Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn lansio gwefan newydd wedi’i chyd-ddylunio gyda phobl ifanc
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi lansio gwefan newydd sbon sydd wedi’i dylunio gyda ac ar gyfer pobl ifanc, gan ei gwneud yn haws nag erioed i ddod o hyd i gymorth, cyfleoedd a gwybodaeth ledled y sir.
Mae’r llwyfan newydd, ar gyfer pobl ifanc 11–25 oed, wedi’i gyd-ddylunio drwy sesiynau mewn clybiau ieuenctid, gweithdai a thrafodaethau gyda Chyngor Ieuenctid Ceredigion. Bu pobl ifanc yn ganolog i’r broses o lunio dyluniad, cynnwys a strwythur y wefan.Mae’r wefan yn cynnwys:
- Adran “Dod o hyd i’ch clwb ieuenctid” gyda manylion sesiynau lleol ar draws Ceredigion
- Tudalen Cwrdd â’r Tîm i helpu pobl ifanc gysylltu â gweithwyr ieuenctid
- Canolfan Newyddion a Digwyddiadau i dynnu sylw at gyfleoedd, gweithgareddau a rhaglenni
- Gwybodaeth am wasanaethau cymorth, llesiant a ffyrdd o gymryd rhan mewn llais ieuenctid
- Mynediad hawdd at brosiectau, gwaith allgymorth a darpariaeth ddigidol
Dywedodd person ifanc a fu’n rhan o’r gwaith dylunio: “Dw i’n hoffi’r lliwiau a’r lluniau – mae’n edrych yn fywiog ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Mae’n gwneud i ti eisiau edrych o gwmpas a gweld beth sydd ar gael.”
Ychwanegodd Nathan, Swyddog o’r Gwasanaeth Ieuenctid: “Mae’r wefan yma yn gam mawr ymlaen o ran sut rydyn ni’n cysylltu â phobl ifanc yng Ngheredigion. Mae wedi cael ei siapio gan eu syniadau nhw ar bob cam, gan sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol iddyn nhw.”
Ychwanegodd Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Gydol Oes a Llesiant: “Mae’n wych gweld pobl ifanc wrth galon y prosiect hwn. Mae’r wefan newydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando ar bobl ifanc a gweithio gyda nhw i lunio gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion. Bydd yn arf pwysig i helpu pobl ifanc ddod o hyd i gyfleoedd, cael mynediad at gymorth a theimlo’n gysylltiedig â’u cymunedau.”
Mae wefan y Gwasanaeth Ieuenctid yn cefnogi egwyddorion canllawiau statudol Llywodraeth Cymru Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Cyflawni dros Bobl Ifanc, gan hyrwyddo gwasanaethau hygyrch, cynhwysol ac wedi’u harwain gan bobl ifanc.
Mae’r lansiad hwn yn rhan o raglen ehangach i gryfhau gwaith ieuenctid digidol yng Ngheredigion, gan sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cael mynediad i wybodaeth, cymorth a chyfleoedd, ble bynnag maen nhw.
19/06/2026