Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Os hoffech chi gael copi o unrhyw rysáit a gaiff ei defnyddio yn y bwydlenni cysylltwch os gwelwch yn dda â Rhian Evans ar 07794627915. Lle bynnag mae hynny'n bosibl rydym yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i'n cynhwysion yn lleol.

Bwydlen yr Haf 2026

  • * Dewis Cogyddion
  • Ll = Llysieuwr

Wythnos 1

Wythnos yn dechrau: 13/04/2026, 04/05/2026, 01/06/2026, 22/06/2026, 13/07/2026, 14/09/2026, 05/10/2026

Bwydlen wythnos 1
Dydd Llun Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener
  • *Cyw Iâr *Tikka neu *Korma / *Chilli Bîff Mwyn
  • Cyri Sbigoglys a Ffacbys (Ll)
  • Reis wedi berwi
  • Bara Naan
  • Llysiau Cymysg o'r Fferm
  • Bisged Ceirsh gyda Chwrens, 1/2 Banana a Llaeth neu Ffrwythau Ffres
  • Cyw Iâr wedi'i lapio
  • Nygets Llysieuol (Ll)
  • Sglodion
  • Moron wedi ei gratio, betys a Salad Cymysg
  • Sgon blas Gellyg a Siocled gyda Saws Gwyn Poeth neu Ffrwythau Ffres
  • Selsig wedi'u coginio yn y Ffwrn a Phwdin Swydd Efrog a Grefi
  • Selsig Llysieuol gyda Phwdin Swydd Efrog a Grefi Llysieuol
  • Tatws Hufennog
  • Moron a Ffa
  • Cracyrs gyda Chaws ac Afal neu Ffrwythau Ffres
  • Pastitsio (Pasta Pob)
  • Pasta Pob Llysieuol (Ll)
  • Bara Garlleg
  • Brocoli ac India-corn
  • Crempogau Ffrwythau neu Ffrwythau Ffres
  • Bysedd Pysgod Eog
  • Bysedd Di-bysgod (Ll)
  • Tatws Hufennog
  • Pys neu Ffa Ffyn Llysiau
  • Bara Crwst
  • Iogwrt gyda darnau o Ffrwythau Ffres neu Ffrwythau Ffres Cyfan

Wythnos 2

Wythnos yn dechrau: 20/04/2026, 11/05/2026, 08/06/2026, 29/06/2026, 31/08/2026, 21/09/2026, 12/10/2026

Bwydlen wythnos 2
Dydd Llun Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener
  • *Sbageti Cyw Iâr a Thomato / *Bîff Sawrus gyda Phwdin Swydd Efrog
  • Llysiau gyda Sbageti mewn Saws Tomato (Ll)
  • Bara Crwst
  • Tatws Hufennog
  • Brocoli ac India-corn
  • Myffin Siocled Oren gyda Gwydryn o Laeth neu Ffrwythau Ffres
  • Peli Cig mewn Saws Tomato
  • Peli Cig Llysieuol (Ll)
  • Troellau Pasta, Bara Garlleg
  • Pys ac India-corn
  • Sgon Afal gyda Chwstard neu Ffrwythau Ffres
  • Brest Cyw Iâr Rhost gyda Stwffin Perlysiau a Grefi
  • Caserol Llysieuol (Ll)
  • Tatws Hufennog
  • Moron a Brocoli
  • Cracyrs gyda Chaws ac Afal neu Ffrwythau Ffres
  • Cyw Iâr wedi'i Lapio - dull Eidalaidd
  • Nygets Llysieuol (Ll)
  • Sglodion neu Daten Bob
  • Moron wedi ei gratio, betys a Salad Cymysg
  • Iogwrt gyda darnau o Ffrwythau Ffres neu Ffrwythau Ffres Cyfan
  • Bysedd Pysgod
  • Bysedd heb Bysgod (Ll)
  • Tatws Hufennog
  • Ffa Pob / Pys Ffyn Llysiau
  • Plat o Ffrwythau neu Salad Ffrwythau

Wythnos 3

Wythnos yn dechrau: 27/04/2026, 18/05/2026, 15/06/2026, 06/07/2026, 07/09/2026, 28/09/2026, 19/10/2026

Bwydlen wythnos 3
Dydd Llun Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener
  • Bolognaise Cartref
  • Bolognaise Llysieuol (Ll)
  • Sbageti
  • Bara Garlleg
  • Pys ac India-corn
  • Cacen Siocled Grensiog gyda Sudd Ffrwythau a Gwydryn o Leath neu Ffrwythau Ffres
  • *Cwn poeth neu Fyrgyr *Cig Eidion
  • Ci Poeth neu Fyrgyr Llysieuol (Ll)
  • Sglodion
  • Salad Cymysg a Ffyn Llysiau
  • *Fflapjac Afal / *Bar Eirin Crensiog a Gwydryn o Laeth neu Ffrwythau Ffres
  • Porc Rhost gyda Stwffin Perlysiau a Grefi
  • Pasta Pob Llysieuol (Ll)
  • Tatws Hufennog
  • Moron a Brocoli
  • Cracers gyda Chaws ac Afal neu Ffrwythau Ffres
  • Pitsa ar Dorth Hir
  • Waffls Tato
  • Salsa Tomato a Chiwcymbr, Salad Betys gyda Ffyn Llysiau
  • Plat o Ffrwythau neu Salad Ffrwythau
  • Bysedd Pysgod Eog
  • Bysedd heb Bysgod (Ll)
  • Tatws Hufennog
  • Ffa Pob / Pys gyda Ffyn Llysiau
  • Bara Crwst
  • Iogwrt gyda darnau o Ffrwythau Ffres neu Ffrwythau Ffres Cyfan

Rydym yn darparu ar gyfer ystod eang o ofynion deietegol arbennig ac yn cynnig dewisiadau I lysieuwyr bob dydd; mae gofynion presennol ein cwsmeriaid yn amrywio ac maent yn cynnwys gofynion fegan, coeliag, soia, halal a diabetig.

Hefyd rydym yn darparu prydau i ddisgyblion ag alergenau a/neu anoddefiadau i gynnyrch penodol. Mae gan wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd restr o 14 o alergenau:

  • Glwten
  • Llaeth
  • Cramenogion
  • Seleri
  • Molysgiaid
  • Mwstard
  • Wyau
  • Sesame
  • Pysgod
  • Bysedd y blaidd
  • Cnau daear
  • Cnau
  • Ffa soia
  • Sylffwr Deuocsid ar lefel uwch na 10miligram/cilogram, neu 10 miligram/litr a nodir fel SO2

Os oes gan eich plentyn ddeiet arbennig a/neu alergedd/anoddefiad i unrhyw un o’r alergenau a restrir uchod, rydym yn gofyn ichi roi gwybod i’r staff arlwyo yn yr ysgol yn syth fel y gellir trefnu a pharatoi prydau ar gyfer eich plentyn/plant.

Ffurflen Deiet Arbennig

A fyddech cystal â nodi fod yr ysgolion uwchradd yn gweithredu gwasanaeth arlwyo 'mewnol', felly, gellir cael manylion pellach drwy gysylltu â'r ysgolion yn uniongyrchol.

Manteision Prydau Bwyd Ysgol

  • Gall eich plentyn fanteisio ar brydau bwyd iach a maethlon, ac arbed amser i chi oherwydd nad oes rhaid paratoi brechdanau
  • Mae plant yn manteisio o eistedd i lawr a bwyta gyda'i gilydd wrth y bwrdd ac mae yna anogaeth i flasu bwydydd newydd
  • Bydd eich plentyn yn datblygu arferion bwyta'n iach yn gynnar iawn a fydd, gobeithio, yn para am flynyddoedd eto i ddod
  • Bydd eich plentyn yn cael 1/3 o'i anghenion maethu dyddiol drwy fwyta pryd ysgol
  • Mae prydau bwyd ysgol yn gytbwys ac iach ac yn amrywio o'r naill ddiwrnod i'r llall
  • Rydym yn darparu ar gyfer llysieuwyr a phob deiet arbennig ac yn rhoi ystyriaeth i anghenion maethol crefyddol a meddygol
  • Gall eich plentyn ymuno mewn prydau bwyd ar themâu arbennig mewn cysylltiad â phynciau sy'n cael eu haddysgu yn y dosbarth, a hefyd, mentrau cenedlaethol
  • Mae prydau ysgol yn cynnig gwerth ardderchog am arian. Gallwch brynu pryd o fwyd dau gwrs iachus a maethlon, felly, Ewch amdani!

Holwch yn eich ysgol am fanylion amseroedd ac ati.

Ar gael i frecwast:-

  • Tost - gyda fflora taenu braster isel
  • Grawnfwyd Brecwast - Rice Krispies, Porridge, Cornflakes neu Weetabix heb siwgr gyda llaeth hanner-sgim