Skip to main content

Ceredigion County Council website

Plant a Theuluoedd Ifanc

Help gyda chostau bod â theulu ifanc, gan gynnwys cymorth gyda gofal plant.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Gallech gael un taliad o £500 i helpu tuag at gostau cael plentyn. Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer y Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn ar wefan y Llywodraeth.

Banc Bwndel Babi

Gweneud bywyd bach yn haws i rieni newydd neu rheiny sy’n disgwyl ac sydd mewn angen. Ewch i dudalen Banc Bwndel Babi ar wefan Plant Dewi.

Cychwyn Iach y GIG

Os ydych wedi bod yn feichiog am fwy na 10 wythnos neu os oes gennych blentyn dan 4 oed, efallai fod gennych hawl gael cymorth i brynu bwyd a llaeth iach. Mae’r dudalen Y Cynllun Cychwyn Iach ar wefan y GIG yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Prosiect Cewynnau Go Iawn

Ymgyrch Cewynnau Go Iawn - Dyma ymgyrch ar draws y Deyrnas Unedig sy’n hyrwyddo'r defnydd o gewynnau y gellir eu hailddefnyddio ac sy’n darparu gwybodaeth a chyngor diduedd i rieni ynglŷn â dewis cewynnau go iawn. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Prosiect Cewynnau Go Iawn.

Cynnig Gofal Plant i Gymru

Mae'r cynnig gofal plant ar agor i unrhyw deulu yng Ngheredigion cyn belled â'u bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Dechrau’n Deg

Gofal Plant sesiynol wedi'i ariannu o'r ansawdd uchaf ar gyfer plant 2-3 oed. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Dechrau'n Deg.

Credyd Cynhwysol a Gofal Plant

Efallai y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol. Mae’r dudalen Credyd Cynhwysol ar wefan y Llywodraeth yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Help i dalu am Gostau Gofal Plant

Cymorth gan y llywodraeth gyda chostau gofal plant i rieni. P'un a oes gennych blant bach neu bobl ifanc yn eu harddegau, gallech gael Cymorth. Ewch i dudalen Help Paying for your Childcare y Llywodraeth am ragor o wybodaeth.