Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cyhoeddi canlyniadau TGAU a BTEC

Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i fyfyrwyr ledled Ceredigion wrth iddynt dderbyn canlyniadau eu harholiadau TGAU a’u Cyrsiau Galwedigaethol.

Mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn cyrraedd safonau uchel.

Mae 97% o’r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC yn yr Haf wedi derbyn graddau A*-G; 66% wedi ennill graddau A*-C a 22% wedi ennill graddau A*-A.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau i’r holl ddysgwyr ar eu cyflawniadau a’r ymrwymiad y maent wedi’u ddangos drwy gydol y flwyddyn. Mae ymroddiad ein hathrawon, staff ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth helpu pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial. Mae heddiw yn gyfle i gydnabod yr ymdrech ar y cyd sydd wedi cyfrannu at y cyflawniadau hyn ac i ddathlu llwyddiannau ein dysgwyr wrth iddynt gymryd eu camau nesaf.”

Mae’r tabl canlynol yn nodi’r ffigurau cymharol. Nid yw’r canlyniadau hyn yn cynnwys Bagloriaeth Cymru. Mae ffigurau Cymru yn cynnwys pob bwrdd arholi tra bod ffigurau Ceredigion yn cynnwys CBAC yn unig.

 

Ceredigion

Cymru

Gradd A*-A

22%

19%

Gradd A*-C

66%

62%

Gradd A*-G

97%

97%

 

Ychwanegodd Elen James, Prif Swyddog Addysg Ceredigion: “Mae canlyniadau Ceredigion, unwaith eto eleni yn hynod galonogol ac yn haeddu canmoliaeth fawr. Maent yn dyst clir i ymroddiad, dyfalbarhad a gwaith caled ein pobl ifanc. Llongyfarchiadau gwresog i’r holl ddysgwyr ar eu hymdrechion cydwybodol a’u cyflawniadau.

Mae’n briodol hefyd cydnabod a dathlu ymrwymiad ac ymdrechion yr athrawon a’r staff, ynghyd â chefnogaeth amhrisiadwy rhieni a gwarchodwyr, sydd i gyd wedi cyfrannu at sicrhau’r llwyddiant gorau posibl i bob disgybl.

Yng Ngheredigion, rydym yn awyddus i weld pob un o’n pobl ifanc yn llwyddo, yn datblygu ac yn ffynnu. Dymunwn bob llwyddiant iddynt wrth iddynt gymryd y camau nesaf cyffrous yn eu gyrfa, boed hynny drwy ddychwelyd i’r chweched dosbarth, dilyn cwrs mewn coleg, ymgymryd â phrentisiaeth neu ymuno â byd gwaith.”

Dymuniadau gorau i'r holl ddisgyblion ar gyfer y dyfodol.

20/08/2026