Hysbysiad Preifatrwydd Polisi Cynllunio
Y dibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol
Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol fel y gallwn gydymffurfio gyda’n dyletswyddau cyfreithiol wrth baratoi, gweithredu a monitro’r Cynllun Datblygu Lleol ac wrth baratoi’r Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai, fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth cynllunio.
Mae angen prosesu eich data er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
- Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
- Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
Beth os na fyddwch yn darparu data personol?
Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn y gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol, gweithredu ei bolisïau a monitro ei weithrediad a pharatoi’r Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai.
Pa fath o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol at ddibenion gweinyddu:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhifau ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Unrhyw fanylion cyswllt eraill
- Y wybodaeth uchod ar gyfer unrhyw asiant/ymgynghorydd sy’n gweithredu ar eich rhan
Ynghyd â’r uchod, rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol at ddibenion gweinyddol er mwyn gweithredu Polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol:
- Cyfansoddiad eich teulu
- Oedran
- Gwybodaeth ariannol (megis gwybodaeth am gyflog, argaeledd morgais a gwybodaeth am y darparwr)
Rydym yn casglu’r data canlynol hefyd, nad yw’n ddata personol, at ddibenion gweinyddol:
- Math o berchnogaeth (os yw hynny’n berthnasol)
- Perchnogaeth tir
- Gwerthoedd Tir ac Eiddo, pan fydd angen i ni asesu hyfywedd neu gymhwystra datblygiad (ar gyfer tai fforddiadwy)
- Manylion ariannol sy’n ymwneud â hyfywedd safleoedd datblygu, pan fyddant yn ymwneud â llofnodi cytundebau cyfreithiol er mwyn talu cyfraniadau ariannol i’r Cyngor
- Unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i safle, megis cyfyngiadau, mynediad, seilwaith ac ati
Gan bwy y byddwn yn casglu’r wybodaeth?
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond byddwn yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:
- Rheoli Datblygu, Rheoli Adeiladu, Treth Gyngor, Gwasanaethau Etholiadol, Ystadau
Caiff y mathau canlynol o ddata personol ei sicrhau:
- Enw
- Cyfeiriad
- E-bost
- Unrhyw fanylion cyswllt eraill
Rydym yn casglu’r canlynol gan y ffynonellau hyn hefyd, nad yw’n ddata personol
- Gwerthoedd Tir ac Eiddo, pan fydd angen i ni asesu hyfywedd neu gymhwystra datblygiad (ar gyfer tai fforddiadwy)
- Gwybodaeth ariannol sy’n ymwneud â hyfywedd safleoedd datblygu, pan fyddant yn ymwneud â llofnodi cytundebau cyfreithiol er mwyn talu cyfraniadau ariannol i’r Cyngor
- Unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i safle, megis cyfyngiadau, mynediad, seilwaith ac ati
Trosglwyddo eich gwybodaeth i wlad dramor
Ni throsglwyddir eich gwybodaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Gyda phwy y gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu (yn fewnol ac yn allanol)?
Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu’r cronfeydd cyhoeddus yr ydym yn eu gweinyddu ac efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparir gennych chi at ddibenion archwilio ac adrodd.
Byddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau sy’n ofynnol yn unol â’r gyfraith ac efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am ddatrys/atal twyll neu droseddu neu archwilio/gweinyddu cronfeydd cyhoeddus er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwy priodol a chost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, efallai y rhennir gwybodaeth gydag adrannau mewnol eraill o fewn Cyngor Sir Ceredigion ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatgeliadau i drydydd partïon at ddibenion marchnata.
Bydd eich data yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser, a dim ond y wybodaeth bersonol sy’n ofynnol fel rhan o’r broses o gynhyrchu’r CDLl neu ymateb i ymholiadau neu weithredu’r CDLl y byddwn yn ei chasglu.