Hysbysiad Preifatrwydd Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Rydym yn casglu gwybodaeth monitro cydraddoldeb i sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant ym Mhanel y Bobl, gan gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, a gwella ein harferion.
Ar ôl casglu, bydd eich data yn cael ei drefnu’n ddienw a’i ddefnyddio ar gyfer y canlynol:
• Monitro’r amrywiaeth ar y panel
• Adrodd ar ystadegau cyfanredol
• Nodi meysydd i’w gwella yn ein harferion recriwtio
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:
Mae prosesu Erthygl 6 (e) UKGDPR yn angenrheidiol i ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd a freiniwyd yn y rheolwr.
Mae Panel y Bobl yn galluogi'r Awdurdod i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'i Ddyletswydd Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae deddfwriaeth ychwanegol yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Cefnogi'r Ddeddf Cydraddoldeb, Deddf Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Pan fo data categori arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithlon fydd:
Mae prosesu Erthygl 9 (2) (g) UKGDPR yn angenrheidiol am resymau o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol.
Yr amod prosesu budd cyhoeddus sylweddol fydd:
Drwy greu Panel y Bobl, rydym yn ymgysylltu â grŵp o drigolion yng Ngheredigion sydd â diddordeb mewn cyfrannu at y broses ddemocrataidd. Mae dyletswydd arnom i geisio barn trigolion wrth weithredu newidiadau polisi – mae hyn yn ehangiad o'n gwaith presennol i wella'r ffordd rydym yn Ymgysylltu ac yn Ymgynghori.
Y deddfiadau neu'r rheolau cyfraith y dibynnir arnynt yw:
Yr amodau prosesu budd y cyhoedd y dibynnir arnynt yw 6 (dibenion statudol a llywodraethol) ac 8 (cyfle cyfartal neu driniaeth).
Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu darparu'r gwasanaeth sydd ei angen arnoch.
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
• Oed
• Rhywedd
• Ethnigrwydd
• Cyfeiriadedd Rhywiol
• Statws Anabledd
• Crefydd neu gred
I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych ond hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:
Amh
Gellir cael y mathau canlynol o ddata personol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Dynodwyr Personol Sylfaenol
Manylion cyswllt, boed yn e-bost neu ffôn.
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r derbynwyr canlynol yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Yn fewnol:
Dim ond y tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant fydd yn cael mynediad at eich data personol.
Yn allanol:
Dim
Mae yna hefyd sefyllfaoedd penodol eraill lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
• Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith:
• Lle bo angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
• Lle mae datgelu er diddordebau hanfodol y person dan sylw