Ceredigion Oed Gyfeillgar
Ymunwch â ni i greu Ceredigion Oed-gyfeillgar
Beth yw Cymuned Oed-gyfeillgar?
Cymunedau Oed-gyfeillgar yw mannau lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn cyd-weithio mewn partneriaeth i’n cefnogi a’n galluogi i heneiddio’n dda – Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)
Wyth maes cymuned Oed-gyfeillgar:
- Ardaloedd Allanol ac Adeiladau: Ardaloedd cyhoeddus diogel, hygyrch ac wedi’u cynnal yn dda i annog gweithgarwch a rhyngweithio.
- Trafnidiaeth: Trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a fforddiadwy, a ffyrdd diogel sydd wedi’u cynnal yn dda.
- Tai: Dewis amrywiol o dai fforddiadwy, hygyrch a chefnogol.
- Cyfranogiad Cymdeithasol: Cyfleoedd i breswylwyr o bob oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, diwylliannol ac ysbrydol.
- Parch a Chynhwysiant Cymdeithasol: Rhaglenni a gwasanaethau sy’n hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol a phontio cenedlaethau.
- Cyfranogiad Dinesig a Chyflogaeth: Annog oedolion hŷn i gymryd rhan mewn penderfyniadau cymunedol a darparu cyfleoedd gwaith hyblyg.
- Cyfathrebu a Gwybodaeth: Mynediad hawdd at wybodaeth, gan gynnwys technolegau newydd sy'n ymgysylltu yn hytrach nag eithrio.
- Cefnogaeth Gymunedol a Gwasanaethau Iechyd: Gwasanaethau gofal iechyd hygyrch sy'n diwallu anghenion preswylwyr ar bob cam o'u bywydau.
Pam ddylai'ch cymuned gymryd rhan?
- Mae Ceredigion Oed-gyfeillgar yn cael ei arwain gan y gymuned. Mae hyn yn golygu ein bod yn medru cynorthwyo oedolion hŷn i fod yn iach a gweithgar, cryfhau cysylltiadau cymunedol, a hybu’r economi leol drwy gynnwys oedolion hŷn mewn amrywiol weithgareddau.
- Gall cymunedau Oed-gyfeillgar wneud Ceredigion yn le gwell i bawb.
Cysylltwch â'r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol i fynegi eich diddordeb, dysgu mwy am ddod yn Gynrychiolydd Dinasyddion a dod o hyd i eraill sy'n rhannu’r un cymhelliant.
📞 01545 574200
Am fwy o wybodaeth am Cymunedau Oed Gyfeillgar cliciwch ar y dolenni canlynol
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Sicrhau Cymunedau Sy’n Ystriol o Oedran: Enghreifftiau o Arfer Da
- Sefydliad Iechyd y Byd (WHO): Creating age-friendly cities and communities (Saesneg yn unig)
Cyfeiriadur Ceredigion Oed Cyfeillgar
Cyfeiriadur Ceredigion Oed CyfeillgarGrwpiau Cymunedol
Grwpiau CymunedolDiweddariadau Cenedlaethol
Diweddariadau CenedlaetholCylchlythyrau a Fforymau
Cylchlythyrau a FforymauDigwyddiadau
Digwyddiadau