Tai a Digartrefedd
Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu gyda materion tai a digartrefedd.
Cymorth i Aros
Gall cynllun Cymorth i Aros - Cymru gynnig cymorth i'r rhai sydd naill ai:
- yn cael anhawster ariannol i dalu eu morgais presennol
- yn wynebu anhawster ariannol i dalu eu morgais presennol
Mae'r cynllun yn cynnig cymorth i berchnogion tai ar ffurf benthyciad ecwiti a rennir.
Cael help i dalu eich morgais gyda benthyciad ecwiti a rennir Cymorth i Aros | LLYW.CYMRU
Opsiynau Tai Ceredigion
Mae'r wefan Opsiynau Tai Ceredigion yn cynnig gwybodaeth am yr opsiynau tai gwahanol sydd ar gael yng Ngheredigion. Ei nod yw galluogi pobl i edrych am gartref ac i wneud dewisiadau sy’n seiliedig ar wybodaeth lawn am yr opsiynau sydd fwyaf addas iddynt hwy.
Shelter Cymru
Rydym yn helpu miloedd o bobl bob blwyddyn ledled Cymru sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng tai drwy gynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol ac am ddim. Pan fo angen, rydym yn herio'n adeiladol ar ran pobl i sicrhau eu bod yn cael eu cynorthwyo’n iawn, ac i wella arferion a dysgu.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Shelter Cymru.