Prosiect Cewynnau Go Iawn
Ymgyrch Cewynnau Go Iawn - Dyma ymgyrch ar draws y Deyrnas Unedig sy’n hyrwyddo'r defnydd o gewynnau y gellir eu hailddefnyddio ac sy’n darparu gwybodaeth a chyngor diduedd i rieni ynglŷn â dewis cewynnau go iawn.
Pam ddylwn i ddefnyddio Cewynnau Go Iawn?
Mae cewynnau go iawn yn:
- Naturiol - Wedi eu gwneud yn bennaf o ffibrau naturiol heb geliau cemegol na phylp papur
 - Hawdd eu defnyddio - Maent yn cau gyda felcro neu glecwyr felly does dim angen pinnau
 - Hawdd eu golchi - Does dim angen eu trochi na'u berwi – dim ond eu golchi ar 60˚C. Gellir rhoi leiners bioddiraddadwy i lawr y toiled
 - Rhatach - Gallwch arbed hyd at £500 i'ch plentyn cyntaf. Gall llawer o gewynnau gael eu defnyddio gan fwy nag un plentyn, sy'n golygu hyd yn oed mwy o arbedion
 - Hwyl - Ceir gwahanol fathau o ddefnydd a chynlluniau i gewynnau go iawn
 - Iachus i’r Baban - Mae’r Cewynnau Go Iawn swmpus yn sicrhau fod cluniau’r baban yn cael eu cadw y pellter cywir ar wahân, gan leihau cyflyrau megis “Cluniau sy’n clicio”
 - Hyfforddiant Toiled - Yn gyffredinol, mae babanod sy’n gwisgo cewynnau go iawn yn tueddu i hyfforddi i fynd i’r toiled ynghynt, gan eu bod yn medru gwneud y cysylltiad rhwng cewyn gwlyb a’r angen i fynd i’r toiled
 
Er mwyn annog pobl i ddefnyddio cewynnau go iawn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnig pecyn o Gewynnau Go Iawn i’w treialu gwerth £40 AM DDIM i rieni newydd sy’n byw yng Ngheredigion.
Mae’r pecyn o Gewynnau Go Iawn i’w treialu yn cynnwys y canlynol:
- Cewyn fflat
 - Cewyn wedi’i siapio
 - Gorchudd Gwrth-ddŵr
 - Cewyn Cyflawn (o’r crud i’r poti)
 - Rholyn o leinwyr y gellir eu rhoi i lawr y toiled
 - Leinin o wlân cotwm y gellir ei olchi
 
Ffeithiau Cewynnau Go Iawn
Dewch i ddarganfod mwy am Gewynnau Go Iawn wrth i rieni yng Ngheredigion rannu eu profiadau am ddefnyddio'r cewynnau yn yr Astudiaethau Achos Cewynnau Go Iawn.
Er mwyn hawlio eich pecyn rhad ac am ddim, ffoniwch 01545 570881. Gofynnir y cwestiynau canlynol i chi:
- Eich manylion cyswllt: Enw, cyfeiriad a rhif ffôn
 - Manylion y babi: Oedran a phwysau'r babi (neu'r dyddiad y disgwylir iddo gael ei eni)
 - Gwybodaeth ychwanegol: Enw'r Ymwelydd Iechyd neu'r Fydwraig
 
Nodwch os ydych eisoes wedi derbyn pecyn treialu o gewynnau go iawn, ni fyddwch yn medru derbyn pecyn arall oni bai mewn amgylchiadau arbennig.