Mewn ymgynghoriad â Chyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed Powys, mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) wedi cytuno ar set o lwybrau dargyfeiriol y cânt eu sefydlu yn achos digwyddiad neu ddigwyddiadau sy'n golygu bod angen cau ffordd ar rai pwyntiau allweddol ar rwydwaith Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru o fewn Ceredigion ac ardaloedd cyffiniol yr Awdurdod.

Darperir y wybodaeth ganlynol er gwybodaeth yn unig a dylid nodi y gallai llwybrau gael eu haddasu wrth eu rhoi ar waith, yn seiliedig ar ffactorau megis cau ffyrdd lleol dros dro, y tywydd, neu ffactorau lleihaol eraill.

A44

A44, Rhan A – Llangurig i Ddyffryn Castell

Traffig yn mynd tua'r Gorllewin
Dargyfeiriwch i'r A470 yn Llangurig, yna i'r A489 yng Nglantwymyn a'r A487 ym Machynlleth tuag at Aberystwyth. Yn Bow Street cymerwch yr A4819 i ail-ymuno â'r A44 ar Gylchfan Gelli Angharad. (Noder: Pont uchder cyfyngedig 14'6” cliriad mwyaf i'r gogledd o Gaersws).

Traffig yn mynd tua’r Dwyrain
O Aberystwyth cymerwch yr A487 Gogledd, neu o'r A44 i'r A4819 ar Gylchfan Gelli Angharad i ymuno â'r A487 yn Bow Street. Ym Machynlleth cymerwch yr A489, yng Nglantwymyn cymerwch yr A470 i Gaersws ac yna ymlaen i Langurig. (Noder: Pont uchder cyfyngedig 14'6” cliriad mwyaf i'r gogledd o Gaersws).
Map Dargyfeirio Cefnffyrdd


A44, Rhan B – Dyffryn Castell i Gylchfan Gelli Angharad

Traffig yn mynd tua'r Gorllewin
Dargyfeiriwch i'r B4343 yn Nyffryn Castell i ymuno â'r A4120, trwy Bontarfynach i gylchfan Southgate, Aberystwyth i gyrraedd Cylchfan Gelli Angharad, parhewch i ddargyfeirio i Lanbadarn Fawr ac ymlaen i'r A44.

Traffig yn mynd tua’r Dwyrain
Dargyfeiriwch draffig yn dod i mewn o'r A487 i'r A4120 trwy Bontarfynach i ymuno â'r A44 yn Nyffryn Castell.


A44, Rhan C – Cau Cylchfan Gelli Angharad

Traffig yn mynd tua'r Gorllewin
Dargyfeiriwch i'r B4343 i'r dwyrain o Bonterwyd, cymerwch yr A4120 ym Mhontarfynach i gylchfan Southgate, Aberystwyth. Parhewch i ddargyfeirio i ail-ymuno â'r A44 yn Llanbadarn Fawr.

Traffig yn mynd tua’r Dwyrain
Dargyfeiriwch i'r A487 De, i gylchfan Southgate, cymerwch yr A4120, ym Mhontarfynach, cymerwch y B4343, ail-ymunwch â'r A44 i'r dwyrain o Bonterwyd.


A44, Rhan D – Cylchfan Gelli Angharad i Lanbadarn Fawr

Traffig yn mynd tua'r Gorllewin
Dargyfeiriwch ar gylchfan Gelli Angharad i'r A4159, trowch i'r chwith i'r A487 yn Bow Street, trowch i'r chwith yng Nghyffordd Coopers, Aberystwyth i Ffordd Llanbadarn.

Traffig yn mynd tua’r Dwyrain
Dargyfeiriwch yn Llanbadarn Fawr ar hyd Ffordd Llanbadarn, trowch i'r dde yng Nghyffordd Coopers i'r A487, trowch i'r dde i'r A4159 yn Bow Street, i ail-ymuno â'r A44 ar Gylchfan Gelli Angharad.


A44, Rhan E – Cau Cyffordd Llanbadarn Fawr

Traffig yn mynd tua'r Gorllewin
Dargyfeiriwch i'r A4159 ar gylchfan Gelli Angharad i Bow Street, cymerwch yr A487 i Ganol Tref Aberystwyth.

Traffig yn mynd tua’r Dwyrain
Dargyfeiriwch i'r A487 Gogledd i Bow Street, cymerwch yr A4159 ac ail-ymunwch â'r A44 ar Gylchfan Gelli Angharad.


A44, Rhan F – Llanbadarn Fawr i Gyffordd Coopers

Traffig yn mynd tua'r Gorllewin
Dargyfeiriwch i'r A4120 yn Llanbadarn Fawr, trowch yng Nghylchfan Southgate i Ffordd Penparcau, trowch i lawr Dan Dre, Ffordd y Môr, Rhodfa'r Gogledd a Stryd y Dollborth.

Traffig yn mynd tua’r Dwyrain
Dargyfeiriwch i Stryd y Dollborth, yna Stryd Thespis, Ffordd Alexandra, Dan Dre, Ffordd Penparcau, Cylchfan Southgate i'r A4120 ac ail-ymunwch â'r A454 yn Llanbadarn Fawr.


A487

A487, Rhan A – Abergwaun i ger Eglwyswrw (Cyffordd B4329)

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i Stryd Hamilton, Stryd y Parc a Stryd Hottipass i ymuno â'r B4313, yna cymerwch y B4329 ac ail-ymunwch â'r A487 ar gyffordd B4329 (ger Eglwyswrw).

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r B4329 (ger Eglwyswrw) yna cymerwch y B4313 i Ffordd y Cwm Abergwaun


A487, Rhan B – (Cyffordd B4329) i Eglwyswrw

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r B4582 yn nhro Nanhyfer, ail-ymunwch â'r A487 yn Llantwyd.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r B4582 yn Llantwyd, ail-ymunwch â'r A487 yn Nanhyfer.


A487, Rhan C – Eglwyswrw i Aberteifi (Cylchfan Ridgeway)

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r B4332 yn Eglwyswrw ac yna i'r A478 ac ail-ymunwch â'r A487 ar Gylchfan Ridgeway Aberteifi.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A478 ar Gylchfan Ridgeway Aberteifi, trowch i'r B4332 ac ail-ymunwch â'r A487 yn Eglwyswrw.


A487, Rhan D – Cau Cylchfan Ridgeway Aberteifi

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r B4332 yn Eglwyswrw yna yng Nghenarth i'r A484 ac ail-ymunwch â'r A487 ar Gylchfan yr Ysbyty.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A484 ar Gylchfan yr Ysbyty, i Genarth ac yna i'r B4332 ac ail-ymunwch â'r A487 yn Eglwyswrw.


A487, Rhan E – Ridgeway Aberteifi i Gylchfannau'r Ysbyty

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch ar Gylchfan Ridgeway i Stryd y Castell, dilynwch system un ffordd trwy'r Stryd Fawr, trowch i'r dde i Feidrfair, i'r chwith i mewn i Bont y Cleifion ac ail-ymunwch â'r A487 ar Gylchfan yr Ysbyty.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch ar Gylchfan yr Ysbyty i Bont y Cleifion, dilynwch system unffordd trwy Stryd Morgan a’r Strand, dros y bont i Stryd y Castell ac ail-ymunwch â'r A487 ar Gylchfan Ridgeway.


A487, Rhan F – Cau Cylchfan Ysbyty Aberteifi

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch ar Gylchfan Ridgeway i'r A478, gan ymuno â'r B4332, yng Nghenarth, ymunwch â'r A484 i Gastellnewydd Emlyn, yna’r A475 yn Adpar a’r B4333 trwy Gwm-cou ac ail-ymunwch â'r A487 yn Nhan-y-groes.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r B4333 yn Nhan-y-groes, ewch ymlaen trwy Gwm-cou i Adpar yna'r A475 i Gastellnewydd Emlyn, cymerwch yr A484 yng Nghenarth, cymerwch y B4332 yna ymunwch â'r A478, ail-ymunwch â'r A487 ar Gylchfan Ridgeway Aberteifi.


A487, Rhan G – Cylchfan yr Ysbyty i Dan-y-groes

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch ar Gylchfan yr Ysbyty i'r A484 i Gastellnewydd Emlyn, yna'r A475 i Adpar i’r B4333, trwy Gwm-cou ac ail-ymunwch â'r A487 yn Nhan-y-groes.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r B4333 yn Nhan-y-groes, ewch ymlaen trwy Gwm-cou i Adpar yna'r A475 i Gastellnewydd Emlyn, yna cymerwch yr A484 ac ail-ymunwch â'r A487 yng Nghylchfan yr Ysbyty Aberteifi.


A487, Rhan H – Cylchfan Ysbyty Aberteifi i Frynhoffnant

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A484 ar Gylchfan Ysbyty Aberteifi, yna i'r A475 yng Nghastellnewydd Emlyn, yna’r B4571 ac yna’r B4334, gan ail-ymuno â'r A487 ym Mrynhoffnant.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r B4334 ym Mrynhoffnant, yna'r B4571, ymunwch â'r A475 ac yna’r A484 yng Nghastellnewydd Emlyn ac ail-ymunwch â'r A487 ar Gylchfan Ysbyty Aberteifi.

Nid oes Rhan I.


A487, Rhan J – Tan-y-groes i Synod Inn

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r B4333 yn Nhan-y-groes, trwy Gwm-cou, yna i'r A475 yng Nghastellnewydd Emlyn, trwy Benrhiw-llan, cymerwch yr A486 yn Horeb ac ail-ymunwch â'r A487 yn Synod Inn.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A486 yn Synod Inn, cymerwch yr A475 yn Horeb, cymerwch y B4333 yng Nghastellnewydd Emlyn, trwy Gwm-cou ac ail-ymunwch â'r A487 yn Nhan-y-groes.


A487, Rhan K – Cau yng Nghyffordd Synod Inn

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r B4333 yn Nhan-y-groes, trwy Gwm-cou, cymerwch yr A475 yng Nghastellnewydd Emlyn i Lanbedr Pont Steffan, cymerwch yr A482 ac ail-ymunwch â'r A487 yn Aberaeron.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A482 yn Aberaeron, yn Llanbedr Pont Steffan trowch i'r A475 i Gastellnewydd Emlyn, cymerwch y B4333 trwy Gwm-cou ac ail-ymunwch â'r A487 yn Nhan-y-groes.

Nid oes Rhan L


A487, Rhan M – Cau Ffordd yn Aberaeron

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dilynwch ddargyfeiriadau lleol a bennir yn ôl lleoliad y digwyddiad.

Traffig yn mynd tua'r De
Dilynwch ddargyfeiriadau lleol a bennir yn ôl lleoliad y digwyddiad.


A487, Rhan N – Aberaeron i Lanrhystud

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A482 yn Aberaeron, cymerwch y B4342 yn Felin-fach, yna'r B4337 trwy Cross Inn gan ail-ymuno â'r A487 yn Llanrhystud.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r B4337 yn Llanrhystud, trwy Cross Inn, yna ymlaen i'r B4342, yna'r A482 gan ail-ymuno â'r A487 yn Aberaeron.

Nid oes Rhan O


A487, Adran P – Cau yn Llanrhystud

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A482 yn Aberaeron, yna i'r B4342 yn Felin-fach, yna’r B4337 i Cross Inn, yna’r B4577 i Fethania, yna’r B4576, yna’r A485 ac ail-ymunwch â'r A487 yn Llanfarian.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A485 yn Llanfarian, i'r B4577 i Cross Inn, yna’r B4337, i'r B4342 i Felin-fach, i'r A482 ac ail-ymunwch â'r A487 yn Aberaeron.


A487, Rhan Q – Llanrhystud i Lanfarian

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r B4337 yn Llanrhystud, newidiwch i’r B4577 yn Cross Inn, yna’r B4576 ym Methania, yna'r A485 gan ail-ymuno â'r A487 yn Llanfarian.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A485 yn Llanfarian, yna'r B4576, i'r B4577 ym Methania a'r B4337 yn Cross Inn ac ail-ymunwch â'r A487 yn Llanrhystud.


A487, Rhan R – Cau yn Llanfarian

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r B4337 yn Llanrhystud, ymunwch â'r B4577 yn Cross Inn, ymunwch â'r A485 i Dregaron, cymerwch y B4343 Gogledd, ym Mhontrhydfendigaid, cymerwch y B4340 i'r A4120 ac ail-ymunwch â'r A487 ym Mhenparcau.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A4120 yn Southgate, yna yn syth ymlaen i'r B4340, i Bontrhydfendigaid, cymerwch y B4343 i Dregaron, cymerwch yr A485 tua'r gorllewin, cymerwch y B4577 i Cross Inn, cymerwch y B4337 ac ail-ymunwch â'r A487 yn Llanfarian.


A487, Rhan S – Llanfarian i Gyffordd Southgate (Penparcau)

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A485 yn Llanfarian, ymunwch â'r B4343 yn Nhregaron, ym Mhontrhydfendigaid cymerwch y B4340 ac ail-ymunwch â'r A487 ym Mhenparcau Southgate.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A4120 yn Southgate, yna yn syth ymlaen i'r B4340, i Bontrhydfendigaid, cymerwch y B4343 i Dregaron, cymerwch yr A485 ac ail-ymunwch â'r A487 yn Llanfarian.


A487, Rhan T – Cau yng Nghyffordd A4120

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A485 yn Llanfarian, ymunwch â'r B4343 yn Nhregaron, ym Mhontarfynach cymerwch yr A4120, yna i'r A44 i Lanbadarn Fawr, cymerwch yr A4120 ac ail-ymunwch â'r A487 ym Mhenparcau Southgate.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A4120 yn Southgate i Lanbadarn Fawr, yna cymerwch yr A44 tua'r dwyrain, cymerwch yr A4120 i Bontarfynach, yna cymerwch y B4343 i Dregaron, cymerwch yr A485 ac ail-ymunwch â'r A487 yn Llanfarian.


A487, Rhan U – Cyffordd A4120 a Chylchfan Southgate

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A4120 trwy Bontarfynach i Bonterwyd, trowch i'r A44 i Lanbadarn Fawr, cymerwch yr A4120 i gylchfan Southgate.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A4120 ar gylchfan Southgate, cymerwch yr A44 yn Llanbadarn Fawr, cymerwch yr A4120 ym Mhonterwyd trwy Bontarfynach yn ôl i'r A487.


A487, Rhan V – Penparcau (Cylchfan Southgate) ac Aberystwyth

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A4120 ar gylchfan Southgate, ewch yn syth ymlaen ar gylchfan Morrisons, trowch i'r chwith yn Llanbadarn Fawr, dilynwch Ffordd Llanbadarn i ail-ymuno â'r A487 yng Nghyffordd Coopers.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i’r A44 Ffordd Llanbadarn, trowch i'r dde yn Llanbadarn Fawr, ewch yn syth ymlaen ar gylchfan Morrisons ac ail-ymunwch â'r A487 ar gylchfan Southgate.


A487, Rhan W – Cau Cyffordd Cornel Coopers, Aberystwyth

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A4120 i Lanbadarn Fawr, ewch ar yr A44 i gylchfan Gelli Angharad, cymerwch yr A4159 i ail-ymuno â'r A487 yn Bow Street.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A4159 i gylchfan Gelli Angharad, cymerwch yr A44 i Lanbadarn Fawr, cymerwch yr A4120 ac ail-ymunwch â'r A487 ar gylchfan Southgate.


A487, Rhan X – Aberystwyth (Cyffordd Coopers) i Bow Street

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A44 yng Nghyffordd Coopers, yna ar yr A4159 ar gylchfan Gelli Angharad, ail-ymunwch â'r A487 yn Bow Street.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A4159 ym mhen deheuol Bow Street, trowch i'r A44 ar gylchfan Gelli Angharad, trwy Lanbadarn Fawr i ail-ymuno â'r A487 yng Nghyffordd Coopers


A487, Rhan Y – Bow Street i Fachynlleth

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A4159 yn Bow Street, yna’r A44 ar gylchfan Gelli Angharad, cymerwch yr A470 yn Llangurig, newidiwch i'r A489 yng Nglantwymyn ac ail-ymunwch â'r A487 ym Machynlleth.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A489 ym Machynlleth, cymerwch yr A470 yng Nglantwymyn i Langurig, cymerwch yr A44 i gylchfan Gelli Angharad ac yna cymerwch A4159 i ail-ymuno â'r A487 yn Bow Street.


A487, Rhan Z – Cau ffordd ym Mhont ar Ddyfi

Traffig yn mynd tua’r Gogledd
Dargyfeiriwch i'r A470 yn Cross Foxes trwy Fallwyd i Lantwymyn ac yna'r A489 i Fachynlleth.

Traffig yn mynd tua'r De
Dargyfeiriwch i'r A489 i Lantwymyn, yna’r A470 i Fallwyd i ail-ymuno â'r A487 yn Cross Foxes.