Skip to main content

Ceredigion County Council website

Biliau’r Aelwyd ac Ynni

Help gyda chostau eich cartref gan gynnwys biliau ynni a chadw cartrefi'n gynnes.

 

Severn Wye Cyngor Ynni yn y Gymuned

Mae ein hymgynghorwyr cymunedol yng Ngheredigion yn ymweld â phobl yn eu gartref i gynnig cymorth gyda dyledion tanwydd a defnydd ynni.

Ffoniwch ni o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm i weld a allwn gynnig ymweliad i chi: 0800 170 1600

Tudalen Cyngor a Chymorth Severn Wye

Mwy o wybodaeth

 

Biliau Dŵr

Mae gan Dŵr Cymru nifer o ffyrdd y gallent o bosibl eich helpu a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy.

Cymorth â chostau byw | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)

 

Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Mae'r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn ostyngiad unwaith o £150 oddi ar eich bil trydan. Os ydych yn gymwys, bydd eich cyflenwr yn rhoi'r gostyngiad i'ch bil trydan. Efallai y gallwch chi gael y gostyngiad ar eich bil nwy yn lle hynny os yw’ch cyflenwr yn darparu nwy a thrydan i chi a’ch bod yn gymwys.

Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes: Trosolwg - GOV.UK (www.gov.uk)

 

Cost Offer Trydanol

Cymharwch pa offer sy’n defnyddio’r mwyaf a’r lleiaf o bwer ar wefan Citizen's Advice.

 

Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni

Cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref.

 

Taliadau Tywydd Oer

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu Gredyd Cynhwysol byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer o'r Llywodraeth yn awtomatig bob tro y mae’n mynd yn oer iawn.

 

Taliad Tanwydd Gaeaf

Os cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1958 gallech gael naill ai £200 neu £300 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi ar gyfer gaeaf 2024 i 2025. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth DU - Taliad Tanwydd Gaeaf

Os ydych wedi clywed am y newidiadau i Daliadau Tanwydd y Gaeaf, byddwch yn ymwybodol bod rhaid i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn erbyn 21 Rhagfyr 2024 i fod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd Gaeaf 2024 i 2025.

 

Clwb Clud - Clybiau Olew Ceredigion

Gall Clybiau Olew Ceredigion eich helpu i arbed arian, cysylltu â’r gymuned a lleihau allyriadau carbon.

 

Y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF)

O dan rai amgylchiadau gallech fod yn gymwys i gael Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) neu Daliad Cymorth i Unigolion (IAP). Gallwch ddarganfod a allech gael grant o Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) Llywodraeth Cymru.

 

Cynnyrch Mislif am Ddim

Mae Cyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â Chyngor Ieuenctid Ceredigion yn anelu at hyrwyddo urddas mislif a mynd i’r afael â thlodi mislif drwy ddefnyddio Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru.

 

Nyth

Mae Nyth yma i’ch helpu gyda chyngor diduedd am ddim y gallwch ymddiried ynddo. Gallwn ddarparu cyngor am effeithlonrwydd ynni ac os ydych yn gymwys, cynnig cymorth i osod gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cymorth a'r cyngor arbed ynni y gall Nyth ei ddarparu o'u gwefan.