Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion
Ydych chi'n ddi-waith?
Oes angen cymorth arnoch chi i gael swydd?
Mae ein Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yn darparu gwasanaeth mentora mewn lleoliadau ar draws Ceredigion i unrhyw un dros 16 oed sy'n chwilio am waith.
Cynigiwn gymorth cyflogaeth a hunangyflogaeth trwy leihau rhwystrau.
- Mentora un-i-un sy'n cynnwys creu llwybr cyflogadwyedd, ysgrifennu CV, cymorth gyda gwneud cais, cymorth gyda chyfweliadau
- Darparu cymorth ymarferol i feithrin cymhwysedd a hyder
- Cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau, eu gwerthoedd, eu hymddygiad a'u gwybodaeth er mwyn cael cyflogaeth neu symud yn agosach at gael cyflogaeth
- Cynnig cymwysterau neu ardystiad sy'n berthnasol i waith
- Cefnogi lleoliadau profiad gwaith, cyfleoedd gwirfoddoli a threialon gwaith
Cysylltwch â ni trwy'r ebost yn TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422.
Eich Ymrwymiad
- er mwyn rhoi cymorth i chi bydd angen rhywfaint o dystiolaeth gwaith papur arnom i brofi eich bod yn gymwys. Darparwch y dogfennau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn cael cymorth heb unrhyw oedi
- cysylltwch â'ch mentor a'ch swyddog cyswllt cyflogaeth yn rheolaidd. Maen nhw ar gael dros y ffôn, ebost, WhatsApp, Skype a Zoom, a byddant yn cysylltu â chi'n rheolaidd
- bydd adegau pan fydd yn rhaid i chi gwrdd â staff. Byddwch wedi cytuno ar leoliad, dyddiad ac amser. Bydd yn rhaid i staff deithio i gwrdd â chi felly mae'n hanfodol eich bod yn mynychu ac os oes rhaid i chi ganslo rhaid i chi roi 24 awr o rybudd
- os ydych am gael hyfforddiant, cofiwch y gall cyrsiau fod yn ddrud ac weithiau'n golygu aros oddi cartref dros nos. Bydd angen i chi fynychu a chwblhau eich cwrs. Os na allwch fynychu, rhowch wybod i'n cydlynydd hyfforddiant neu'ch mentor er mwyn i ni allu gwneud trefniadau eraill cyn gynted â phosibl