Hysbysiad Preifatrwydd Uned Cludiant Teithwyr Corfforaethol
Y dibenion yr ydym yn defnyddio eich data personol ar eu cyfer
Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at ddiben(ion)
- Darparu gwasanaeth cludiant i aelodau o'r gymuned a phlant ysgol
- Hwyluso cynllun teithio rhatach ar ran Llywodraeth Cymru
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich gwybodaeth yw:
- Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yn unol â'r Deddfau Addysg i ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol ar gyfer disgyblion cymwys
- Cydymffurfio â rhwymedigaethau'r Awdurdod o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 wrth ddarparu gwasanaethau cludiant a gwasanaethau prydau bwyd yn y cartref
- Cydymffurfio â'n tasg gyhoeddus
Beth os nad ydych yn rhoi data personol?
Os na roddwch y wybodaeth sydd ei hangen arnom pan ofynnwn amdani, gallai hyn arwain, ni fyddwch yn gallu cael gafael ar wasanaethau, na defnyddio trefniadau teithio rhatach.
Pa fath o wybodaeth rydym yn ei defnyddio?
Efallai y byddwn yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Rhywedd
- Ysgol neu Gyfleuster a fynychwyd
- Gwybodaeth Gyswllt Perthynas Agosaf
- Cyfeirnod unigryw
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion banc/talu
- Cyfansoddiad eich teulu
- Eich amgylchiadau cymdeithasol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Lluniau/ffotograffau
- Rhif cofrestru cerbyd
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Credoau crefyddol neu athronyddol
Ydyn ni'n defnyddio gwybodaeth o gafwyd ffynonellau eraill?
Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi ond hefyd yn cael gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
- Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion
- Gwasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion
- Gwasanaethau Cyllid Cyngor Sir Ceredigion
- Gwasanaethau Cludiant, Cymdeithasol neu Ddysgu Awdurdodau Lleol eraill
- Llywodraeth Cymru
- Trafnidiaeth Cymru
- Traveline Cymru
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Rhywedd
- Ysgol neu Gyfleuster a fynychwyd
- Gwybodaeth Gyswllt Perthynas Agosaf
- Cyfeirnod unigryw
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion banc/talu
- Cyfansoddiad eich teulu
- Eich amgylchiadau cymdeithasol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Lluniau/ffotograffau
- Rhif cofrestru cerbyd
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Credoau crefyddol neu athronyddol
Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Yn fewnol
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Gwasanaethau Dysgu
- Gwasanaethau Cyllid
Yn allanol
- Gwasanaethau Cludiant, Cymdeithasol neu Ddysgu Awdurdodau Lleol eraill
- Llywodraeth Cymru
- Trafnidiaeth Cymru
- Traveline Cymru
- Gweithredwyr tacsis/bysiau
Mae yna sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle mae'n bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, fel:
- Lle mae gofyn i'r Cyngor roi'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
- Pan fydd angen datgelu'r wybodaeth er mwyn atal neu ganfod trosedd
- Lle mae datgelu er budd hanfodol y person dan sylw