Addysg Feithrin ar gyfer plant 3-4 oed (Cwricwlwm i Gymru)
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rheoli cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg gynnar ran-amser (a elwir yn aml yn addysg feithrin) ar gyfer plant 3-4 oed.
Gellir cynnig lleoedd mewn dosbarthiadau meithrin sydd ynghlwm ag ysgolion cynradd (mae’r oriau’n amrywio yn ôl sesiwn yr ysgol) neu mewn lleoliadau nas cynhelir sy’n cael eu hariannu ac sydd wedi’u cofrestru gyda’r awdurdod lleol, megis Cylchoedd Meithrin, grwpiau chwarae a meithrinfeydd dydd.
Darperir y cyllid ar ffurf dwy awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos (gall rhai cynnig sesiynau 2½ awr dros 4 diwrnod). Ariennir plant am dri thymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed. Mae addysg llawn amser ar gael mewn ysgolion i bob plentyn yn y tymor sy’n dilyn eu pedwerydd pen-blwydd.
Mae Addysg Feithrin ar gael mewn 17 o ysgolion yng Ngheredigion ar hyn o bryd (gall y niferoedd newid wrth i ddarpariaeth gael ei diweddaru).
- Ewch i'r dudalen Derbyniadau Ysgol i ddod o hyd i'ch ysgol leol
- Rhestr o ysgolion: Addysg Gynradd
I ddod o hyd i'ch darparwr/lleoliad addysg feithrin lleol (Cylch Meithrin/Grwpiau Chwarae) ewch i'n tudalen Gofal Plant yng Ngheredigion.
Mae addysg feithrin yn addysg a ariennir sy’n cael ei chynnig i bob plentyn o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd, hyd at 10 awr yr wythnos yn ystod tymor ysgol. Mae’n rhaid hawlio’r 10 awr hyn mewn un ysgol neu leoliad ar y tro (nid oes modd eu rhannu rhwng darparwyr gwahanol).
I rieni cymwys sy’n gweithio, caiff yr oriau addysg feithrin hyn eu defnyddio fel rhan o Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru (hyd at 30 awr yr wythnos yn ystod y tymor).
Addysg feithrin yw’r dysgu cynnar mae eich plentyn yn ei dderbyn rhwng 3 a 4 oed. Mae’n cefnogi datblygiad holistig plant ac yn eu helpu i ymgartrefu mewn profiadau dysgu sy’n unol â’r Cwricwlwm i Gymru.
Pryd gall fy mhlentyn ddechrau addysg feithrin?
Gall eich plentyn ddechrau ei addysg feithrin ran-amser o’r tymor ar ôl ei drydydd pen-blwydd (tymor ysgol yn unig).
| Pen-blwydd eich plentyn | Pryd all fy mhlentyn ddechrau Addysg Feithrin |
|---|---|
| 1 Medi i 31 Rhagfyr | Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr |
| 1 Ionawr i 31 Mawrth | Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill |
| 1 Ebrill i 31 Awst | Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Medi |
Beth yw manteision Addysg Feithrin ar gyfer fy mhlentyn?
Mae mynychu Dosbarth meithrin neu leoliad am y 10 awr hyn yn gallu rhoi dechrau cadarn i’ch plentyn. Mae plant yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol ag eraill o’u hoedran ac ag oedolion, ac yn dysgu drwy chwarae o ansawdd uchel, tu mewn ac yn yr ardal allanol. Bydd staff cymwys yn arsylwi ar ddiddordebau’r plant ac yn eu defnyddio i gynllunio profiadau chwarae ymarferol sy’n hwyl ac yn datblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
Dysgu trwy chwarae
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi chwarae wrth wraidd dysgu cynnar. Trwy chwarae, mae plant yn datblygu sgiliau iaith, cyfathrebu a chymdeithasol. Maent yn archwilio, yn defnyddio eu dychymyg, yn cymryd risgiau priodol ac yn dysgu o’u camgymeriadau mewn amgylchedd cefnogol, gan eu helpu i wneud synnwyr o’r byd a datblygu hyder yn eu syniadau eu hunain.
Mae plant yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd drwy chwarae, megis chwarae rôl, adeiladu, gweithgareddau creadigol, archwilio a chwarae dychmygol. Mae’r profiadau hyn yn cefnogi ystod eang o ddatblygiad ac yn helpu i osod sylfeini cadarn ar gyfer dysgu yn y dyfodol.
Canllawiau
Addysg feithrin i blant 3 a 4 oed: Canllaw i rieni a gofalwyr
Mewn lleoliadau nas cynhelir a ariennir, mae plant yn dilyn y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, sy’n ffurfio rhan o’r Cwricwlwm i Gymru. Gall rhai dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion hefyd ddefnyddio’r cwricwlwm hwn (mae hyn yn benderfyniad i’r ysgol). Mae’r cwricwlwm ar gyfer plant 3-4 oed ac mae’n cefnogi datblygiad holistig trwy chwarae o ansawdd uchel, lles ac addysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gan helpu plant i fod yn chwilfrydig, yn hyderus ac yn barod ar gyfer y cam nesaf yn eu taith ddysgu.
Cefnogir dysgu a datblygiad drwy bum llwybr datblygu sy’n canolbwyntio ar y plentyn cyfan:
- Perthyn
- Cyfathrebu
- Archwilio
- Lles
- Datblygiad corfforol
Mae’r llwybrau hyn yn helpu staff i gynllunio profiadau sy’n cyd-fynd â datblygiad unigol eich plentyn ac nid dim ond â’i oedran yn unig.
Mae’r cwricwlwm hefyd wedi’i lunio gan bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Mae addysg feithrin yn helpu plant i ddechrau datblygu fel:
- Dysgwyr uchelgeisiol a galluog
- Cyfranwyr mentrus a chreadigol
- Dinasyddion moesegol a gwybodus
- Unigolion iach a hyderus
Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen Cwricwlwm Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir.
Mae lleoliadau blynyddoedd cynnar ar draws y sir wedi ymrwymo i ddarparu gofal plant ac addysg feithrin gynhwysol, gan sicrhau bod pob plentyn yn gallu cymryd rhan mewn chwarae, dysgu a phrofiadau cymdeithasol o fewn eu cymuned leol.
Mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cymru yn berthnasol i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed, gan gynnwys y rhai yn y blynyddoedd cynnar. Mae’r Cod yn esbonio bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd sy’n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDY).
Ar gyfer plant o dan oedran ysgol gorfodol, mae’r Cod yn nodi y caiff plentyn ei ystyried fel un ag ADY os oes ganddo, neu os yw’n debygol o gael, anhawster dysgu neu anabledd a fydd angen cymorth ychwanegol pan fydd yn cyrraedd oedran ysgol.
Nod y system ADY yw sicrhau bod plant ag anghenion ychwanegol yn cael eu hadnabod yn gynnar ac yn cael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau i ddysgu fel y gallant gyflawni eu potensial llawn.
Cefnogaeth ADY Blynyddoedd Cynnar
O dan y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol benodi Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r rôl hon yn helpu i gydlynu cefnogaeth ar gyfer plant o dan oed ysgol gorfodol sydd efallai ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i’w cefnogi hwy a’u teuluoedd.
Mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda darparwyr gofal plant, gweithwyr iechyd proffesiynol a theuluoedd i nodi anghenion yn gynnar a darparu’r gefnogaeth briodol.
Cynllun Atgyfeirio a Chynhwysiant Mudiad Meithrin
Yn y sir, mae Cynllun Atgyfeirio Mudiad Meithrin yn cefnogi plant ag anghenion ychwanegol sy’n dod i’r amlwg neu sydd eisoes wedi’u hadnabod ac sy’n mynychu lleoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg (Cylchoedd Meithrin).
Mae’r cynllun yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr blynyddoedd cynnar, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi cyfranogiad plant mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Gall y gefnogaeth gynnwys:
- cyngor ac arweiniad i ymarferwyr blynyddoedd cynnar
- cydweithio â gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau cymorth perthnasol
- mynediad at adnoddau neu offer arbenigol
- cymorth i sicrhau staff ychwanegol os oes angen
Mae’r gefnogaeth hon yn helpu i sicrhau bod gan bob plentyn y cyfle i gael mynediad at ddarpariaeth gynhwysol cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar o fewn eu cymuned leol.
Mae rhagor o wybodaeth am Mudiad Meithrin a chynhwysiant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ar gael yn y ddogfen hon.