Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion Ceredigion
Cwnsela/Therapi Chwarae mewn Ysgolion ac yn y Gymuned yng Ngheredigion
Mae’r Gwasanaeth Cwnsela a Therapi Chwarae mewn Ysgolion yn darparu cwnsela a therapi chwarae i blant a phobl ifanc yng Ngheredigion. Mae’r gwasanaeth yn cynnig gofod therapiwtig cyfrinachol lle gall plant archwilio eu meddyliau, eu teimladau a’u profiadau gyda therapydd cymwys.
Drwy weithio ochr yn ochr ag ysgolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill, caiff atgyfeiriadau eu hasesu er mwyn sicrhau bod yr ymyrraeth therapiwtig fwyaf priodol yn cael ei chynnig, a hynny ar sail oedran y plentyn, ei ddatblygiad emosiynol, a’r anghenion a ymgyflwynir. Nod y gwasanaeth yw cefnogi llesiant emosiynol a helpu plant a phobl ifanc i ddeall a rheoli’r heriau maen nhw’n eu profi.
Mae ein Gwasanaeth Cwnsela a Therapi Chwarae mewn Ysgolion Cynradd yn darparu gofod diogel, croesawgar a chyfrinachol lle gall plant dreulio amser gyda therapydd cymwys.
Mae pob plentyn yn wahanol felly caiff y sesiynau eu teilwra i’w anghenion unigol. Gellir cefnogi plant sydd ag amrywiaeth o brofiadau a materion megis becso, gorbryder, cyfeillgarwch, newidiadau yn y teulu, colled, rheoli emosiynau a heriau eraill a allai effeithio ar eu lles.
Caiff pob atgyfeiriad ei asesu er mwyn helpu i bennu’r math mwyaf priodol o gymorth therapiwtig i’r plentyn.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig:
- Therapi Chwarae - hyd at 12 sesiwn wythnosol yn yr ysgol i blant Blynyddoedd 1-3
- Cwnsela mewn ysgolion - hyd at chwe sesiwn wythnosol yn yr ysgol i blant Blynyddoedd 4-6
Er mai’r rhain yw ein llwybrau arferol, caiff pob atgyfeiriad ei ystyried yn unigol. Efallai fydd rhai plant ym Mlynyddoedd 4–6 yn cael cynnig therapi chwarae os asesir mai hyn yw’r ymyrraeth fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.
Er mwyn caniatáu digon o amser i ymyrraeth gwnsela gael ei chwblhau cyn diwedd y flwyddyn academaidd, dylid cyflwyno atgyfeiriadau ar gyfer cwnsela erbyn hanner tymor mis Mai. Bydd atgyfeiriadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn dal i gael eu hasesu. Lle bo’n briodol, gellir cyfeirio plant i ffynonellau cymorth eraill neu eu hychwanegu at y rhestr aros ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol.
Os oes angen cymorth pellach ar ôl i’r therapi ddod i ben, gellir ailatgyfeirio plant i’r gwasanaeth chwe wythnos ar ôl eu sesiwn olaf, os yw hynny’n briodol.
Cwnsela a Therapi Chwarae Plant
Gwneud Atgyfeiriad
I wneud atgyfeiriad, mae angen y canlynol arnom:
- Ffurflen gais atgyfeirio wedi’i chwblhau
- Ffurflen gydsynio gan riant neu ofalwr wedi’i llofnodi gan bob unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant
- Holiadur Cryfderau ac Anawsterau wedi’i gwblhau gan ysgol y plentyn
I drefnu atgyfeiriad, siaradwch ag ysgol eich plentyn. Gallant drafod eich pryderon, esbonio’r broses atgyfeirio a helpu i gyflwyno atgyfeiriad.
Os hoffech drafod atgyfeiriad gyda’r gwasanaeth, e-bostiwch cwnsela@ceredigion.gov.uk.

Mae cwnsela mewn ysgol yn cynnig gofod diogel, cyfrinachol a chefnogol lle gallwch siarad â chwnselydd cymwys am beth bynnag sydd ar eich meddwl.
Nid oes angen i chi fod mewn argyfwng i gael mynediad at gwnsela. Mae disgyblion yn gallu gofyn am gymorth am lawer o resymau gwahanol, gan gynnwys gorbryder, bod yn ddi-hwyl, straen, cyfeillgarwch, newidiadau yn y teulu, profedigaeth, hunan-barch, perthnasoedd, pwysau ysgol, neu am eu bod eisiau siarad â rhywun yn annibynnol.
Chi sy’n arwain y cwnsela. Bydd eich cwnselydd yn gwrando heb farnu ac yn gweithio gyda chi i ystyried eich meddyliau, eich teimladau a’ch profiadau ar gyflymder sy’n teimlo’n iawn i chi. Ar y cyd gallwch nodi’r hyn yr hoffech ganolbwyntio arno yn ystod eich sesiynau.
Fel arfer, cynigir hyd at chwe sesiwn gwnsela wythnosol yn yr ysgol i ddisgyblion. Os oes angen cymorth pellach, bydd eich cwnselydd yn trafod gyda chi yr opsiynau sydd ar gael.
Cyfrinachedd
Mae’r cwnsela yn gyfrinachol, sy’n golygu y bydd yr hyn rydych yn siarad amdano fel arfer yn aros rhyngoch chi a’ch cwnselydd. Serch hynny, os bydd eich cwnselydd yn poeni eich bod chi neu rywun arall mewn perygl o niwed difrifol, mae ganddo/ganddi ddyletswydd i rannu’r wybodaeth hon â’r bobl briodol er mwyn helpu i gadw pawb yn ddiogel. Bydd eich cwnselydd yn esbonio sut mae cyfrinachedd yn gweithio pan fyddwch yn cyfarfod am y tro cyntaf.
Pwy sy’n gallu atgyfeirio?
Gallwch hunan-gyfeirio i’r gwasanaeth, neu gall atgyfeiriad gael ei wneud gan:
- Eich ysgol
- Rhiant neu ofalwr
- Gweithiwr proffesiynol arall sy’n gweithio gyda chi
Caiff pob atgyfeiriad ei adolygu i sicrhau mai cwnsela yn yr ysgol yw’r cymorth mwyaf priodol. Os byddai gwasanaeth arall yn diwallu eich anghenion yn well, byddwn yn esbonio’r opsiynau sydd ar gael.
Sut i gael mynediad i’r gwasanaeth
Os hoffech siarad â chwnselydd, gallwch:
- Lenwi ffurflen hunanatgyfeirio sydd ar gael yn eich ysgol
- Sganio’r côd QR cwnsela mewn ysgol, lle bo ar gael

- Siarad ag aelod o staff yr ysgol, a fydd yn gallu eich helpu i gael mynediad i’r gwasanaeth
- Gall rhieni hefyd atgyfeirio drwy gwblhau’r ffurflen gais am gwnsela a therapi chwarae
Nid yw pob plentyn neu berson ifanc yn gallu cael mynediad i gwnsela yn yr ysgol. Mae ein Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol ar gael i bobl ifanc 11–18 oed yng Ngheredigion sydd ddim yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd, gan gynnwys y rhai sy’n derbyn Addysg Ddewisol yn y Cartref neu sy’n cael addysg mewn lleoliad arall.
