
Tymhorau a Gwyliau Ysgol
Mae'r flwyddyn ysgol yn rhedeg o 1af Medi y flwyddyn gyfredol i 31ain Awst y flwyddyn ddilynol ac mae'n cynnwys tri thymor. Mae dyddiad dechrau a diwedd y tymhorau ysgol yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond, yn fras, dyma nhw:
- Tymor yr Hydref – Medi i Ragfyr
- Tymor y Gwanwyn – Ionawr i Fawrth / Ebrill (yn dibynnu ar ddyddiad y Pasg)
- Tymor yr Haf – Ebrill i Orffennaf
Noder fod y calendr hwn yn amodol ar unrhyw newidiadau all ddeillio o benderfyniadau polisi'r llywodraeth. Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golledion a ddaw yn sgil y math yma o newid i'r trefniadau gwyliau.
Dyddiadau Gwyliau Ysgol 2025/26
Tymor | Dechrau | Diwedd | |
---|---|---|---|
Hydref 2025 | Dydd Mercher 3 Medi 2025 | Hanner Tymor Dydd Llun 27 Hydref 2025 - Dydd Gwener 31 Hydref 2025 |
Dydd Gwener 19 Rhagfyr 2025 |
Gwanwyn 2026 | Dydd Llun 5 Ionawr 2026 | Hanner Tymor Dydd Llun 16 Chwefror 2026 - Dydd Gwener 20 Chwefror 2026 |
Dydd Gwener 27 Mawrth 2026 |
Haf 2026 | Dydd Llun 13 Ebrill 2026 | Hanner Tymor Dydd Llun 25 Mai 2026 - Dydd Gwener 29 Mai 2026 |
Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2026 |