Skip to main content

Ceredigion County Council website

Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff

Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.

Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.

Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.

Diolch.

Dyddiad Ardal wedi’i effeithio Math o wastraff sydd wedi’i effeithio Rheswm Cyngor
8fed Mai 2025 Llanwenog, Penffordd, Brynteg, Rhuddlan
llwybr 170
Gwastraff Bwyd Problemau gyda'r fflyd Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Gwener 9fed Mai 2025
8fed Mai 2025 Llanon, Nebo, Llanrhystud, Llanddeiniol, Cross Inn (G), Pennant, Trefenter
llwybr 167
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd Problemau gyda staffio Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Gwener 9fed Mai 2025

Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf