Gwaith Stryd Ceredigion
Mae'r Adain Gwaith Stryd yn gyfrifol am gyd-gysylltu a monitro'r holl weithgareddau a gyflawnir ar y briffordd gyhoeddus ynghyd ag ystod eang o wybodaeth am bob agwedd ar waith ffyrdd a gyflawnir gan "ymgymerwyr" neu eu contractwyr.
Mae'r gweithfeydd hyn yn amodol i ddarpariaethau Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, Deddf Rheoli Traffig 2004 a Deddf Priffyrdd 1980, lle mae'n ofynnol i gwmni cyfleustodau roi gwybod i Gyngor Sir Ceredigion am unrhyw waith stryd y mae'n ei gyflawni ar y briffordd gyhoeddus.
Ynghyd â chyd-gysylltu gwaith ar y briffordd gyhoeddus, mae Adain Gwaith Stryd Ceredigion hefyd yn gyfrifol am y canlynol:
Ceisiadau i Ffilmio
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu gwneuthurwyr ffilmiau i Geredigion ac yn ystyried Ceredigion i fod yn ffilmio-gyfeillgar.
Mae gan Geredigion amryw byd o leoliadau unigryw o ardaloedd gwledig eang fel ei thiroedd fferm i leoliadau glan y môr a safleoedd diwydiannol diffaith. Mae gennym hefyd amrywiaeth eang o adeiladau hanesyddol hardd yn ogystal â bythynnod a phentrefi. Rydym yn hapus i ddarparu ar gyfer eich anghenion lle gallwn a byddwn bob amser yn ceisio helpu gyda'ch anghenion ffilmio.
Os am ffilmio ar y briffordd/strydoedd yng Ngheredigion, gofynnwn ichi lenwi ffurflen gais - gan rhoi o leia 7 diwrnod o rybudd a'i dychwelyd i'r Adain Gwaith Stryd gan gynnwys copi o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Nid oes Ffi.
Adran 184 (Mynediad i Gerbydau/chyrbau gostwng)
Bydd creu neu newid mynediad i gerbydau ar Ffyrdd Dosbarth (h.y. Cefnffyrdd, Ffyrdd Dosbarth A, B ac C) yn golygu y bydd angen gofyn am ganiatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol yn gyntaf. Bydd gwaith ar Ffyrdd Diddosbarth, er efallai na fydd angen caniatâd cynllunio, yn destun amodau a osodir gan yr awdurdod priffyrdd.
Os am greu neu ehangu mynediad newydd i gerbydau o flaen eich cartref neu fusnes, dylech lenwi'r ffurflen gais a'i dychwelyd atom ynghyd â chopi o gymwysterau eich contractwr cymwysedig ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus o ddim llai na 6m. Mae angen rhoi rhybudd o 28 diwrnod o leiaf i brosesu'r cais. Ffi:- £320.00. Dirwy ôl-weithredol/anawdurdodedig heb ganiatâd/trwydded £255.00 (tan 31/03/2025).
Os yw’r cais cynllunio yn llwyddiannus a chyn dechrau ar unrhyw waith, bydd angen arnoch, yn ogystal, ganiatâd yr Awdurdod Priffyrdd. Os yw’r gwaith wedi dechrau yn barod, fe’ch cynghorir i gwblhau a dychwelyd y ffurflen gais.
Mae mynedfeydd newydd i gerbydau ynghyd â’r rhai sydd wedi eu newid dros y troedffyrdd a thros y glaswellt sydd ar ymyl y ffordd yn amodol ar Adran 184 (3), (4), (9), (10) ac (11) Deddf y Priffyrdd 1980, sy’n cyfeirio at y dull priodol o adeiladu croesfannau i gerbydau dros y troedffyrdd a’r glaswellt. Yn ôl yr Adran hon bydd rhaid i ddyluniad y croesfannau, gan gynnwys unrhyw waith angenrheidiol i ddraenio’r dŵr arwyneb, fod wrth fodd y Cyngor Sir fel yr awdurdod priffyrdd lleol, ac mae’n ofynnol eich bod yn hysbysu’r Arolygydd Gwaith Stryd priodol cyn gwneud unrhyw waith.
Adran 50
Mae angen trwydded gwaith stryd ar unrhyw berson neu sefydliad (ac eithrio unrhyw un sy'n gweithredu o dan hawl statudol) sydd am osod, cadw ac yna archwilio, cynnal a chadw, addasu, atgyweirio, newid neu adnewyddu cyfarpar, neu newid ei leoliad neu ei symud oddi ar y briffordd.
Os hoffech wneud cais am drwydded gwaith stryd, dylech lenwi'r ffurflen briodol sydd ynghlwm a'i phostio'n ôl atom ynghyd â chopi o gymwysterau eich contractwr cymwysedig ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus o ddim llai na 6m. Mae angen rhoi rhybudd o 28 diwrnod o leiaf i brosesu'r cais. Mae ffioedd yn amrywio - cysylltwch â hpw.streetworks@ceredigion.gov.uk am restr o ffioedd. Dirwy ôl-weithredol/anawdurdodedig heb ganiatâd/trwydded £255.00 (tan 31/03/2025).
Sgipiau
Wrth gyflawni unrhyw waith adeiladu / cynnal a chadw neu i dynnu unrhyw ran o eiddo, mae'n bosibl y bydd angen llogi sgip Adeiladwr i symud y rwbel o'r safle.
Os oes gennych le, rhaid ichi leoli'r sgip o fewn cwrtil eich eiddo. Os nad oes gennych le, rhaid i'r cwmni sgipiau wneud cais am drwydded i leoli'r sgip ar y ffordd. Mae hyn yn un o ofynion Deddf Priffyrdd 1980. Mae gan yr awdurdod lleol, Cyngor Sir Ceredigion, hawl i osod amodau o ran lleoliad sgipiau ar y briffordd ac am ba hyd y medrant aros yno.
Cyn y rhoddir trwydded, bydd arolygydd yn cytuno ar leoliad arfaethedig ar gyfer y sgip. Rhaid iddi fod mewn lleoliad diogel a gall fod oddi mewn neu'r tu allan i gwrtil yr eiddo. Bydd yr arolygydd yn ystyried diogelwch y cyhoedd a sut y bydd efallai'n tarfu ar y cyhoedd wrth iddynt fynd heibio cyn cytuno ar leoliad y sgip a chyn rhoi'r drwydded.
Mae rhoi sgip ar y briffordd heb yn gyntaf fod wedi gwneud cais am a chael trwydded, yn drosedd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a gall arwain at erlyn. Perchennog (cyflenwr) y sgip sy'n gyfrifol am sicrhau bod sgipiau'n cael eu lleoli ar y briffordd fel nad ydynt yn rhwystro defnyddwyr eraill y ffordd. Nid cyfrifoldeb deiliad y tŷ na'r adeiladwr (y contractwr) yw cael trwydded, cyfrifoldeb y cwmni sgipiau ydyw a rhaid i'r cwmni sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â'r holl reoliadau ac amodau.
- Gall trwydded fod yn ddilys am uchafswm o 28 diwrnod er os oes angen sgip am lai na hynny, dylai'r cais nodi hynny. Ar gyfer cyfnodau hirach, dylid gwneud ceisiadau pellach.
- Dim ond un sgip fydd yn cael ei chaniatáu ar y briffordd ar y tro oni bai fod yr amgylchiadau yn rhai eithriadol.
- Mae angen rhoi rhybudd o 10 diwrnod o leiaf i brosesu'r cais.
- Darparwch gopi o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus o ddim llai na 6m.
- Ffi:- £92.00. Dirwy ôl-weithredol/anawdurdodedig am osod sgip heb ganiatâd/trwydded £150 (tan 31/03/2025).
Sgaffaldiau / Balisiau / Ffens
Wrth gyflawni unrhyw waith adeiladu / cynnal a chadw neu i dynnu rhan o eiddo sydd gerllaw'r briffordd gyhoeddus (ffordd, palmant neu ffordd gefn), mae diogelwch holl ddefnyddwyr y briffordd yn flaenoriaeth.
Gwneir hyn drwy ddarparu mannau diogel ar lefel y ddaear neu blatfform ar lefel uwch. Pan fo angen gosod ffens balis ar y briffordd o gwmpas safle'r gwaith, neu godi sgaffaldiau, rhaid ichi gael caniatâd gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae gosod ffens balis gerllaw'r briffordd, neu godi sgaffaldiau ar y briffordd, heb yn gyntaf fod wedi gwneud cais am a chael trwydded, yn drosedd o dan y Ddeddf Briffyrdd a gall arwain at erlyn. Unwaith y rhoddir caniatâd, rhaid darllen yr amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded yn ofalus a chadw atynt bob amser. Dyma ofynion sylfaenol yr amodau hyn:
- Dim ond contractwyr cymwys a phriodol sydd â'r hawl i godi sgaffaldiau a ffensys palis ar y briffordd gyhoeddus.
- Gall trwydded fod yn ddilys am uchafswm o 4 wythnos, ond os oes angen sgaffaldiau ond am 10 diwrnod, dylai'r cais nodi hynny. Dylid gwneud ceisiadau pellach ar gyfer cyfnodau hirach.
- Mae angen rhoi rhybudd o 10 diwrnod o leiaf i brosesu'r cais.
- Darparwch gopi o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus o ddim llai na 6m.
- Ffi:- Sgaffaldiau £180.00. Dirwy ôl-weithredol/anawdurdodedig heb ganiatâd/trwydded £255.00 (tan 31/03/2025).
- Ffi:- Balisiau & Fens £175.00. Dirwy ôl-weithredol/anawdurdodedig heb ganiatâd/trwydded £260.00 (tan 31/03/2025).
Does dim hawl ymgymryd ag unrhyw waith hyd nes i chi gael cymeradwyaeth.
Ffyrdd Sirol
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gwrthod unrhyw gais i fasnachu oddi ar y briffordd ar Ffyrdd Sirol.
O dan Ddeddf Priffyrdd 1980, mae gan Gyngor Sir Ceredigion fel Awdurdod Priffyrdd ddyletswydd statudol i leihau unrhyw niwsans a mynd i'r afael ag unrhyw rwystr anghyfreithlon sy'n ymyrryd â rhwydd hynt a mwynhad y briffordd.
Mae Deddf Priffyrdd 1980, Rhan VIIA, Adrannau 115A fel sy'n gynwysedig yn Neddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, yn caniatáu cynghorau i ystyried darparu a thrwyddedu amwynderau ar y briffordd. Nid yw Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu darpariaethau masnachu stryd Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) felly mae'n dibynnu'n bennaf ar Ddeddf Priffyrdd 1980 er mwyn sicrhau rhwydd hynt diogel i'r cyhoedd ar ei rwydwaith priffyrdd.
Mae nifer o resymau paham y mae Cyngor Sir Ceredigion fel yr Awdurdod Priffyrdd yn dewis gwrthod cais i fasnachu ar y briffordd gan gynnwys effaith neu ganlyniad gweithgaredd o'r fath ar fusnes lleol arall.
Cefnffyrdd
Dylech gyflwyno cais yn ysgrifenedig i Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC).
traffig.cymru/asiant-cefnffyrdd-gogledd-chanolbarth-cymru
Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru,
Uned 5,
Llys Britannia,
Parc Menai,
Bangor,
LL57 4BN