Llofnodi Siarter Twf i gefnogi’r Gymraeg yn y gweithle
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi llofnodi Siarter Twf TUC Cymru – Siarter y Gymraeg yn y Gweithle, gan ailddatgan ei ymrwymiad i hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ei weithlu.
Cynhaliwyd y seremoni lofnodi mewn digwyddiad ffurfiol a fynychwyd gan gynrychiolwyr y Cyngor a phartneriaid o’r undebau llafur, gan adlewyrchu’r berthynas waith gref sy’n sail i’r ymrwymiad hwn. Mae’r dull cydweithredol hwn yn ganolog i Siarter Twf, sy’n cael ei harwain a’i chefnogi gan TUC Cymru.
Drwy lofnodi’r Siarter, mae’r Cyngor yn adeiladu ar ei waith parhaus i hyrwyddo’r Gymraeg a chefnogi staff ar bob lefel i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn eu rolau o ddydd i ddydd.
Mae Siarter Twf yn darparu fframwaith ymarferol i helpu cyflogwyr, staff ac undebau llafur i gydweithio er mwyn creu amgylcheddau gwaith cadarnhaol lle mae’r Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd gwaith.
Drwy’r Siarter, mae’r Cyngor a’i undebau llafur yn ymrwymo i:
- Gefnogi staff sy’n siarad Cymraeg, sy’n dysgu Cymraeg, neu sy’n dymuno dechrau defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
- Cydnabod y Gymraeg fel sgil werthfawr ac yn rhan annatod o fywyd gwaith bob dydd
- Annog diwylliant gweithle lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio a’i chlywed fel rhan o weithgarwch dyddiol
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:
“Rydym yn falch iawn o lofnodi Siarter Twf ac o gadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi’r Gymraeg fel rhan naturiol o fywyd gwaith yng Nghyngor Sir Ceredigion. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, boed staff yn siaradwyr rhugl, yn ddysgwyr, neu’n awyddus i ddechrau defnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith. Drwy weithio mewn partneriaeth â’n hundebau llafur a TUC Cymru, gallwn barhau i greu gweithle cynhwysol lle mae staff yn cael eu hannog a’u cefnogi i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg.”
Dywedodd y Cynghorydd Catrin MS Davies, Aelod Cabinet dros Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid:
“Rwy’n falch iawn bod y Cyngor a’r Undebau Llafur wedi cytuno i gyd-lofnodi’r Siarter hwn gan y mae pob cam tuag at greu diwylliant gwaith lle bydd mwy o Gymraeg i’w chlywed yn gam hynod o bwysig. Mae’r gweithle yn fan neilltuol ar gyfer creu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ac i gynnig cyfleoedd i ymarfer yr iath yn anffurfiol ac yn ffurfiol. Bydd llofnodi’r Siarter yn brawf o’r ewyllys da sydd tuag at y Gymraeg o fewn y gweithlu yn gyffredinol.”
Dywedodd Mandy James, Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog TUC Cymru:
“Llongyfarchiadau gwresog i Gyngor Sir Ceredigion, Unison Ceredigion, GMB ac Unite am yr ymrwymiad a wnaed heddiw i ‘Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith TUC Cymru’ a’i egwyddorion. Mae’r gefnogaeth gadarn i’r Gymraeg yn y Cyngor a gan yr undebau llafur yn cydnabod eu bod yn cydweithio i adnabod, trefnu a sicrhau cyfleoedd cynyddol i weithwyr ddefnyddio, dysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith – yn ffurfiol ac anffurfiol. Mae hyn yn eu galluogi i weithio yn y Gymraeg o ddydd i ddydd ac yn normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith.
Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg a’n diwylliant Cymreig yn ein bywydau dyddiol - gydag Aberystwyth Ceredigion hefyd yn ymuno â rhwydwaith byd-eang o Ddinasoedd Creadigol byd eang, ac yn cael y fraint o fod yn Ddinas Llên UNESCO gyntaf Cymru.
Mae’r Gymraeg, a thwf yn ei defnydd, yn greiddiol i weithwyr, gweithleoedd a chymunedau Ceredigion – ac mae Siarter Twf TUC Cymru yn pwysleisio mewn undod mae nerth.”
Dywedodd Denise Owen, Cynrychiolydd Undeb Llafur UNISON ar gyfer Ceredigion:
“Mae UNISON Ceredigion yn falch o gefnogi mabwysiadu Siarter Twf. Rydym yn gwybod bod hyn yn bwysig i’n haelodau, sy’n gwerthfawrogi defnyddio a datblygu eu Cymraeg yn y gwaith. Mae’r ymrwymiad hwn yn adlewyrchu ein nod ar y cyd o greu gweithle cynhwysol a chefnogol lle mae staff yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg ac yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau.”
Dywedodd Arron Bevan-John, Trefnydd Rhanbarthol GMB ar gyfer Ceredigion:
“Mae Undeb GMB Ceredigion yn falch o gefnogi mabwysiadu Siarter Twf. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw’r fenter hon i’n haelodau yng Ngheredigion ac ar draws Cymru. Mae GMB wedi ymrwymo i gefnogi aelodau i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach yn y gweithle.”
Dywedodd Zoe Codd, Swyddog Rhanbarthol Unite ar gyfer Ceredigion:
“Mae Uno’r Undeb yng Ngheredigion yn croesawu mabwysiadu Siarter Twf ac yn falch o gefnogi’r ymrwymiad pwysig hwn i gryfhau’r Gymraeg yn y gweithle. Trwy Siarter Twf, edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a chefnogi cyfleoedd i staff ddysgu a defnyddio’r iaith.”
Mae TUC Cymru wedi cefnogi’r Cyngor a’i undebau llafur drwy gydol y broses, gan ddarparu arweiniad ac arbenigedd i sicrhau bod y Siarter yn cael ei gweithredu mewn ffordd ystyrlon a chynaliadwy.
14/07/2026