Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Tai
Y dibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol
Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion) asesu eich angen am dŷ ac er mwyn darparu tŷ i chi sy’n diwallu eich anghenion. Gellir defnyddio’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu yn eich cofnod ar y gofrestr neu’r cofrestrau canlynol:
- Cofrestr Tai Cyffredin
- Cofrestr Tai Fforddiadwy
- Cofrestr Tai Hygyrch
- Cofrestr Tai Pobl Hŷn
- Dewisiadau Tai
- Er mwyn asesu’r angen am lety Teithwyr yn y Sir
- Cofrestr Tai Amlfeddiannaeth (HMO)
- Gweinyddu'r Grant Tai Gwag Cenedlaethol yn ardal Sir Ceredigion
- Cynllun Lesio Cymru
Yn ogystal, gellir defnyddio gwybodaeth i’ch cynorthwyo os oes gennych chi ymholiadau ynghylch digartrefedd.
Y saith gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth yw er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer swyddogaethau swyddogol neu er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys y ddeddfwriaeth a restrir isod:
- Deddf Tai (Cymru) 2014
- Rheoliadau Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006
Beth os na fyddwch yn darparu data personol?
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain atom yn methu darparu ein gwasanaethau i chi, ac yn methu delio gyda’ch cais yn gyfan gwbl, a allai arwain at ganlyniad aflwyddiannus.
Pa fath o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio?
Efallai y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Rhyw
- Cyfeirnod unigryw
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion banc/talu
- Cyfansoddiad eich teulu
- Eich amgylchiadau cymdeithasol
- Eich amgylchiadau ariannol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Eich anghenion tai
- Delweddau/ffotograffau
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Eich cefndir ethnig neu hiliol
- Credoau crefyddol neu athronyddol
- Safbwyntiau Gwleidyddol
- Gwybodaeth am eich bywyd rhywiol neu’ch cyfeiriadedd rhywiol
- Data genetig
- Data biometrig
- Euogfarnau troseddol a throseddau; ac ati
A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd gan ffynonellau eraill?
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:
Mewnol
- Gofal Cymdeithasol
- Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid
- Cyllid (e.e. Budd-dal Tai/Treth Gyngor)
- Addysg
- Tai Sector Preifat (e.e. Grantiau/ Trwsio)
- Tîm Strategaeth Tai
Allanol
- Unrhyw gorff cyhoeddus perthnasol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig
- Heddlu
- Gwasanaeth prawf
- Gofal Sylfaenol
- Gofal Eilaidd
- Gofal Iechyd Amgen
- The Wallich
- Cymdeithas Gofal
- Y Groes Goch
- Unrhyw Sefydliad Trydydd Sector sy’n cael cyswllt gydag unigolyn ar y ddwy ochr
- Cymorth i Fenywod
- Landlordiaid Preifat
- Asiantau Eiddo
- Cyngor Sir Caerdydd fel yr Awdurdod Trwyddedu dynodedig ar gyfer Rhentu Doeth Cymru
Trosglwyddo'ch gwybodaeth i wlad dramor
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Gyda phwy y rhennir eich gwybodaeth chi efallai (mewnol ac allanol)?
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:
Mewnol
- Gofal Cymdeithasol
- Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid
- Cyllid (e.e. Budd-dal Tai/Treth Gyngor)
- Addysg
- Tai Sector Preifat (e.e. Grantiau/ Trwsio)
- Tîm Strategaeth Tai
Allanol
- Unrhyw gorff cyhoeddus perthnasol neu Landlord Cymdeithasol Cofrestredig
- Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf (mewn perthynas â’r cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol, ac yn unol â darpariaethau hysbysiad preifatrwydd y cynllun
- Heddlu
- Gwasanaeth prawf
- Gofal Sylfaenol
- Gofal Eilaidd
- Gofal Iechyd Amgen
- The Wallich
- Cymdeithas Gofal
- Y Groes Goch
- Unrhyw Sefydliad Trydydd Sector sy’n cael cyswllt gydag unigolyn ar y ddwy ochr
- Cymorth i Fenywod
- Landlordiaid Preifat
- Asiantau Eiddo
- Data dienw i ddatblygwyr
Prosesir gwybodaeth dan ddarpariaethau Cytundeb WASPI ar gyfer y Gofrestr Tai Cyffredin.
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
- Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
- Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
- Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw