Ydych chi’n ofalwr newydd?

Nid yw dod yn ofalwr yn rhywbeth yr ydym yn cynllunio ar ei gyfer. Gall rôl ofalu ddechrau’n sydyn, neu ddigwydd yn raddol dros amser.

Os ydych chi wedi dechrau gofalu am rywun yn ddiweddar, mae’n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun - mae 2 filiwn o bobl yn y DU yn dod yn ofalwyr bob blwyddyn.

Cydnabod eich bod chi’n ofalwr yw’r cam cyntaf i gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi. Dyma ambell i air o gyngor a all helpu i wneud eich rôl newydd ychydig yn haws:

 

Peidiwch â cheisio ymdopi ar eich pen eich hun

Rhowch wybod i’ch teulu a’ch ffrindiau eich bod chi’n gofalu am rywun fel y gallant eich cefnogi chi.

 

Siaradwch â Phorth Gofal (Gwasanaethau Cymdeithasol)

Gall Porth Gofal gynnig Asesiad Gofalwyr i chi a darparu gwybodaeth a gwasanaethau i wneud eich bywyd yn haws.

 

Dywedwch wrth eich meddyg teulu

Cofrestrwch fel gofalwr gyda’ch Meddyg Teulu er mwyn eich cysylltu chi â chymorth a chefnogaeth, cael brechiad rhag y ffliw am ddim a llawer mwy.

 

Ffurflen Gofrestru

 

Siaradwch â’ch cyflogwr

Os ydych yn gyflogedig, siaradwch â’ch cyflogwr i weld a oes unrhyw gymorth neu drefniadau gweithio hyblyg y gallwch gael mynediad atynt.

 

Darganfyddwch fwy am eich hawliau fel gofalwr sy’n gweithio yma

 

Gwiriwch eich hawl am fudd-daliadau

Mae’n bosibl bod gennych hawl i fudd-daliadau fel gofalwr neu efallai nad ydych chi’n siŵr os ydych yn derbyn popeth y mae gennych hawl iddo – gall sefydliadau megis Canolfan Cyngor ar Bopeth helpu gyda hyn.

 

CAB

( 01239 621974 neu 01970 612817

* ask@cabceredigion.org

Neges destun neu Whatsapp: 07782 361974 (Nodwch: mae’r rhif hwn ar gyfer tecstio yn unig – ni fydd galwadau yn cael eu hateb)

www.cabceredigion.org

 

Dewch o hyd i gymorth

Mae yna grwpiau cymorth i ofalwyr lleol sy’n cynnig gwybodaeth, gweithgareddau cymdeithasol a hyfforddiant.

I gael diweddariadau rheolaidd am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal, efallai yr hoffech ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr.

Llenwch ein ffurflen gofrestru heddiw i ddechrau derbyn diweddariadau rheolaidd drwy’r gwasanaeth gwybodaeth i ofalwyr.

 

https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=uYWs-IYvNU2Fwnkevin1iCUhGUTkCS9BoRADznDJdxdUODNBREVGRjMyODJTSEw5UkoxU0lPUk41Ui4u

 

Darganfyddwch fwy am Wasanaeth Cymorth i Ofalwyr Ceredigion ar gyfer gofalwyr o bob oed yma

 

Yn bwysicaf oll

Cofiwch ofalu amdanoch chi’ch hun a cheisiwch ddod o hyd i amser i orffwys.

 

Pecyn Gwybodaeth i Ofalwyr

Lawrlwythwch y Pecyn Gwybodaeth i Ofalwyr a fydd yn eich cefnogi yn eich rôl ofalu.