Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff
Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.
Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.
Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.
Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.
Diolch.
Os na chaiff eich gwastraff ei gasglu fel y trefnwyd, cyflwynwch ef eto ar eich diwrnod casglu nesaf. Lle nad ydym wedi gallu casglu gwastraff gweddilliol, byddwn yn rhannu gwybodaeth isod gyda chyngor penodol am unrhyw newidiadau dros dro i'r cyfyngiadau gwastraff gweddilliol.
| Dyddiad | Ardal wedi’i effeithio | Math o wastraff sydd wedi’i effeithio | Rheswm | Cyngor |
|---|---|---|---|---|
| 13eg Awst 2026 | Rhydlewis, Glynarthen, Beulah, Betws Ifan, Llangrannog, Pontgarreg llwybr 123 |
Bagiau Ailgylchu Clir, Gwastraff Bwyd, Gwydr a Bagiau Du | Problemau gyda staffio | Rhedeg yn hwyr - Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Sadwrn 15fed Awst 2026 |
| 13eg Awst 2026 | Pencae llwybr 129 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Problemau mynediad | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Iau 20fed Awst 2026 |
| 12fed Awst 2026 | Aberteifi, Penparc llwybr 104 |
Gwastraff Bwyd | Problemau gyda'r fflyd | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Sadwrn 15fed Awst 2026 |
Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf