Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Maethu gyda Maethu Cymru Ceredigion

Ni yw Maethu Cymru Ceredigion, gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol ac yn rhan o rwydwaith cenedlaethol Maethu Cymru. Gyda’n gilydd, mae holl wasanaethau maethu 22 awdurdod lleol Cymru yn gweithio i greu dyfodol gwell i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

maethu

Fel gwasanaeth maethu nid-er-elw, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’n gofalwyr maeth i ddarparu cartrefi diogel, sefydlog a chariadus i blant lleol. Lle bynnag y bo modd, a phan fydd hynny er budd pennaf y plentyn, rydym yn helpu plant i gadw cysylltiad â’u teuluoedd, eu ffrindiau, eu hysgolion a’u cymunedau yng Ngheredigion.

Allech chi ddod yn ofalwr maeth?

Daw gofalwyr maeth o bob math o gefndiroedd, gan ddod â phrofiadau, sgiliau a rhinweddau amrywiol. Nid oes angen profiad blaenorol o ofalu am blant i ddod yn ofalwr maeth – yr hyn sydd bwysicaf yw eich gallu i gynnig gofal, dealltwriaeth, sefydlogrwydd a chefnogaeth i blentyn.

Rydym yn croesawu ymholiadau gan bobl sy’n sengl neu mewn perthynas, boed yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n ddi-waith. Mae amgylchiadau pawb yn wahanol, ac mae ein tîm yma i’ch helpu i ystyried a allai maethu fod yn addas i chi.

Mae sawl math gwahanol o faethu ar gael i gyd-fynd ag amgylchiadau a lefelau argaeledd gwahanol. Mae’r rhain yn amrywio o faethu tymor byr a thymor hir i ofal brys a gofal seibiant, gan gynnwys trefniadau a all olygu gofalu am blentyn am un penwythnos y mis yn unig. Rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc o’u genedigaeth hyd at 18 oed, yn ogystal â phobl ifanc ar ôl eu pen-blwydd yn 18 oed wrth iddynt baratoi i fyw’n annibynnol.

Y gefnogaeth y byddwch yn ei chael

Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Ceredigion, byddwch yn dod yn rhan o dîm cefnogol. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae gofalwyr maeth yn ei chwarae ac wedi ymrwymo i ddarparu’r arweiniad, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen arnoch.

Cymorth ariannol a chydnabyddiaeth

  • Lwfansau maethu hael
  • Lwfansau ychwanegol ar gyfer penblwyddi, gwyliau crefyddol a gwyliau blynyddol
  • Lwfans ychwanegol am gymryd rhan yn y rota argyfwng
  • Cydnabyddiaeth am wasanaeth parhaus

Cefnogaeth bwrpasol a chymuned

  • Tîm penodedig o weithwyr proffesiynol maethu profiadol
  • Grwpiau cymorth i ofalwyr maeth bob dau fis
  • Sesiynau coffi a sgwrs bob dau fis
  • Gweithgareddau a digwyddiadau i’r teulu cyfan

Hyfforddiant a datblygiad

  • Cyfleoedd rheolaidd i gael hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb
  • Arweiniad a chefnogaeth i ennill cymhwyster Lefel 3 QCF mewn Gofalu am Blant a Phobl Ifanc

Aelodaeth a buddion i’r teulu

  • Aelodaeth o The Fostering Network
  • Aelodaeth Cadw
  • Tocynnau hamdden i deuluoedd maeth, sy’n rhoi mynediad i ganolfannau lles a hamdden

Cymerwch y cam cyntaf

Nid oes angen i chi gael yr holl atebion er mwyn dechrau ystyried maethu. Os ydych chi erioed wedi meddwl am agor eich cartref i blentyn neu berson ifanc lleol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu yng Ngheredigion, ewch i wefan Maethu Cymru Ceredigion.