Ffurflenni Cais
Y Porth Cynllunio
Y ffordd hawsaf o ymgeisio am ganiatâd cynllunio yw ei wneud ar lein drwy'r porth cynllunio. Gallwch lwytho fyny eich mapiau a thalu am y cais ar lein drwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Mae cyflwyno eich cais trwy'r porth cynllunio yn cyflymu lan eich penderfyniad o'ch cais a fydd yn arbed chi'r gost o dâl post a phrintio.
Fodd bynnag, petai'n well gennych chi lawrlwytho'r ffurflenni perthnasol a'u printio er mwyn eu llanw cewch wneud hynny a'u dychwelyd i'r swyddfa gynllunio. Unwaith eto, byddai'n well gennym pe bai'r ffurflenni hyn yn cael eu cyflwyno'n electronig trwy planning.validation@ceredigion.gov.uk. Fodd bynnag, os na allwch chi anfon y cais yn electronig, postiwch i: Gwasanaeth Cynllunio: Cynllunio, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.
Mae'r rhan hon hefyd yn cynnwys nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer yr holl ffurflenni cais neu fe allwch chi weld y rheiny ar lein drwy'r porth cynllunio. Os ydych chi'n gwybod pa ffurflenni y mae arnoch eu hangen gallwch chi eu lawrlwytho o'r tabl isod, fel arall cyflwynwch eich cais drwy'r porth cynllunio oherwydd mae'r gwasanaeth hwn yn rhyngweithiol ac mae'n eich tywys drwy'r drefn ymgeisio.
Cofiwch sicrhau fod eich cais yn gyflawn neu ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn gallu ei dderbyn a gallai hynny beri oedi diangen i chi. Byddai'n well petaech yn defnyddio'r porth cynllunio i gyflwyno eich cais oherwydd bydd y gwasanaeth hwn yn dweud wrthych a ydych wedi llanw'r ffurflen yn gywir ai peidio.
Noder: Os yn cyflwyno yn ffurflen papur ni dim ond angen un set.
Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 12: Dylunio (2016) a Canllawiau ar Ddatganiadau Dylunio a Mynediad 2016
Rhowch wybod i chi
- nid oes rhaid cynnwys popeth sydd ar y rhestr wirio
- defnyddiwch y canllawiau genedlaethol ar gyfer cyflwyno ceisiadau i ganfod pa wybodaeth y mae angen i chi ei gynnwys gyda'ch cais
Ffioedd Cynllunio
Lawrlwytho'r Ffurflenni
Ffurlfen Deisyfu Cyngor Cyn-ymgeisio Statudol
Dysgrifiad o'r Ffurflen Gais | Dolen i'r Ffurflen Gais | Dolen i'r Cyfarwyddyd Genedlaethol | Dolen i'r Rhestr Wirio |
---|---|---|---|
1) Cais Deiliad am ganiatâd cynllunio i wneud gwaith neu i ymestyn annedd | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
2) Cais gan ddeiliad ty am ganiatâd cynllunio am waith ar neu ymestyn annedd a chaniatâd ardal gadwraeth | Ffurlfen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
3) Cais gan ddeiliad ty am ganiatâd cynllunio am waith ar /neu ymestyn annedd a chaniatâd adeilad rhestredig | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
4) Cais am ganiatâd cynllunio | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
5) Cais am ganiatâd cynllunio amlinellol gyda rhai materion a gadwyd yn ôl | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
6) Cais am ganiatâd cynllunio amlinellol a'r holl faterion wedi eu cadw yn ôl | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
7) Cais am ganiatâd cynllunio a chaniatâd ardal gadwraeth ar gyfer gwaith dymchwel mewn ardal gadwraeth | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
8) Cais am ganiatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig ar gyfer newid, ymestyn neu ddymchwel adeilad rhestredig | Ffurlfen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
9) Cais am ganiatâd cynllunio a chaniatâd i arddangos hysbyseb(ion) | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
10) Cais am ganiatâd ardal gadwraeth ar gyfer gwaith dymchwel mewn ardal gadwraeth | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
11) Cais am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwneud newidiadau, ymestyn neu ddymchwel adeilad rhestredig | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
12) Cais am ganiatâd i arddangos hysbyseb(ion) | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
14) Cais am dystysgrif datblygiad cyfreithlon ar gyfer defnydd neu weithgaredd neu waith gan gynnwys rhai sy'n groes i amod cynllunio | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
15) Cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ar gyfer defnydd neu ddatblygiad arfaethedig | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
16) Cais am hysbysiad ymlaen llaw ynghylch datblygiad amaeth neu goedwigaeth arfaethedig – adeilad arfaethedig | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
17) Cais am hysbysiad ymlaen llaw am datblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – ffordd arfaethedig | Ffurflen Gais | Canllaiwau | Rhestr Wirio |
18) Cais am hysbysiad ymlaen llaw am datblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – cloddio / gwastraff | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
19) Cais am hysbysiad ymlaen llaw am datblygiad ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth – tanc pysgod arfaethedig (cawell) | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
20) Cais am hysbysiad ymlaen llaw am datblygiad arfaethedig gan weithredwyr systemau côd telathrebu | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
21) Cais igael gwared â gwrych | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
22) Cais am hysbysiad ymlaen llaw am waith dymchwel arfaethedig | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
23) Cais i gymeradwyo'r materion a gadwyd yn ôl yn dilyn cymeradwyaeth amlinellol | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
25) Cais i ddiddymu neu amrywio amod ar ôl rhoddi caniatâd cynllunio | Ffurflen Gais | Canllawiau | Rhestr Wirio |
27) Cais am ddiwygiad ansylweddol ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi | Ffurflen Gais | Canllawiau | |
28) Cais i gymeradwyo manylion sydd wedi'u cadw'n ôl gan amod | Ffurflen Gais | Canllawiau |
Os nad yw'r ffurflen yr ydych yn chwilio amdani i'w chael yn y tabl uchod, dylech gyflwyno eich cais drwy'r porth cynllunio neu gysylltu â'r swyddfa gynllunio. Mae rhestrau gwirio ar gael i'w lawrlwytho ar ochr dde'r dudalen i'ch helpu chi lanw'r ffurflen yn gywir.
Mae angen tystysgrif perchnogaeth tir ar gyfer y tir dan sylw gyda phob cais cynllunio ac mae hyn wedi ei gynnwys yn y ffurflen gais. Fodd bynnag, os nad chi yw perchennog y tir neu os yw'r tir yn amaethyddol ac mae tenantiaid arno, yna bydd yn rhaid i chi eu hysbysu ynghylch eich bwriad i ymgeisio am ganiatad cynllunio. Gallwch lawrlwytho hysbysiad i'w gyflwyno i berchnogion neu i denantiaid ar ochr dde'r dudalen we.
Angen gwneud taliad?