Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhybuddio trigolion i fod yn ymwybodol o gwmni gosod mesurau arbed ynni sydd wedi bod yn defnyddio logo'r Cyngor heb ganiatâd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae iEnergy Ltd o Birmingham wedi bod yn defnyddio logo’r Cyngor i hyrwyddo’r ffaith bod cyllid ar ffurf grantiau ar gael ar gyfer mesurau arbed ynni yn y cartref trwy gyfrwng hysbysebion wedi’u noddi ar Facebook. Mae’r ffaith bod iEnergy yn defnyddio’r logo yn awgrymu bod y Cyngor wedi rhoi ei gymeradwyaeth a’i fod yn gweithio mewn partneriaeth â’r cwmni gosod, ond nid yw hyn yn wir.

Nid yw’r Cyngor wedi rhoi caniatâd i iEnergy Ltd ddefnyddio logo Cyngor Sir Ceredigion ac nid yw’n cymeradwyo’r gwasanaethau a ddarperir gan y cwmni. Mae’r Cyngor wedi ysgrifennu at iEnergy Ltd gan fynnu eu bod yn stopio defnyddio logo Cyngor Sir Ceredigion a’r hysbysebion sy’n ymddangos ar Facebook ac ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill.

Y Cynghorydd Matthew Vaux yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd. Dywedodd: “Mae defnydd iEnergy Limited o’n logo yn rhoi’r argraff i drigolion Ceredigion sydd wedi gweld yr hysbyseb hon ar Facebook bod y Cyngor wedi cymeradwyo eu cwmni, sydd ddim yn wir. Nid ydym wedi rhoi caniatâd i’r cwmni ddefnyddio ein logo ac nid ydym yn cymeradwyo’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig. Os bydd y cwmni yn parhau i ddefnyddio ein logo, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol priodol yn eu herbyn.”

Mae’r Cyngor yn cymryd rhan yng nghynllun Flex ECO4 er mwyn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn y sir. Ariennir y cynllun gan gyflenwyr ynni ymrwymedig ac mae’n galluogi gwelliannau ynni yn y cartref. Mae’r Gwasanaeth Tai yn rheoli fframwaith o ddarparwyr ECO4 er mwyn darparu mesurau dan Flex ECO4 ac mae’n cynnal asesiadau o gymhwystra cleientiaid.

Dylai aelwydydd sy’n dymuno gwneud cais am gyllid Flex ECO4 gysylltu ag un o ddarparwyr Flex ECO4 cymeradwy Cyngor Sir Ceredigion a fydd yn hwyluso’r broses ymgeisio. Mae rhestr y darparwyr ar gael ar ein tudalen we: www.ceredigion.gov.uk/resident/housing/financial-assistance/energy-efficiency-schemes/eco-flexibility-funding/. Neu, gallwch ffonio’r Gwasanaeth Tai ar 01545 572105 i ofyn am fersiwn papur o’r rhestr.

Ystyrir bod Flex ECO4 yn sbardun allweddol wrth gynorthwyo’r Cyngor gyda’i nod o leihau tlodi tanwydd, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon gan gartrefi domestig ar yr un pryd, y maent yn eiddo i neu ym meddiannaeth y rhai na allant dalu am welliannau eu hunain.

13/04/2023