Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Cyllid, Caffael a Craidd
Y dibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol
Defnyddir y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch at ddiben(ion) darparu gwasanaeth, gan gynnwys:
- gwneud taliadau i unigolion a darparwyr gwasanaeth
- casglu debyd uniongyrchol er mwyn setlo anfonebau a roddir i unigolion am wasanaethau a ddarparir gan neu ar ran Cyngor Sir Ceredigion
- prosesu taliadau a wneir i'r Cyngor i sicrhau dyraniad cywir o fewn ein systemau
- cyflogres
- delio â hawliadau
- caffael
- asesiadau ariannol
- dyfarnu grantiau
- cynnal ein cyfrifon a’n cofnodion ein hunain
- ceisiadau benthyciad ceir gweithwyr
Mae’r sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth fel y nodir ym mharagraffau 1 b) ac 1 c) Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR DU), fel y nodir isod:
- tasg gyhoeddus - “mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu er mwyn cyflawni awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd”
- contract - “mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni contract y mae gwrthrych y data yn barti iddo neu er mwyn cymryd camau ar gais gwrthrych y data cyn ymrwymo i gontract”
Beth os na fyddwch yn darparu data personol?
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y bydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, efallai na fyddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth.
Pa fath o wybodaeth yr ydym yn ei defnyddio?
Efallai y caiff y mathau canlynol o ddata personol eu sicrhau, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Rhyw
- Cyfeirnod unigryw
- Rhif ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Manylion banc/talu
- Cyfansoddiad eich teulu
- Eich amgylchiadau cymdeithasol
- Eich amgylchiadau ariannol
- Manylion cyflogaeth ac addysg
- Delweddau/ffotograffau
- Rhif cofrestru cerbyd
- Gwybodaeth am eich iechyd
- Euogfarnau troseddol a throseddau, ac ati.
- Llofnod
- Eich amgylchiadau ariannol
- Manylion addysg a chyflogaeth
- Manylion hyfforddi
- Aelodaeth sefydliadau proffesiynol
- Achrediadau
- Geirda
- Delweddau/ffotograffau
A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd gan ffynonellau eraill?
Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth gennych chi yn uniongyrchol, ond rydym yn cael gwybodaeth gan y ffynonellau canlynol hefyd:
- Meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor
- Asiantaethau gwirio credyd
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
- Banciau a chymdeithasau adeiladu
- Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol eraill
- Broceriaid Yswiriant a Chwmnïau Yswiriant
- Cynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
- Canolwyr
- Ffynonellau gwybodaeth ar y we, er enghraifft, GwerthwchiGymru, Tŷ'r Cwmnïau
Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Efallai y trosglwyddir eich gwybodaeth i wlad dramor trwy ei chyhoeddi yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).
Byddwn yn gwneud hyn er mwyn bodloni Rheoliadau Caffael UE mewn perthynas â Hysbysiadau Dyfarnu Contract. Dim ond i ddata sy’n ymwneud ag ymgeiswyr/cyflenwyr llwyddiannus mewn perthynas â chyfleoedd contract a hysbysebir yn OJEU y mae hwn yn berthnasol.
Gyda phwy y gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu (yn fewnol ac yn allanol)?
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r derbynwyr canlynol, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:
- Meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor
- Asiantaethau gwirio credyd
- HMCTS (Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM)
- Pob banc a chymdeithas adeiladu
- Llywodraeth Ganolog ac Awdurdodau Lleol eraill
- Broceriaid Yswiriant a Chwmnïau Yswiriant
- Cynghorwyr proffesiynol gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, cyfreithwyr a bargyfreithwyr
- Canolwyr
- Ffynonellau gwybodaeth ar y we, er enghraifft, GwerthwchiGymru, Tŷ'r Cwmnïau
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle y bydd gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi efallai, megis:
- Pan fydd gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth yn unol â’r gyfraith
- Pan fydd gofyn datgelu’r wybodaeth er mwyn atal neu ddatrys trosedd
- Pan fydd ei datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw.