Skip to main content

Ceredigion County Council website

Safle Gwastraff Cartref a Banciau Ailgylchu

Mae rheolau ein safleoedd wedi newid gweler y prif newidiadau isod.

Prif newidiadau

  • Prawf o gyfeiriad - Angen dangos prawf o gyfeiriad Ceredigion e.e. Trwydded Yrru, bil Treth Cyngor neu fil cyfleustodau
  • Mathau o wastraff - Canllawiau cliriach ar y math, cyfanswm a chyfyngiadau ar wastraff
  • Trwyddedau Dydd - Pa gerbydau sydd angen trwydded i ymweld â’r Safleoedd

Am fwy o wybodaeth gweler y rheolau newydd isod.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu pedwar Safle Gwastraff Cartref yn y sir.

Aberystwyth

Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. SY23 3JQ

Oriau agor:

    • Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00 -17:00
    • Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gŵyl y Banc 10:00 - 15:00
    • Ar Gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith

Aberteifi

Cyfeiriad: Cilmaenllwyd, Penparc, Cardigan. SA43 1RB

Oriau agor:

    • Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00 -17:00
    • Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gŵyl y Banc 10:00 - 15:00
    • Ar Gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith

Llanbedr Pont Steffan

Cyfeiriad: Yr Ystâd Ddiwydiannol, Heol Tregaron, Llanbedr Pont Steffan. SA48 8LT

Oriau agor:

    • Dydd Llun – Dydd Gwener 09:00 -17:00
    • Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gŵyl y Banc 10:00 - 15:00
    • Ar Gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith

Llanarth 

Cyfeiriad: Rhydeinon, Llanarth. SA47 0QP

Oriau agor:

    • Dydd Mercher, dydd Sadwrn a dydd Sul 10:00-17:00

Dewch o hyd i'ch Banc Ailgylchu agosaf yn Ceredigion

Gellir dod o hyd i fanciau ailgylchu ar draws Ceredigion er mwyn ailgylchu nwyddau megis gwydr a tecstilau. Fel arfer mae’r banciau ailgylchu wedi’u lleoli o fewn meysydd parcio.

A i Y o drefi a phentrefi sydd â banciau ailgylchu

Map Rhyngweithiol

  • Diemwnt Gwyrdd = Safle Gwastraff Cartref
  • Sgwâr Glas = Banc Ailgylchu
  • Cylch Coch = Canolfan Ailgylchu