Priodi dramor – Tystysgrif Dim Rhwystr
Os ydych yn priodi neu’n ymrwymo i bartneriaeth sifil y tu allan i Gymru a Lloegr, mae rheolau gwahanol yn berthnasol yn dibynnu ar y wlad y bydd eich seremoni yn cael ei chynnal.
Yn gyntaf, dylech wirio gydag awdurdodau’r wlad y byddwch yn priodi neu’n ymrwymo i bartneriaeth sifil ynddi i gadarnhau beth yn union yw eu gofynion.
Gallwch ddefnyddio’r offeryn Getting Married Abroad ar wefan GOV.UK i gael gwybod pa ddogfennau sydd eu hangen arnoch a sut i wneud cais amdanynt.
Tystysgrif Dim Rhwystr
Bydd rhai gwledydd yn gofyn i chi roi hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil a chyflwyno Tystysgrif Dim Rhwystr er mwyn i’r seremoni fynd rhagddi. Mae hon yn dystysgrif sy’n cadarnhau nad oes gwrthwynebiad i briodas neu bartneriaeth sifil arfaethedig.
Rhaid cwblhau eich hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil yn bersonol yn eich swyddfa gofrestru leol. Os ydych yn byw yng Ngheredigion, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad i gyflwyno hysbysiad.
Pan fyddwch yn ffonio i drefnu eich apwyntiad byddwn yn trafod gyda chi pa ddogfennau y bydd yn ofynnol i chi eu dangos i’r swyddog cofrestru a’r ffi berthnasol.
Sylwch na ellir gwneud hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil oni bai:
- eich bod chi’n ddinesydd y DU, ac
- mae eich priodas neu’ch partneriaeth sifil yn cael ei chynnal mewn gwlad dramor, ond nid mewn gwlad Gymanwlad nac yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac
- rydych wedi byw yng Ngheredigion am yr wyth noson flaenorol yn union cyn cyflwyno eich hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil, ac
- mae’r awdurdodau tramor wedi gofyn i chi gael Tystysgrif Dim Rhwystr, ac
- rydym yn gallu cwblhau hysbysiad ar gyfer y wlad dan sylw, ac
- rydych yn gallu nodi’r dref, yr ardal a’r wlad y bydd eich seremoni yn cael ei chynnal
Ar ôl i’r cyfnod aros statudol o 28 diwrnod ddod i ben ar ôl gwneud hysbysiad, gellir cyflwyno’r Dystysgrif Dim Rhwystr ar yr amod na chyflwynwyd unrhyw wrthwynebiad neu rwystr i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil.
Gwybodaeth bwysig
Mae’n bwysig nodi efallai na fydd unrhyw Dystysgrif Dim Rhwystr a gyflwynir, ar ei phen ei hun, yn ddigon i ganiatáu i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil fynd rhagddi. Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cwblhau unrhyw ofynion cyfreithiol eraill y wlad yr ydych wedi’i dewis ar gyfer eich seremoni.
Yn ogystal, ni fydd yr awdurdodau lleol mewn rhai gwledydd yn derbyn y Dystysgrif Dim Rhwystr os yw wedi’i dyddio fwy na thri mis cyn dyddiad y seremoni. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio unrhyw gyfyngiadau o ran dyddiad a sicrhau y bydd eich dogfennau’n dderbyniol.
Ymylnodyn neu stamp cyfreithloni
Efallai y bydd y wlad lle cynhelir seremoni eich priodas neu’ch partneriaeth sifil yn ei gwneud yn ofynnol i'ch Tystysgrif Dim Rhwystr gael ymylnodyn neu stamp cyfreithloni. Mae'r stamp hwn yn cael ei roi ar y ddogfen gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ac mae'n cadarnhau bod y ddogfen yn ddilys. Bydd angen i chi ddarganfod a oes angen hyn a chaniatáu amser i hyn gael ei gwblhau. Ceir rhagor o wybodaeth am gyfreithloni'r dystysgrif ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Dychwelyd i’r Deyrnas Unedig
Wrth i chi ddychwelyd, nid oes angen i chi gofrestru eich priodas neu’ch partneriaeth sifil gyda gwasanaeth cofrestru Cymru a Lloegr. Nid oes gofyniad cyfreithiol na chyfleuster i adneuo copi o'ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil gyda'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Dylech felly wneud eich trefniadau eich hun i gadw tystysgrifau’n ddiogel.
Fel rheol gyffredinol, cyn belled â bod eich priodas neu’ch partneriaeth sifil yn ddilys ac yn gyfreithlon yn y wlad y cynhaliwyd eich seremoni, dylai hi gael ei chydnabod yn y Deyrnas Unedig. Os ydych yn amau p’un a yw eich seremoni’n gyfreithlon ai peidio, cysylltwch â chyfreithiwr.