwyl o nawr hyd at y Nadolig.04/09/2025
Rali Ceredigion 2025: Cymunedau, Diogelwch a Chynaliadwyedd wrth galon y rali eleni
Gyda dim ond dwy wythnos i fynd tan JDS Machinery Rali Ceredigion 2025, mae'r trefnwyr yn annog trigolion a busnesau ledled Ceredigion a Phowys i gynllunio ymlaen llaw, bod yn ymwybodol, a chymryd rhan yn yr hyn sy'n argoeli i fod yn rali fydd yn canolbwyntio fwyaf ar y gymuned.22/08/2025
Cyhoeddi canlyniadau TGAU a BTEC
Mae’r canlyniadau BTEC a TGAU a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn cyrraedd safonau uchel.21/08/2025
Llwyddiannau Safon Uwch yng Ngheredigion
Mae’r canlyniadau Safon Uwch a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn cyrraedd safonau uchel.14/08/2025
£100,000 ar gael i gefnogi prosiectau natur ledled Ceredigion
Mae Partneriaeth Natur Ceredigion yn gwahodd ceisiadau am gyllid gwerth £100,000 i gefnogi prosiectau sy’n creu, adfer neu wella asedau naturiol ledled y sir. Nod y cynllun yw dod â natur yn nes at bobl - lle maent yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Ariennir y fenter gan gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.14/08/2025
Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn symud
Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth, sy’n farchnad boblogaidd iawn, yn symud, a hynny o ddydd Sadwrn, 16 Awst 2025. Cynhelir y farchnad yn ei lleoliad newydd ar y stryd wrth Neuadd y Farchnad ym mhen uchaf y dref.06/08/2025