Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gofal o fewn y Cartref

Ydych chi’n oedolyn a fu’n sâl neu wedi cael damwain ac yn bellach yn ei chael hi’n anodd edrych ar ôl eich hun, yn methu ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd megis gofal personol, paratoi prydau a symud oddi amgylch? Os ydych am aros yn annibynnol yn eich cartref eich hun cyhyd ag sy'n bosibl, mae cymorth ar gael i chi.

Gwasanaeth Galliogi wedi’i Dargedu a Galluogi

Mae'r gwasanaeth Gofal wedi’i Dargedu a Galluogi yn rhad ac am ddim ar y pwynt cyswllt ac mae modd ei ddarparu am leiafswm o ddiwrnod hyd at uchafswm o chwe wythnos. Cyfnod asesu ydyw i'ch helpu i adennill annibyniaeth gyda chefnogaeth tîm o weithwyr Gofal wedi’i Dargedu a Galluogi sy'n gweithio gyda chi, nid i chi, i gyflawni hyn. Os gwelir tystiolaeth o anghenion gofal hirdymor yn ystod y cyfnod asesu hwn, yna codir tâl ar y gwasanaeth o'r pwynt hwnnw a gwneir asesiad ariannol i benderfynu ar eich cyfraniad (os bydd un).

Fe'ch cefnogir gan dîm sy'n cynnwys gweithwyr gofal wedi’i dargedu a galluogi, Gweithwyr Cymdeithasol a Chynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol a fydd yn gweithio gyda chi i gyflawni’r amcanion y cytunir arnynt i ddiwallu eich anghenion presennol. Hefyd bydd gennych fynediad at Therapyddion Galwedigaethol, Cynorthwywyr Therapi a Gofal Cymdeithasol, a gweithwyr proffesiynol eraill e.e. nyrs os oes angen. Bydd y gefnogaeth a gewch gan y gwasanaeth gofal wedi'i dargedu a galluogi yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan ganolbwyntio ar eich cael chi i ddychwelyd i'r annibyniaeth a oedd gennych yn flaenorol. Gobeithio, erbyn diwedd y cyfnod asesu, y byddwch wedi cyflawni hyn, ond os bydd angen peth cymorth parhaus arnoch o hyd, trafodir hyn gyda chi a'ch gweithiwr cymdeithasol / cynorthwy-ydd gwaith cymdeithasol, a fydd yn rhoi darpariaethau ar waith er mwyn i asiantaeth gymryd drosodd eich pecyn gofal. Pan fyddant yn gallu gwneud hynny bydd yn cael ei drosglwyddo. Codir tâl am y gwasanaeth parhaus hwn ond cynigir asesiad ariannol i chi i weld faint o'r tâl hwn y gallech fod yn gymwys i'w dalu (os o gwbl).

Sut ellir cael mynediad i’r gwasanaeth?

Ffon: 01545 570881

E-bost: clic@ceredigion.gov.uk

Os ystyrir mai’r Gwasanaeth Gofal wedi’i Dargedu a Galluogi yw’r un mwyaf priodol ar gyfer eich anghenion chi, bydd rhywun o’r Gwasanaeth yn cysylltu â chi.

Gallwch hefyd gael eich cyfeirio at y Gwasanaeth gan naill ai eich Meddyg Teulu neu eich Nyrs Gymunedol.

Os ydych chi’n yr ysbyty mae’n bosib y bydd y staff sy’n gofalu amdanoch yn eich cyfeirio at y gwasanaeth.

Os nad ydych yn gymwys neu nid ydych yn dymuno derbyn gwasanaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae nifer o asiantaethau preifat ar gael sy’n gallu darparu gofal yn y cartref. Gallwch gysylltu â nhw yn uniongyrchol a derbyn y cymorth yr ydych ei eisiau ar delerau preifat.

Mae’n bosib y byddant hefyd yn gallu cynnig gwasanaethau ychwanegol nas cynigir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, er enghraifft siopa a glanhau. Mae staff yr asiantaethau a restrir ar Dewis Cymru wedi derbyn hyfforddiant, wedi’u gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (a’r Heddlu) ac wedi eu cofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i wefan Dewis Cymru, sef cyfeirlyfr o wasanaethau y gall pobl ei ddefnyddio er mwyn cael gwybod am wasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â Dewis ar gael ar wefan Dewis Cymru.