Cefnogaeth i Bobl Hŷn
Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yn benodol ar gyfer pobl hŷn a phensiynwyr.
Taliadau Tywydd Oer
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu Gredyd Cynhwysol byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer yn awtomatig bob tro y mae’n mynd yn oer iawn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Taliad Tywydd Oer y Llywodraeth.
Mannau Croeso Cynnes
Mae'r map hwn yn dangos lle mae'r Mannau Croeso Cynnes yng Ngheredigion. Mae'r manylion yn cynnwys amseroedd agor a syniad o'r hyn y gallwch ddod o hyd iddo pan fyddwch yn cyrraedd.
Gofal a Thrwsio Cymru
Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn elusen Gymreig, sy’n gweithio i sicrhau y gall pob person hŷn fyw’n annibynnol mewn cartref diogel, cynnes a chyfleus.
Age Cymru Dyfed
Mae Cyngor Age Cymru yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, diduedd ac arbenigol i bobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Cefnogaeth gyda Byw'n Annibynnol
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Canolfan Byw’n Annibynnol Penmorfa.
Ceredigion Oed Gyfeillgar
Cymunedau Oed-gyfeillgar yw mannau lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn cyd-weithio mewn partneriaeth i’n cefnogi a’n galluogi i heneiddio’n dda – Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Ceredigion Oed Gyfeillgar.