Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid

Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £3.8 miliwn i Gymru i helpu’r rhai ar incwm isel sy'n cael eu heffeithio gan gostau ynni uchel oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol. Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried yr opsiynau ac wedi penderfynu ar gwmpas a graddfa'r cymorth. Bydd taliad o £200 yn cael ei wneud i bob aelwyd sy'n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac sy'n ddibynnol ar naill ai olew gwresogi neu LPG.

Bydd y taliad yn cael ei ddosbarthu gan yr awdurdodau lleol. Bydd y rhai sydd ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ac sy'n debygol o fod yn ddibynnol ar olew gwresogi neu LPG yn cael llythyr gan eu hawdurdod yn eu gwahodd i wneud cais. Bydd angen i hawlwyr gadarnhau eu math o danwydd gwresogi a darparu manylion banc, a chaiff taliadau eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc.

Bwriad y taliad untro yw lleddfu rhywfaint o'r pwysau ariannol y mae aelwydydd incwm isel yn eu hwynebu gyda chost uwch olew gwresogi ac LPG. Er enghraifft, gallai'r taliad alluogi rhai aelwydydd i osod archebion na fyddent fel arall yn gallu eu gwneud neu helpu rhai aelwydydd i leihau eu risg o fynd i fwy o ddyled os ydynt wedi gorfod talu am danwydd yn ddiweddar am gost llawer uwch o'i gymharu â’r lefelau cyn y gwrthdaro. Gall y taliad hefyd wella llesiant meddyliol aelodau'r aelwyd trwy leihau'r straen sy'n gysylltiedig â phryderon ariannol.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd yr Awdurdod yn prosesu eich data personol i weinyddu'r cynllun hwn.

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch chi yn cael ei defnyddio at y diben(ion) canlynol:

  • Asesiad o'ch cymhwysedd ar gyfer y taliad Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid
  • Rhoi’r taliad grant cymorth i chi.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:

  • Mae prosesu yn angenrheidiol o dan Erthygl 6 e) GDPR y DU. Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Lle mae data Categori Arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithiol yw Erthygl 9 (2) g) rhesymau budd cyhoeddus sylweddol (deddfwriaeth fel isod). Yr amodau prosesu budd cyhoeddus sylweddol yw 6) dibenion statudol a llywodraethol.

Y ddeddfwriaeth berthnasol yw

  • Deddf Lleoliaeth 2011.
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2015

Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen arnom pan ofynnwn amdani, gallai hyn arwain at yr Awdurdod yn methu ag asesu eich cymhwysedd i gael cymorth o dan y cynllun grant.

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi i ddarparu'r gwasanaeth hwn:

  • Enw, cyfeiriad
  • Rhif ffôn cyswllt
  • Cyfeiriad ebost cyswllt
  • Statws Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
  • Cyfeirnod cyfrif y Dreth Gyngor
  • Enw banc, cod didoli a rhif cyfrif banc
  • Dogfennaeth ategol
    • Copi o ddatganiad banc sydd wedi'i ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
    • Copi o fil olew gwresogi neu LPG sydd wedi'i ddyddio o fewn y 12 mis diwethaf.

Nid ydym yn derbyn data personol o unrhyw ffynhonnell arall i ddarparu'r gwasanaeth hwn i chi.

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Byddwn yn rhannu data ystadegol nad yw'n bersonol gyda Llywodraeth Cymru.

Mae sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle efallai y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:

  • Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Lle mae datgelu'r wybodaeth yn ofynnol er mwyn atal neu ganfod trosedd
  • Lle mae datgeliad er buddiant allweddol y person dan sylw