Skip to main content

Ceredigion County Council website

Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB)

Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol

Ar 7fed Ionawr 2019 mae gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Sir Ceredigion i gyflenwi deddfwriaeth statudol newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Mae’r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i BOB datblygiad newydd sy’n cynnwys o leiaf 2 eiddo, neu’n adeiladu ar ardal o dros 100m2.

I sicrhau bod yna gydymffurfio yng Ngheredigion, mae Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) wedi’i sefydlu, a fydd yn rheoli holl agweddau technegol cymeradwyo systemau draenio dŵr wyneb cynaliadwy.

Egwyddorion Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS)

Canfuwyd bod llifogydd dŵr wyneb yn un o brif achosion llifogydd mewn eiddo a chartrefi. Mae hyn nid yn unig yn cael effaith andwyol a chostus ar ein cymunedau, mae’r niwed posib i ddŵr daear ac afonydd o ganlyniad i ddŵr wyneb llygredig hefyd yn broblem. I fynd i’r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hi’n orfodol drwy ddeddfwriaeth i ddatblygwyr ymgorffori atebion draenio cynaliadwy fel rhan o gynlluniau datblygiadau newydd.

Pan fydd Atodlen 3 o’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr yn cael ei rhoi ar waith ar 7fed Ionawr 2019, bydd yn golygu bod datblygwyr wedi ymrwymo i reoli effeithiau dŵr wyneb ffo. I gyflawni hyn, bydd angen i unrhyw gynllun ddynwared hydroleg naturiol bob safle, trwy gadw dŵr mor agos i’r wyneb â phosib.


Nod y safonau statudol a gyflwynir gan Atodlen 3 fydd:

  • Rheoli Maint – cyfaint, amlder a chyfraddau llif
  • Rheoli Ansawdd – atal a thrin
  • Darparu Amwynder – lle, defnydd a llesiant
  • Amddiffyn Bioamrywiaeth – gwella ac amddiffyn bywyd gwyllt

Rhaid i unrhyw Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) a gynllunnir gan ddatblygwyr gael eu cymeradwyo gan Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) yr Awdurdod Lleol cyn i’r adeiladu ddechrau.

Mae gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru ddyletswydd statudol fel Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) i reoli dŵr wyneb o ddatblygiadau. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw ddatblygiadau perthnasol angen cymeradwyaeth dechnegol oddi wrth y SAB ar gyfer cynllunio ac adeiladu systemau draenio dŵr wyneb. Rôl y SAB yw asesu cynllun Systemau Draenio Cynaliadwy yn erbyn y safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy, yn ogystal â gofynion polisi lleol.

Dyletswydd y SAB yw:

  • Gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio pan fydd yna oblygiadau draenio’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu
  • Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb yn unol ag Adran 17 o Atodlen 3 (Y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr)
  • Archwilio a gorfodi systemau a gymeradwywyd
  • Cynnig cyngor anstatudol cyn ymgeisio.

Mae prosesau’r SAB ar wahân i brosesau’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac nid yw cymeradwyaeth SAB yn rhan o unrhyw ganiatâd cynllunio a geisir neu a roddir. Gall fod angen i unrhyw ddatblygiadau cymwys gael cymeradwyaeth SAB a’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn dechrau ar unrhyw waith adeiladu.

Os ydych chi’n ddatblygwr, yn asiant, neu’n unigolyn sydd am fynd ati i ddatblygu, gall fod angen cymeradwyaeth i’r cynllun oddi wrth y SAB. Mae rhai eithriadau rhag cael cymeradwyaeth ac maent wedi’u rhestru isod:

  • Annedd/tŷ/eiddo/ adeilad sengl gydag ardal adeiladu sy’n llai na 100m2 (0.01 hectar)
  • Os cafodd y caniatâd cynllunio ei ddilysu cyn 7fed Ionawr 2019
  • Os rhoddwyd caniatâd cynllunio cyn 7fed Ionawr 2019 (heb fod yn amodol ar faterion a gadwyd yn ôl i’w cymeradwyo)
  • Os rhoddwyd caniatâd cynllunio gyda materion a gadwyd yn ôl i’w cymeradwyo, a bod y materion a gadwyd yn ôl wedi’u cyflawni cyn 7fed Ionawr 2020.

Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen cymeradwyaeth SAB ai peidio, cysylltwch â ni.
Sylwer bod gosod systemau draenio cynaliadwy ôl-weithredol yn debygol o fod yn fwy costus ac maent yn ddarostyngedig i bwerau gorfodi.

Mae proses y SAB yn un gwbl ar wahân i’r broses gynllunio, ond mae’r amserlen ar gyfer penderfyniad y SAB wedi’i threfnu i gyd-fynd â’r un ar gyfer cynllunio.

CAM 1 – Cyn Ymgeisio

Mae paratoi a chynllunio’r safle er mwyn rheoli dŵr wyneb mor fuan â phosib yn allweddol o ran cwrdd â gofynion y SAB, a sicrhau cynllun sy’n addas mewn perthynas â chynllunio. Argymhellir yn gryf y dylid manteisio ar y gwasanaeth sydd ar gael cyn ymgeisio, yn enwedig os mai dyma’r tro cyntaf ichi geisio cymeradwyaeth y SAB.

Does dim amserlen ar gyfer y cam hwn ond mae’n bwysig caniatáu digon o amser fel nad yw gofynion newydd proses y SAB yn amharu ar unrhyw ddyddiadau cau ar gyfer caniatâd cynllunio.

Mi fydd cynllunio strategaeth i ddelio â dŵr wyneb ffo yn gynnar yn darparu gwell cyfleoedd i roi atebion cost isel ar waith. Yn ogystal ag arbed amser yn y tymor hir, mi fydd hyn hefyd yn sicrhau nad yw’r gofynion o bersbectif yr awdurdod cynllunio’n cyfyngu ar gynllun draenio addas ar gyfer y safle cyfan.

CAM 2 – Dilysu Cais Llawn

Bydd gofyn darparu gwybodaeth ddigonol i’r SAB cyn y gellir ystyried cais llawn ar gyfer cymeradwyaeth SAB. Bydd y gwasanaeth cyn ymgeisio’n helpu i baratoi a chasglu’r wybodaeth hon i leihau’r risg o oedi cyn i’r SAB wneud penderfyniad. Dim ond ar ôl i’r cais gael ei ddilysu, hy bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniad am y cais wedi’i derbyn yn llawn, y bydd angen talu ffi’r SAB, ac y bydd yr amserlen ar gyfer cymeradwyo’n cael ei rhoi ar waith.

Bydd unrhyw ffioedd a dderbynnir am geisiadau NA CHÂNT eu dilysu’n cael eu dychwelyd.

Does dim amserlen ar gyfer dilysu cais SAB.

CAM 3 - Dyfarnu

Unwaith bod cais SAB wedi’i ddilysu, byddwch yn cael gwybod ar ba ddyddiad y cafodd ei ddilysu. Gwneir hyn yn ysgrifenedig drwy e-bost neu lythyr yn uniongyrchol i’r ymgeisydd neu’r asiant sy’n delio â’r cais. Yr amserlen ragosodedig ar gyfer asesu ceisiadau yw 7 wythnos galendr o’r dyddiad dilysu. Bydd hyn yn caniatáu cynnal gwiriadau technegol a derbyn ymatebion i ymgynghoriad statudol. Os ydy’r cais yn ddarostyngedig i Asesiad o Effaith Amgylcheddol dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, yr amserlen ar gyfer cymeradwyaeth SAB yw 12 wythnos o’r dyddiad dilysu. Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen Asesiad o Effaith Amgylcheddol ar eich datblygiad ai peidio fe’ch cynghorir i gysylltu â’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Er bod yna amserlen statudol ar gyfer dyfarnu cais, gellir ymestyn yr amserlen honno drwy gytundeb ysgrifenedig. Ni ellir, fodd bynnag, cwtogi’r amserlen ar gyfer dyfarnu cais.

Ni fydd ffioedd am geisiadau a ddilyswyd sy’n cael eu gwrthod yn cael eu had-dalu.

CAM 4 – Penderfynu

Unwaith bod penderfyniad ar ddyfarniad SAB wedi’i gyhoeddi’n swyddogol, gall gynnwys amodau a fydd angen eu bodloni cyn y rhoir cymeradwyaeth lawn hy cymeradwyaeth SAB yn amodol ar amodau.

Gall yr amodau gyfeirio at bethau megis amserlenni, adeiladu fesul cam, neu gynnal archwiliadau yn ystod y gwaith adeiladu. I fodloni unrhyw amodau, bydd angen llenwi ffurflen Rhyddhau Amodol, o dan I’w lawrlwytho, a’i dychwelyd i’r SAB.

Er mwyn gallu bodloni rhai neu’r holl amodau’n ffurfiol gall fod angen cytundeb cyfreithiol rhwng y SAB a’r ymgeisydd. Bydd hwn yn gosod beth fydd y naill ochr a’r llall yn ei wneud, pryd y byddant yn ei wneud, a sut i’w wneud.

CAM 5 - Mabwysiadu

Mae’n ddyletswydd ar y SAB dan Atodlen 3 o'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr i sicrhau fod yr HOLL systemau draenio cynaliadwy’n cael eu cynnal yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod trefniadau cyllido yn eu lle i gyflawni hynny.

Ar gyfer anheddau sengl sydd angen cymeradwyaeth SAB, nid yw’r SAB dan unrhyw ymrwymiad i fabwysiadu a chynnal a chadw’r systemau draenio. Mi fydd y SAB, fodd bynnag, yn sicrhau bod y system yn cydymffurfio â deddfwriaeth, a bod yna gynllun cynnal a chadw yn ei le i’r perchennog gadw ato.

Ar gyfer pob math arall o system draenio cynaliadwy gymeradwy, a chyn belled â bod y system wedi’i gosod a’i bod yn gweithio’n unol â’i chynllun, bydd y SAB yn mabwysiadu ac yn cynnal a chadw’r System Draenio Cynaliadwy. Cyn bod y SAB yn mabwysiadu, bydd angen cytuno ar drefniadau ymlaen llaw, megis trefniadau ariannu ar gyfer cynnal a chadw a mynediad parhaus. Bydd yr atebolrwydd cyfreithiol llawn am yr holl Systemau Draenio Cynaliadwy a gymeradwywyd gan y SAB yn aros gyda’r datblygwr nes bydd y SAB yn rhoi gwybod yn swyddogol bod y system ddraenio wedi’i mabwysiadu.

Cyn Ymgeisio

Mae’r ffurflen hon ar gyfer cynghori a chynorthwyo datblygwyr i gynllunio systemau draenio cynaliadwy yn unol ag Atodlen 3 o’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr. Rhestrir y ffioedd sy’n daladwy am y gwasanaeth cyn ymgeisio a gynigir gan y SAB yn Nhabl 1 isod:

Maint y Safle (ha) Ffi Cyn Ymgeisio Maint yn fras
0.01 i 0.099 £100 1 tŷ
0.1 i 0.99 £100 + £50 fesul 0.1ha (neu ran o ha) 1 i 9 tŷ
1.0 i 2.9 £570 + £20 fesul 0.1ha (neu ran o ha) Mwy na 10 tŷ
3.0 ha a mwy £1000  

Tabl 1

Mae’r ffi sy’n daladwy’n seiliedig ar ardal adeiladu’r safle. Diffinnir honno fel ardal y cynllun o fewn y safle, lle bydd yr adeiladu’n newid nodweddion draenio’r tir. Mae hyn yn cynnwys tramwyfeydd, patios, garejys, adeiladau ac ardaloedd llawr caled eraill. Hyd yn oed os ydy’r driniaeth arfaethedig i’r wyneb yn caniatáu i ddŵr suddo i’r ddaear, bernir bod y nodweddion draenio wedi newid, a dylid eu cynnwys fel rhan o’r ardal adeiladu a ddefnyddir i gyfrifo’r ffi sy’n daladwy.

Bwriad y cam cyn ymgeisio yw nodi strategaeth ddraenio addas ar gyfer y safle cyn gwneud cyfrifiadau neu gynlluniau manwl. Gellir cyfeirio at yr holl wybodaeth cyn ymgeisio sy’n addas i’w fabwysiadu yn ystod y broses ymgeisio lawn. Mi fydd hyn, mewn nifer o achosion, yn arbed amser wrth brosesu dyfarniad y SAB.

Ceisiadau Llawn

Bydd unrhyw ddatblygiadau cymwys yn gofyn am gais lawn i gael cymeradwyaeth y SAB. Mae’r ffioedd sy’n daladwy am ddilysu a dyfarnu pob cais SAB wedi’u gosod trwy ddeddfwriaeth. Mae Tabl 2 isod yn dangos cyfradd y ffioedd ar gyfer cyflwyno cais SAB llawn

Maint y Datblygiad (ha) Ffi
0 i 0.099 Wedi’i eithrio rhag SAB (ardal lai na 100m2)
0.1 i 0.5 £420 a £70 fesul 0.1ha (neu ran o ha)
0.5 i 1.0 £700 a £50 fesul 0.1ha (neu ran o ha)
1.0 i  5.0 £950 a £20 fesul 0.1ha (neu ran o ha)
Dros 5.0 £1750 a £10 fesul 0.1ha (neu ran o ha) yn amodol ar uchafswm o £7,500

Tabl 2

Gall fod yna gostau ychwanegol yn daladwy am bethau megis archwiliadau, symiau cymudol a bondiau, yn dibynnu ar unrhyw amodau sydd ynghlwm â chymeradwyaeth y SAB neu gytundeb a ffurfir gyda’r SAB.

Cysylltwch â’ch SAB

Allech chi gysylltu â ni ar y ffyrdd canlynol:

Post:
Priffyrdd a Gwasanaethau
Penmorfa
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0PA

Ffôn: 01545 572572

Ebost: sab@ceredigion.gov.uk

Oriau swyddfa:
Llun i Iau 8:45 – 16:30 ; Gwener 8:45 – 16:00 ; Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc