Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Tai

Y dibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol

Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion) asesu eich angen am dŷ ac er mwyn darparu tŷ a/neu gefnogaeth i chi sy’n diwallu eich anghenion. Gellir defnyddio’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu yn eich cofnod ar y gofrestr neu’r cofrestrau canlynol:

  • Cofrestr Tai Cyffredin
  • Cofrestr Tai Fforddiadwy
  • Cofrestr Tai Hygyrch
  • Cofrestr Tai Pobl Hŷn
  • Opsiynau Tai/Cofrestr Ddigartrefedd
  • Er mwyn asesu’r angen am lety Teithwyr yn y Sir
  • Cofrestr Tai Amlfeddiannaeth (HMO)
  • Gweinyddu'r Grant Tai Gwag Cenedlaethol yn ardal Sir Ceredigion
  • Cynllun Lesio Cymru

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer swyddogaethau swyddogol neu er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys y ddeddfwriaeth a restrir isod:

  • Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Deddf Tai 2004
  • Deddf Tai 1996
  • Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
  • Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015
  • Rheoliadau Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006

Beth os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain atom yn methu darparu ein gwasanaethau i chi, ac yn methu delio gyda’ch cais yn gyfan gwbl, a allai arwain at ganlyniad aflwyddiannus.

Pa fath o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio?

Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeirnod unigryw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhyw
  • Eich cefndir ethnig neu hiliol
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol
  • Cydraddoldeb a monitro data
  • Manylion banc/talu
  • Cyfansoddiad eich teulu
  • Eich amgylchiadau cymdeithasol
  • Eich amgylchiadau ariannol
  • Manylion cyflogaeth ac addysg
  • Gwybodaeth am eich iechyd
  • Eich anghenion cymorth
  • Eich anghenion tai
  • Eich amgylchiadau/hanes tai
  • Gwybodaeth am eich cysylltiad lleol
  • Statws preswylio yn y DU
  • Euogfarnau a throseddau troseddol; ac ati.
  • Gwybodaeth am gam-drin a gwahaniaethu
  • Asesiad risg
  • Gwybodaeth am ymwneud ag asiantaethau eraill
  • Delweddau/ffotograffau

A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd gan ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:

Mewnol

  • Porth Gofal
  • Porth Cynnal
  • Porth Cymorth Cynnar
  • Cyswllt Cwsmeriaid
  • Gwasanaethau Democrataidd
  • Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol
  • Gwasanaethau Polisi; Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd
  • Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu
  • Gwasanaethau Economi ac Adfywio
  • Gwasanaethau Partneriaeth a Pherfformiad
  • Gwasanaethau Cyllid a Chaffael (e.e. Budd-dal Tai/Treth y Cyngor)
  • Gwasanaeth Ysgolion
  • Gwasanaethau Tai

Allanol

  • Unrhyw gorff cyhoeddus perthnasol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Heddlu
  • Gwasanaeth Prawf
  • Gwasanaethau Iechyd gan gynnwys Gofal Sylfaenol a Gofal Eilaidd
  • Gofal Iechyd Amgen
  • Sefydliadau’r Trydydd Sector (e.e. The Wallich, Cymdeithas Gofal)
  • Landlordiaid Preifat
  • Asiantau Eiddo /Asiantau Gosod
  • Cyngor Sir Caerdydd fel yr Awdurdod Trwyddedu dynodedig ar gyfer Rhentu Doeth Cymru
  • Perthnasau, gwarcheidwaid neu bersonau eraill sy'n gysylltiedig â'r unigolyn

Trosglwyddo'ch gwybodaeth i wlad dramor

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Gyda phwy y rhennir eich gwybodaeth chi efallai (mewnol ac allanol)

Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:

Mewnol

  • Porth Gofal
  • Porth Cynnal
  • Porth Cymorth Cynnar
  • Cyswllt Cwsmeriaid
  • Gwasanaethau Democrataidd
  • Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol
  • Gwasanaethau Polisi; Perfformiad a Diogelu'r Cyhoedd
  • Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu
  • Gwasanaethau Economi ac Adfywio
  • Gwasanaethau Partneriaeth a Pherfformiad
  • Gwasanaethau Cyllid a Chaffael (e.e. Budd-dal Tai/Treth y Cyngor)
  • Gwasanaeth Ysgolion
  • Gwasanaethau Tai

Allanol

  • Unrhyw gorff cyhoeddus perthnasol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig
  • Awdurdodau Lleol eraill
  • Heddlu
  • Gwasanaeth Prawf
  • Gwasanaethau Iechyd gan gynnwys Gofal Sylfaenol a Gofal Eilaidd
  • Gofal Iechyd Amgen
  • Sefydliadau’r Trydydd Sector (e.e. The Wallich, Cymdeithas Gofal)
  • Landlordiaid Preifat
  • Asiantau Eiddo /Asiantau Gosod
  • Cyngor Sir Caerdydd fel yr Awdurdod Trwyddedu dynodedig ar gyfer Rhentu Doeth Cymru
  • Hysbysiad Preifatrwydd y Cynllun Cartrefi Gwag Cenedlaethol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Perthnasau, gwarcheidwaid neu bersonau eraill sy'n gysylltiedig â'r unigolyn
  • Data dienw i ddatblygwyr, Llywodraeth Cymru, sefydliadau arolygon ac ymchwil

Prosesir gwybodaeth dan ddarpariaethau Cytundeb WASPI ar gyfer y Gofrestr Tai Cyffredin.

Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:

  • Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
  • Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
  • Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw