Bu busnesau Aberteifi, Aberystwyth, Llandysul a Thregaron yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni trwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Addurno Ffenestri. Trefnwyd y gystadleuaeth gan Cered: Menter Iaith Ceredigion.
Prif nod Cered oedd creu ychydig o fwrlwm adeg Gŵyl Dewi gan ddod a môr o liw, creadigrwydd a Chymreictod gweledol i ganol trefi Ceredigion.
Roedd y gystadleuaeth yn ffordd effeithiol o ymgysylltu â busnesau yn ein cymunedau i hyrwyddo'r gefnogaeth y gall Cered ei ddarparu i fusnesau fel y llinell gyswllt cyfieithu rhad ac am ddim, Helo Blod.
Dywedodd Steffan Rees, Arweinydd Tîm Cered: “Roedd hi’n galonogol i weld cymaint o fusnesau ar draws y trefi wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni eto ac anodd iawn oedd y dasg o ddewis enillwyr. Mae’n amlwg fod busnesau Ceredigion yn ymfalchïo yn eu Cymreictod ac wedi dehongli’r Gŵyl Dewi mewn ffyrdd creadigol ac amrywiol iawn.”
Cafodd y ffenestri eu beirniadu am eu gwreiddioldeb a’u hadlewyrchiad o ysbryd yr ŵyl ac o ysbryd Cymreictod.
Y busnesau buddugol yw:
- Aberteifi – Yum Yums
- Aberystwyth – Sense
- Llandysul – James Jones Son and Francis
- Tregaron – New Medical Hall
Ewch i dudalen Facebook @Cered: Menter Iaith Ceredigion i weld y ffenestri wedi eu haddurno.
I dderbyn gwasanaeth Helo Blod, ffoniwch 03000 25 88 88 neu ewch i businesswales.gov.wales/heloblod/cy
10/03/2023